Scriptures
Helaman 4


Pennod Ⅳ.

Ac yn awr, dygwyddodd yn y ddeuddegfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr, fod yr amrafaelion yn cynnyddu, yn gymmaint â bod rhyfeloedd trwy yr holl dir, yn mhlith holl bobl Nephi. A’r llu dirgelaidd hyny o yspeilwyr oedd yn cario yn mlaen y gwaith hwn o ddinystr a drygioni. A’r rhyfel hwn a barhaodd yr holl flwyddyn hono. A pharhaodd hefyd yn y drydedd flwyddyn ar ddeg a thrugain.

A bu yn y flwyddyn yma, i Nephi alw ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, na oddefa i’r bobl hyn gale eu dyfetha trwy y cleddyf; eithr, O Arglwydd, yn hytrach bydded newyn yn y tir, i’w cyffroi hwynt i gofio am yr Arglwydd eu Duw, ac hwyrach yr edifarhant ac y dychwelant atat ti; ac felly y gwnaethwyd, yn ol geiriau Nephi. Ac yr oedd newyn mawr yn y tir, yn mhlith holl bobl Nephi. Ac felly yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg a thrugain, y newyn a barhaodd, a pheidiodd y gwaith o ddinystrio trwy y cleddyf, eithr aeth yn flin trwy newyn. A’r gwaith hwn o ddinystrio a barhaodd hefyd yn y bymthegfed flwyddyn a thrugain. Canys tarawyd y ddaear nes yr oedd yn sych, ac ni roddai ŷd yn y tymmor ŷd; ac yr oedd yr holl ddaear wedi ei tharaw, yn mhlith y Lamaniaid yn gystal ag yn mhlith y Nephiaid, fel ag yr oeddynt wedi eu taraw nes y trengent wrth y miloedd yn y rhanau mwyaf drygionus o’r tir.

A bu i’r bobl weled eu bod ynghylch marw o newyn, a hwy a ddechreuasant gofio yr Arglwydd eu Duw; a dechreuasant gofio geiriau Nephi. A dechreuodd y bobl ymbil â’u prif farnwr a’u blaenoriaid, am iddynt ddywedyd wrth Nephi, Wele, ni a wyddom mai gwr Duw wyt ti, ac am hyny galwa ar yr Arglwydd ein Duw, i droi ymaith oddi wrthym y newyn hwn, rhag i’r holl eiriau a lefaraist ti ynghylch ein dinystr gael eu cyflawni. A bu i’r barnwyr ddywedyd wrth Nephi, yn ol y geiriau a ddymuniad. A bu pan welodd Nephi fod y bobl wedi edifarhau, ac wedi ymostwng mewn sachlian, iddo alw drachefn ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, wele, mae y bobl hyn yn edifarhau; ac y maent wedi ysgubo llu Gadianton ymaith o’u mysg, yn gymmaint â’u bod wedi cael eu difodi, ac y maent wedi cuddio eu cynlluniau dirgelaidd yn y ddaear. Yn awr, O Arglwydd, oblegid eu gostyngeiddrwydd hwn, a wnai di droi ymaith dy lid, a gadael i’th ddigter gael ei foddloni yn ninystr y dynion drygionus hyny ag wyt eisoes wedi eu dyfetha? O Arglwydd, a wnai di droi ymaith dy ddigter, ië, dy ddigter llidiog, a pheri i’r newyn hwn beidio yn y tir hwn? O Arglwydd, a wrandewi arnaf, a pheri gwneuthur yn ol fy ngeiriau, a danfon gwlaw ar wyneb y ddaear, fel y dygo ei ffrwyth a’i ŷd, yn nhymmor yr ŷd? O Arglwydd, ti a wrandawaist ar fy ngeiriau pan y dywedais, Bydded newyn, fel y peidiai haint y cleddyf; ac mi a wn y gwnai, ië, yr amser hwn, wrandaw ar fy ngeiriau, canys ti a ddywedaist, Os edifarha y bobl hyn, mi a’u harbedaf; ië, O Arglwydd, a thi a weli eu bod wedi edifarhau, o herwydd y newyn, a’r haint a’r dinystr sydd wedi dyfod arnynt. Ac yn awr, O Arglwydd, a wnai di droi ymaith dy lid, a threio drachefn os gwasanaethant di? Ac os felly, O Arglwydd, gelli eu bendithio yn ol dy eiriau y rhai a lefaraist.

A bu yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg a thrugain, i’r Arglwydd droi ymaith ei lid oddiwrth y bobl, a pheri i wlaw syrthio ar y daear, yn gymmaint ag iddi ddwyn ei ffrwyth yn nhymmor ei ffrwyth. A bu iddi ddwyn ei ŷd, yn nhymmor ei ŷd. Ac wele, y bobl a orfoleddent, ac a ogoneddent Dduw, ac holl wyneb y tir a lenwid o lawenydd; ac ni cheisient mwyach ddyfetha Nephi, eithr cyfrifent ef fel prophwyd mawr, ac yn wr Duw, wedi derbyn gallu ac awdurdod mawr gan Dduw. Ac wele, nid oedd Lehi, ei frawd, ddim mymryn ar ei ol, gyda golwg ar bethau perthynol i iachawdwriaeth. Ac felly y dygwyddodd i bobl Nephi ddechreu llwyddo drachefn yn y tir, a dechreu adeiladu eu lleoedd anrheithiedig, a dechreu lliosogi, a lledaenu, hyd nes y gorchuddient holl wyneb y tir, ar y gogledd ac ar y deau, o’r môr gorllewinol i’r môr dwyreiniol. A bu ‘r unfed flwyddyn ar bymtheg a thrugain derfynu mewn heddwch. A’r ddwyfed flwyddyn ar bymtheg a thrugain a ddechreuodd mewn heddwch; a’r eglwys a ymledaenodd dros wyneb yr holl dir; a’r rhan fwyaf o’r bobl, y Nephiaid a’r Lamaniaid, a berthynent i’r eglwys; a hwy a gawsant heddwch mawr yn y tir, ac felly y terfynodd y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg a thrugain. A chawsant heddwch hefyd yn y ddeunawfed flwyddyn a thrugain, oddieithr ychydig o amrafaelion ynghylch y pynciau o athrawiaeth a osodwyd i lawr gan y prophwydi. Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg a thrugain, dechreuodd fod llawer o amryson. Eithr dygwyddodd i Nephi a Lehi, ac amryw o’u brodyr, y rhai a wyddent ynghylch y gwir bynciau o athrawiaeth, gan y caent lawer o ddadguddiadau yn ddyddiol, bregethu wrth y bobl, yn gymmaint ag iddynt osod terfyn ar eu hamryson yn y flwyddyn hono.

A dygwyddodd yn y pedwar-ugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, i ryw nifer o ymneillduwyr oddiwrth y Nephiaid, ag oedd rai blynyddau yn flaenorol wedi myned drosodd at y Lamaniaid, a chymmeryd arnynt enw y Lamaniaid; ac hefyd ryw nifer ag oedd yn wir ddisgynyddion o’r Lamaniaid, gan gael eu cyffroi i ddigofaint ganddynt hwy, neu gan yr ymneillduwyr hyny, ac o ganlyniad iddynt ddechreu rhyfel â’u brodyr. A hwy a lofruddient ac a yspeilient; ac yna cilient yn ol i’r mynyddoedd, ac i’r anialwch, a lleoedd dirgel, gan guddio eu hunain fel nas gellid eu canfod, a chan dderbyn yn ddyddiol ychwanegiad at eu rhifedi, yn gymmaint â bod ymneillduwyr ag oedd yn myned allan atynt; ac felly mewn amser, ïe, sef mewn yspaid nemawr o flynyddau, daethant yn llu mawr iawn o yspeilwyr; a hwy a chwiliasant allan holl gynlluniau dirgelaidd Gadianton; ac felly yr aethant yn yspeilwyr Gadianton. Yn awr, wele, yr oedd yr yspeilwyr hyn yn gwneuthur difrod mawr, ïe, sef dystryw mawr yn mhlith pobl Nephi, ac hefyd yn mhlith pobl y Lamaniaid.

A bu fod yn anghenrheidiol gosod attalfa ar y gwaith hwn o ddystrywio; am hyny, hwy a ddanfonasant fyddin o wyr nerthol i’r anialwch, ac i’r mynyddoedd, i chwilio allan y llu yspeilwyr hyn, a’u dyfetha. Eithr wele, dygwyddodd yn y flwyddyn hono, iddynt gael eu gyru yn ol i’w tiroedd eu hunain. Ac felly y terfynodd y pedwar-ugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.

A bu yn nechreu yr unfed flwyddyn a phedwar ugain, iddynt fyned allan drachefn yn erbyn y llu yspeilwyr hyn, a dyfetha llawer; ac ymwelwyd â hwythau hefyd gan fawr ddinystr; a gorfodwyd hwynt drachefn i ddychwelyd o’r anialwch, ac o’r mynyddoedd, i’w tiroedd eu hunain, o herwydd lliosogrwydd mawr yr yspeilwyr hyny a gyfanneddent y mynyddoedd a’r anialwch. A bu mai felly y terfynodd y flwyddyn hon. A’r yspeilwyr a liosogent ac a gryf haent o hyd, yn gymmaint ag iddynt hèrio holl fyddinoedd y Nephiaid, ac eiddo y Lamaniaid hefyd; a hwy a achosent i ofn mawr ddyfod ar y bobl, ar holl wyneb y tir; ïe, canys hwy a ymwelent ag amryw ranau o’r tir, ac a wnaent ddystryw mawr iddynt; ïe, lladdent laweroedd, a chaethgludent ereill i’r anialwch; ïe, ac yn fwy neillduol eu gwragedd a’u plant. Yn awr, y drwg mawr hwn, ag a ddaeth ar y bobl oblegid eu hanwiredd, a’u cyffrodd hwynt drachefn i gofio yr Arglwydd eu Duw. Ac felly y terfynodd yr unfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr. Ac yn y ddwyfed flwyddyn a phedwar ugain, dechreuasant drachefn i anghofio yr Arglwydd eu Duw. Ac yn y drydedd flwyddyn a phedwar ugain, dechreuasant gynnyddu mewn anwiredd. Ac yn y bedwaredd flwyddyn a phedwar ugain, ni ddiwygiasant eu ffyrdd. A bu yn y bummed flwyddyn a phedwar ugain, iddynt fyned yn gryfach gryfach yn eu balchder, ac yn eu drygioni; ac felly yr oeddynt yn addfedu drachefn i ddinystr. Ac felly y terfynodd y bummed flwyddyn a phedwar ugain. Ac felly gallwn weled pa mor dwyllodrus, a pha mor ansefydlog yw calonau meibion dynion; ïe, gallwn weled fod yr Arglwydd yn ei fawr ddaioni anfeidrol, yn bendithio a llwyddo y rhai a osodant eu hymddiried ynddo; ïe, a gallwn weled hyd y nod yr amser y mae efe yn llwyddo ei bobl; ïe, yn nghynnyrch eu maesydd, eu da, a’u defaid, ac mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pob math o bethau gwerthfawr o bob natur, a chelfyddyd; gan arbed eu bywydau, a’u gwaredu allan o ddwylaw eu gelynion; gan feddalhau calonau eu gelynion, fel na chyhoeddent ryfeloedd yn eu herbyn hwynt; ïe, ac yn fyr, gan wneuthur pob peth er lles a dedwyddwch ei bobl; ïe, y pryd hwnw yw yr amser y maent yn caledu eu calonau, ac yn anghofio yr Arglwydd eu Duw, ac yn mathru ei Sanct dan eu traed; ïe, a hyn o herwydd eu hesmwythyd, a’u dirfawr lwyddiant. Ac felly gwelwn, os na cherydda yr Arglwydd ei bobl â llawer o gystuddiau, ïe, os na ymwela â marwolaeth, ac â dychryn, ac â newyn, ac â phob math o heintiau, nis cofiant ef. O, mor ffol, ac mor ofer, a drwg, a chythreulig, ac mor gyflym i weithredu anwiredd, ac mor hwyrfrydig i wneuthur daioni, yw plant dynion; ïe, mor gyflym i wrandaw ar eiriau yr un drwg, ac i osod eu calonau ar wag-bethau y byd; ïe, mor gyflym i ymddyrchafu mewn balchder; ïe, mor gyflym i ymffrostio, a gwneuthur pob math o’r hyn sydd yn ddrygioni; ac mor hwyrfrydig y maent i gofio yr Arglwydd eu Duw, ac i roddi clust i’w gynghorion; ïe, mor hwyrfrydig i rodio yn llwybrau gwirionedd! Wele, nid ydynt yn chwennych i’r Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u creodd hwynt, lywodraethu a theyrnasu arnynt, er ei fawr ddaioni a’i drugaredd tuag atynt; dirmygant ei gynghorion, ac ni fynant iddo ef fod yn arweinydd arnynt. O mor fawr yw diddymdra plant dynion; ïe, y maent yn llai nâ llwch y ddaear. Canys wele, y mae llwch y ddaear yn symud yma ac acw, hyd at ymwahanu, wrth orchymyn ein Duw mawr a thragywyddol; ïe, wele, wrth ei lef y mae y brynian a’r mynyddoedd yn crynu ac yn ymysgwyd; a thrwy allu ei lef yr ymchwalant ac y deuant yn wastad, ïe, yn gyffelyb i ddyffryn; ïe, trwy allu ei lef y gwna i’r holl ddaear grynu; ïe, trwy allu ei lef y gwna i’r sylfaeni ymsiglo, ïe, yn gyffelyb i ddyffryn; ïe, trwy allu ei lef y gwna i’r holl ddaear grynu: ïe, trwy allu ei lef y gwna i’r sylfaeni ymsiglo, ïe, hyd y nod i’r canol; ïe, ac os dyweda wrth y ddaear, Ymsymud, hi a symudir; ïe, os dyweda wrth y ddaear, Ti a gai fyned yn dy ol, fel yr estyner y dydd amryw oriau, caiff ei wneuthur; ac felly yn ol ei air, mae y ddaear yn myned yn eu hol, ac y mae yn ymddangos i ddyn fod yr haul yn sefyll; ïe, ac wele, felly y mae; canys diau mai y ddaear sydd yn symud, ac nid yr haul. Ac wele, hefyd, os dyweda wrth ddyfroedd y dyfnder mawr, Sycher chwi i fyny, caiff ei wneuthur. Wele, os dyweda wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a dos drosodd a syrthia ar y ddinas hona, fel y cladder hi, wele, caiff ei wneuthur. Ac wele, os cuddia dyn drysor yn y ddaear, ac i’r Arglwydd ddywedyd. Melldithier ef o herwydd anwiredd yr hwn a’i cuddiodd, wele, caiff ei felldithio; ac os dyweda yr Arglwydd, melldithier di, fel na chaffo neb di o’r amser hwn allan ac yn dragywydd, wele, ni chaiff neb ef o hyn allan ac yn dragywydd. Ac wele, os dyweda yr Arglwydd wrth ddyn, O achos dy anwireddau ti a felldithir yn dragywydd, caiff ei wneuthur. Ac os dyweda yr Arglwydd, O achos dy anwireddau, ti a dorir ymaith o’m presennoldeb, efe a bar iddi fod felly. A gwae yr hwn wrth ba un y dywedo efe hyn, canys efe a fydd i’r hwn a weithredo anwiredd, ac nis gellir ei achub; am hyny, i’r dyben yma, fel yr achubir dynion, y traethwyd edifeirwch. Gan hyny, gwynfyd y rhai a edifarhant ac a wrandawant ar lais yr Arglwydd eu Duw; canys y rhai hyn yw y rhai a achubir. A chaniataed Duw, o’i fawr gyflawnder, i ddynion gael eu dwyn i edifeirwch a gweithredoedd da, fel yr adferer hwynt i râs am râs, yn ol eu gweithredoedd. Ac mi a ewyllysiwn i bob dyn gael ei achub. Ond yr ydym yn darllen am y dydd mawr a diweddaf, fod rhai ag a gânt eu bwrw allan; ïe, y rhai a fwrir ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd; ïe, y rhai a drosglwyddir i sefyllfa o drueni diddiwedd, gan gyflawni y geiriau a ddywedant, Y rhai a wnaethant dda, a gânt fywyd tragywyddol; a’r rhai a wnaethant ddrwg, a gânt ddamnedigaeth dragywyddol. Ac felly y mae. Amen.