Scriptures
Helaman 3


Pennod Ⅲ.

Prophwydoliaeth Nephi, fab Helaman.—Duw yn bwgwth pobl Nephi, yr ymwel efe â hwynt yn ei ddigter, er eu llwyr ddinystr, oddieithr iddynt edifarhau am eu drygioni. Duw yn taraw pobl Nephi â haint; y maent yn edifarhau, ac yn troi ato. Samuel, Lamaniad, yn prophwydo wrth y Nephiaid.

Wele, yn awr, dygwyddodd yn y nawfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl y Nephiaid, i Nephi, fab Helaman, ddychwelyd i dir Zarahemla, o’r wlad ogleddol: canys efe a fu allan yn mhlith y bobl ag oedd yn y wlad ogleddol, ac a bregethodd air Duw iddynt, ac a brophwydodd lawer o bethau wrthynt; a hwy a wrthodasant ei holl eiriau, yn gymmaint ag nas gallai efe aros yn eu plith, eithr dychwelyd drachefn i wlad ei enedigaeth; a chan weled y bobl mewn sefyllfa o ddrygioni mor enbyd, a’r yspeilwyr Gadiantonaidd yn llenwi y gorseddau barnol; wedi traws-feddiannu gallu ac awdurdod y tir; gan droi o’r neilldu orchymynion Duw, ac heb fod yn y mesur lleiaf yn gywir ger ei fron: heb fod yn gweithredu cyfiawnder tuag at blant dynion; yn condemnio y cyfiawn o herwydd ei gyfiawnder, gan adael yr euog a’r drygionus i fyned yn ddigosp, o herwydd eu harian; ac yn mhellach, yn cael eu cynnal mewn swydd wrth ben y llywodraeth, i reoli a gwneuthur yn ol eu hewyllys, fel y gallent gael elw a gogoniant y byd; ac yn mhellach, fel y gallent yn rhwyddach odinebu, a lladrata, a lladd, a gwneuthur yn ol eu hewyllys en hunain. Yn awr, yr oedd yr anwiredd mawr hwn wedi dyfod ar y Nephiaid, mewn yspaid nemawr o flynyddau; a phan welodd Nephi ef, ei galon a chwyddodd gan dristwch o fewn ei fron; ac efe a waeddodd yn nghyfyngder ei enaid, O na fuaswn wedi cael fy nyddiau yn y dyddiau y daeth fy nhad Nephi gyntaf allan o wlad Jerusalem, fel y llawenychwn gydag ef yn ngwlad yr addewid; y pryd hyny yr oedd ei bobl yn hawdd eu trin, yn ddiysgog i gadw gorchymynion Duw, ac yn hwyrfrydig i gael eu harwain i weithredu drygioni; ac yr oeddynt yn gyflym i wrandaw ar eiriau yr Arglwydd; ïe, pe gallasai fy nyddiau fod yn y dyddiau hyny, yna fy enaid a gawsai lawenydd yn nghyfiawnder fy mrodyr. Eithr wele, rhoddwyd i mi mai y rhai hyn yw fy nyddiau, a bod i’m henaid gael ei lanw â thristwch, o herwydd y drygioni hwn o eiddo fy mrodyr. Ac wele, yn awr, dygwyddodd fod hyn ar dŵr, yr hwn oedd yn ngardd Nephi, yr hon oedd wrth brif-ffordd a arweiniai i’r brif farchnad, yr hon oedd yn ninas Zarahemla; gan hyny, yr oedd Nephi wedi ymblygu ar y tŵr ag oedd yn ei ardd, yr hwn dŵr oedd hefyd yn agos i borth yr ardd yr hwn a arweiniai i’r brif-ffordd.

A dygwyddodd fod rhyw ddynion yn myned heibio, ac iddynt weled Nephi pan yr oedd yn tywallt ei enaid i Dduw ar y tŵr, a hwy a redasant ac a fynegasant i’r bobl yr hyn a welsant, a’r bobl a ddaethant ynghyd yn dorfeydd, fel y gwybyddent yr achos o gymmaint galar oblegid drygioni y bobl. Ac yn awr, pan gyfododd Nephi, efe a welodd y torfeydd pobl ag oedd wedi ymgasglu ynghyd. A bu iddo agor ei enau a dywedyd wrthynt, Wele, paham yr ymgasglasoch ynghyd? Ai fel y mynegwyf wrthych am eich anwireddau? Ië, o herwydd fy mod wedi myned ar fy nhŵr, fel y tywalltwn fy enaid i Dduw, oblegid mawr dristwch fy nghalon, yr hyn sydd o achos eich anwireddau chwi? Ac o herwydd fy ngalar a’m cwynfan, yr ydych wedi ymgasglu ynghyd, ac yn rhyfeddu; ïe, ac y mae genych achos mawr i ryfeddu; ïe, chwi a ddylech ryfeddu, oblegid yr ydych wedi eich rhoddi ymaith nes y mae’r diafol wedi cael gafael mor fawr ar eich calonau; ïe, pa fodd y gallech fod wedi ymroddi ymaith i ddeniadau yr hwn ag oedd yn ceisio taflu ymaith eich eneidiau i ddinystr tragywyddol a gwae diddarfod? O edifarhewch, edifarhewch! Paham y byddwch feirw? Dychwelwch, dychwelwch at yr Arglwydd eich Duw. Paham y gadawodd chwi? O herwydd eich bod wedi caledu eich calonau; ïe, ni wrandewch ar lais y bugail da; ïe, chwi a’i cyffroisoch ef i ddigofaint yn eich erbyn. Ac wele, yn lle eich casglu, oni edifarhewch, wele, efe a’ch gwasgara allan fel y deuoch yn gig i gŵn ac anifeiliaid gwylltion. O! pa fodd y gallech anghofio eich Duw yn yr un dydd ag y gwaredodd chwi? Eithr wele, hyn sydd er mwyn cael elw, i gael eich clodfori gan ddynion; ïe, ac fel y gallech gael aur ac arian. A chwi a osodasoch eich calonau ar gyfoeth a gwag-bethau y byd hwn, er mwyn yr hyn y llofruddiwch, ac yr yspeiliwch, ac y lladratäwch, ac y dygwch gam-dystiolaeth yn erbyn eich cymmydog, a chyflawni pob math o anwiredd; ac o herwydd hyn, gwae a ddaw arnoch, os na edifarhewch. Canys oni edifarhewch, wele, y ddinas fawr hon, ac hefyd yr holl ddinasoedd mawrion ag ydynt oddiamgylch, y rhai ydynt yn nhir ein hetifeddiaeth, a gymmerir ymaith, fel na chaffoch chwi le ynddynt; canys wele, ni rydd yr Arglwydd nerth i chwi, megys ag y gwnaeth hyd yma, i wrthsefyll yn erbyn eich gelynion; canys wele, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni amlygaf fy nerth i’r drygionus, i un yn fwy nâ’r llall, oddieithr i’r rhai sydd yn edifarhau am eu pechodau, ac yn gwrandaw ar fy ngeiriau; yn awr, gan hyny, mi a ewyllysiwn i chwi weled, fy mrodyr, y bydd yn well ar y Lamaniaid nag arnoch chwi, oni edifarhewch: canys wele, y maent hwy yn gyfiawnach nâ chwi, oblegid ni phechasant hwy yn erbyn y wybodaeth fawr hono a dderbyniasoch chwi; am hyny, yr Arglwydd a fydd drugarog wrthynt hwy; ïe, efe a estyn eu dyddiau ac a amlha eu had, pan y byddwch chwi wedi eich llwyr ddyfetha, oni edifarhewch; ïe, gwae chwi o herwydd y ffieidd-dra mawr hwnw sydd wedi dyfod i’ch mysg; a chwi a ymunasoch ag ef; ïe, â’r llu dirgel hwnw a sefydlwyd gan Gadianton; ïe, gwae chwi o herwydd y balchder hwna a oddefasoch i fyned i’ch calonau, yr hyn a’ch dyrchafodd chwi uwchlaw yr hyn sydd yn dda, o herwydd eich dirfawr gyfoeth; ïe, gwae chwi o herwydd eich drygioni a’ch ffieidd-dra. Ac oni edifarhewch, chwi a ddyfethir; ïe, hyd y nod eich tiroedd a gymmerir oddiwrthych, a chwithau a ddyfethir oddiar wyneb y ddaear. Wele, yn awr, nid wyf yn dywedyd y bydd y pethau hyn, o honof fy hun, oblegid nid o honof fy hun y gwn y pethau hyn, eithr wele, mi a wn fod y pethau hyn yn wir, o herwydd fod yr Arglwydd wedi eu hysbysu i mi; am hyny, yr wyf yn tystiolaethu y byddant.

Ac yn awr, dygwyddodd, pan ddywedodd Nephi y geiriau hyn, fod yno ddynion ag oedd yn farnwyr, y rhai hefyd a berthynent i lu dirgel Gadianton, ac yr oeddynt yn ddigllawn, a gwaeddasant allan yn ei erbyn ef, gan ddywedyd wrth y bobl, Paham na ddaliwch y dyn hwn, a’i ddwyn yn mlaen, fel y condemnier ef yn ol y trosedd a wnaeth? Paham yr edrychwch ar y dyn hwn, a’i glywed yn cablu yn erbyn y bobl hyn ac yn erbyn ein cyfraith? Canys wele, yr oedd Nephi wedi llefaru wrthynt ynghylch llygredigaeth eu cyfraith; ïe, llawer o bethau a lefarodd Nephi, y rhai nis gellir eu hysgrifenu; ac ni lefarodd efe ddim ag oedd yn groes i orchymynion Duw. Ac yr oedd y barnwyr hyny yn ddigllawn wrtho, oblegid iddo lefaru yn eglur wrthynt ynghylch eu dirgel weithredoedd o dywyllwch; er hyny, ni feiddient osod eu dwylaw eu hunain arno, canys hwy a ofnent y bobl rhag iddynt waeddi allan yn eu herbyn hwynt; am hyny, hwy a waeddasant ar y bobl, gan ddywedyd, Paham y goddefwch i’r dyn hwn gablu yn ein herbyn ni? Canys, wele, y mae efe yn condemnio yr holl bobl hyn. Hyd at ddinystr; ïe, ac hefyd y caiff ein dinasoedd mawrion hyn eu cymmeryd oddiwrthym, fel na chaffom ni le ynddynt. Ac yn awr, ni a wyddom fod hyn yn anmhosibl; canys wele, yr ydym ni yn alluog, a’n dinasoedd yn fawrion; am hyny, nis gall ein gelynion gael un gallu drosom. A bu mai felly y cyffroisant y bobl i ddigofaint yn erbyn Nephi, ac y cyfodasant amrafaelion yn eu mysg; canys yr oedd rhai a waeddent allan, Gadewch y dyn hwn yn llonydd, canys dyn da ydyw, a’r pethau yny a lefarodd yn ddiau a ddeuant oddiamgylch, oni edifarhawn; ïe, wele, yr holl farnedigaethau a ddeuant arnom, y rhai a dystiolaethodd efe wrthym; canys ni a wyddom ei fod wedi tystiolaethu yn gywir wrthym am ein hanwireddau. Ac wele, y maent yn llawer, ac efe a ŵyr am bob peth a ddygwydd i ni, yn gystal ag y gŵyr am ein hanwireddau; ïe, ac wele, oni bai ei fod yn brophwyd, nis gallasai dystiolaethu am y pethau hyny. A bu i’r bobl a geisient ddyfetha Nephi, gael eu gorfodi o herwydd eu hofn, na osodent eu dwylaw arno; am hyny, efe a ddechreuodd drachefn i lefaru wrthynt, gan weled ei fod wedi cael ffafr yn ngolwg rhai, yn gymmaint ag i’r gweddill o honynt ofni; am hyny, efe a gymhellwyd i lefaru ychwaneg wrthynt, gan ddywedyd, Wele, fy mrodyr, ai nid ydych wedi darllen fod Duw wedi rhoddi gallu i un dyn, sef Mosews, i daraw dyfroedd y Môr Coch, a hwy a ymranasant yma ac acw, yn gymmaint ag i’r Israeliaid, y rhai oeddynt ein tadau, ddyfod drosodd ar dir sych, a’r dyfroedd a gauasant ar fyddinoedd yr Aifftiaid, ac a’u llyncasant i fyny?

Ac yn awr, wele, os rhoddodd Duw i’r dyn hwn y fath allu, yna paham y dadleuwch chwi yn mhlith eich hunain, a dywedyd na roddodd efe i mi allu trwy yr hwn y gallaf wybod ynghylch y barnedigaethau a ddeuant arnoch, oni edifarhewch? Eithr, wele, nid yn unig yr ydych yn gwadu fy ngeiriau i, ond yr ydych hefyd yn gwadu yr holl eiriau a lefarwyd gan ein tadau, ac hefyd y geiriau a lefarwyd gan y dyn hwn, Moses, i’r hwn yr oedd y fath allu mawr wedi ei roddi; ïe, y geiriau a lefarodd efe ynghylch dyfodiad y Messiah. Ië, oni ddygodd efe dystiolaeth y deuai Mab Duw? Ac megys y dyrchafodd efe y sarff bres yn yr anialwch, felly hefyd y dyrchefir yntau yr hwn a ddeuai. A chynnifer ag a edrychent ar y sarff hono, a gaent fyw; felly hefyd cynnifer ag a edrychent ar Fab Duw, mewn ffydd, yn meddu ysbryd edifeiriol, a allent fyw, hyd y nod y bywyd hwnw ag sydd yn dragywyddol. Ac yn awr, wele, nid Moses yn unig a dystiolaethodd am y pethau hyn, eithr hefyd yr holl brophwydi santaidd, er ei ddyddiau ef hyd at ddyddiau Abraham. Ië, ac wele, Abraham a welodd ynghylch ei ddyfodiad ef, ac a lanwyd o lawenydd ac a orfoleddodd. Ië, ac wele, meddaf wrthych, nid Abraham yn unig a wyddai am y pethau hyn, eithr yr oedd llawer cyn dyddiau Abraham ag oeddynt wedi eu galw trwy urdd Duw; ïe, sef yn ol urdd ei Fab; a hyn fel y dangosid i’r bobl lawer iawn o filoedd o flynyddau cyn ei ddyfodiad, y deuai prynedigaeth iddynt. Ac yn awr, mi a ewyllysiwn i chwi wybod, fod oddiar ddyddiau Abraham lawer o brophwydi wedi tystiolaethu y pethau hyn; ïe, wele, y prophwyd Zenos a dystiolaethodd yn eofn, am yr hyn y lladdwyd ef. Ac wele, Zenoch hefyd, ac Ezias hefyd, ac Isaiah hefyd, a Jeremiah (Jeremiah oedd y prophwyd hwnw a dystiolaethodd am ddinystr Jerusalem). Ac yn awr, ni a wyddom i Jerusalem gael ei dinystrio yn ol geiriau Jeremiah. O, ynte, paham na ddaw Mab Duw, yn ol ei brophwydoliaeth ef? Ac yn awr, a ammheuwch chwi i Jerusalem gael ei dinystrio? A ddywedwch chwi na chafodd meibion Zedekiah eu lladd, oll oddieithr Mulek? Ië, ac ai nid ydych yn gweled fod had Zedekiah gyda ni, a’u bod wedi eu gyru allan o wlad Jerusalem? Eithr wele, nid hyn yw y cyfan. Ein tad Lehi a yrwyd allan o Jerusalem, o herwydd iddo dystiolaethu am y pethau hyn. Tystiolaethodd Nephi hefyd, am y pethau hyn, ac hefyd yn agos yr oll o’n tadau, i lawr hyd yr amser hwn; ïe, y maent wedi tystiolaethu am ddyfodiad Crist, ac wedi edrych yn mlaen, ac wedi gorfoleddu yn ei ddydd ef yr hwn sydd yn dyfod. Ac wele, Duw ydyw, ac y mae ef gyda hwynt, ac efe a eglurodd ei hun iddynt, fel y gwaredwyd hwynt trwyddo; a hwy a roddasant iddo ogoniant, o herwydd yr hyn ag oedd i ddyfod. Ac yn awr, gan weled y gwyddoch y pethau hyn, ac nas gellwch eu gwadu hwynt, oni ddywedwch gelwydd; am hyny, yn hyn yr ydych wedi pechu, canys gwrthodasoch yr holl bethau hyn, er yr holl dystiolaethau a dderbyniasoch; ïe, chwi a dderbyniasoch bob peth, pob peth yn y nef, a phob peth ag sydd ar y ddaear, fel tystiolaeth eu bod yn wir. Eithr wele, gwrthodasoch y gwirionedd, a gwrthryfelasoch yn erbyn eich Duw santaidd; ac hyd y nod yr amser hwn, yn lle trysori i chwi drysorau yn y nef, lle nad oes dim yn llygru, a lle nas gall dim aflan ddyfod, yr ydych yn pentyru i chwi ddigofaint erbyn dydd y farn; ïe, yr amser hwn yr ydych yn addfedu, o herwydd eich llofruddiaethau, a’ch puteindra a’ch drygioni, i ddinystr tragywyddol; ïe, ac oni edifarhewch, daw atoch ar frys; ïe, wele, y mae yn awr wrth eich drysau; ïe, ewch at yr orsedd farnol, a chwiliwch; ac wele, mae eich barnwr wedi ei lofruddio, a gorwedda yn ei waed; ac efe a lofruddiwyd gan ei frawd, yr hwn sydd yn ceisio cael eistedd ar yr orsedd farnol. Ac wele, perthyna y ddau i’ch llu dirgelaidd chwi, awdwr yr hwn yw Gadianton, a’r un drwg sydd yn ceisio dinystrio eneidiau dynion.

Wele, yn awr, dygwyddodd, wedi i Nephi lefaru y geiriau hyn, i ryw ddynion ag oedd yn eu plith redeg at yr orsedd farnol; ïe, darfu i bump fyned; a hwy a ddywedasant yn mhlith eu hunain, pan yn myned, Wele, yn awr, cawn wybod mewn sicrwydd, pa un a yw y dyn hwn yn brophwyd, a bod Duw wedi gorchymyn iddo brophwydo y fath bethau rhyfeddol i ni. Wele, nid ydym ni yn credu ei fod; ïe, nid ydym yn credu ei fod yn brophwyd; er hyny, os yw y peth hyn a ddywedodd ynghylch y prif farnwr yn wir, ei fod yn farw, yna ni a gredwn fod y geiriau ereill a lefrodd yn wir. A bu iddynt redeg â’u holl nerth, a dyfod i mewn at yr orsedd farnol; ac wele, yr oedd y prif farnwr wedi syrthio i’r llawr, ac yn gorwedd yn ei waed. Ac yn awr, wele, pan welsant hyn, hwy a synasant yn fawr, yn gymmaint ag iddynt syrthio i’r ilawr; canys nid oeddynt wedi credu y geiriau a lefarodd Nephi ynghylch y prif farnwr; eithr yn awr, pan welsant, hwy a gredasant, a daeth ofn arnynt, rhag i’r holl farnedigaethau a lefarodd Nephi ddyfod ar y bobl; am hyny, hwy a grynasant, ac a syrthiasant i’r llawr. Yn awr, yn uniongyrchol ar ol i’r barnwr gael ei lofruddio, trwy gael ei wanu gan ei frawd, mewn gwisg ddyeithr, ac iddo yntau ffoi, y gweision a redasant ac a fynegasant i’r bobl, gan gyfodi y llef o lofruddiaeth yn eu mysg. Ac wele, y bobl a ymgasglasant ynghyd i’r fan lle yr oedd yr orsedd farnol; ac wele, er eu syndod gwelsant y pump dyn hyny ag oeddynt wedi syrthio i’r llawr. Ac yn awr, wele, ni wyddai y bobl ddim ynghylch y dyrfa ag oedd wedi ymgasglu ynghyd wrth ardd Nephi; am hyny, hwy a ddywedasant yn mhlith eu hunain, Y dynion hyn sydd wedi llofruddio y barnwr, ac y mae Duw wedi eu taraw hwynt fel nas gallant ffoi oddiwrthym.

A bu iddynt afaelu ynddynt, a’u rhwymo, a’u bwrw yn ngharchar. A danfonwyd cyhoeddiad allan fod y barnwr wedi ei ladd, a bod y llofruddion wedi eu dal, a’u bwrw yn ngharchar. A bu yn y boreu, i’r bobl ymgynnull ynghyd i alaru ac i ymprydio, yn angladd y prif farnwr mawr, yr hwn a laddwyd. Ac felly hefyd yr oedd y barnwyr hyny ag oedd wrth ardd Nephi, ac yn gwrandaw ei eiriau, wedi ymgynnull ynghyd hefyd i’r angladd.

A dygwyddodd iddynt hwy holi yn mhlith y bobl, gan ddywedyd, Pa le mae y pump a ddanfonwyd i ymofyn ynghylch y prif farnwr pa un a oedd yn farw? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Am y pump hyn y dywedwch i chwi eu danfon, nis gwyddom; eithr y mae pump y rhai ydynt y llofruddion, y rhai a fwriasom yn ngharchar. A bu i’r barnwyr ddymuno iddynt gael eu dwyn atynt; a hwy a ddygwyd, ac wele, hwy oeddynt y pump a ddanfonwyd; ac wele, y barnwyr a ymofynasant â hwynt er gwybod ynghylch y mater, a hwythau a fynegasant wrthynt yr hyn oll a wnaethant, gan ddywedyd, Ni a redasom ac a ddaethom at yr orsedd farnol, a phan welsom bob peth megys y tystiolaethodd Nephi, ni a synwyd, yn gymmaint ag i ni syrthio i’r llawr; ac wedi i ni gael ein hadferyd o’n syndod, wele, bwriasant ni yn ngharchar. Yn awr, gyda golwg ar iaddiad y dyn hwn, nis gwyddom ni pwy a’i gwnaeth; a hyn yn unig a wyddom, i ni redeg a dyfod fel y dymunasoch chwi, ac wele yr oedd ef yn farw, yn ol geiriau Nephi.

Ac yn awr, darfu i’r barnwyr egluro y mater i’r bobl, a gwaeddi allan yn erbyn Nephi, gan ddywedyd, Wele, gwyddom y rhaid fod y Nephi hwn wedi cytuno â rhywun i ladd y barnwr, ac yna gallai ei fynegi i ni, fel y gallai ein hargyhoeddi i’w ffydd ef, fel y gallai efe ddyrchafu ei hun i fod yn ddyn mawr, etholedig Duw, ac yn brophwyd; ac yn awr, wele, ni a ddaliwn y dyn hwn, a chaiff gyfaddef ei fai, ac hysbysu i ni wir lofruddiwr y barnwr hwn. A bu i’r pump gael eu rhyddhau ar ddydd y gladdedigaeth. Er hyny, hwy a geryddent y barnwyr am y geiriau a lefarasent yn erbyn Nephi, ac a ddadleuent â hwynt un ac un, yn gymmaint ag iddynt eu dyrysu. Er hyny, hwy a berent i Nephi gael ei ddal a’i rwymo, a’i ddwyn gerbron y dyrfa, a hwy a ddechreuasant ei holi ef mewn amryw ffyrdd, fel y gallent eu groesi, a’i gyhuddo i farwolaeth; gan ddywedyd wrtho, Yr wyt ti yn gyfranogwr; pwy yw y dyn hwn a gyflawnodd y lofruddiaeth hon? Yn awr, dywed wrthym, a chydnabydda dy fai, gan ddywedyd, Wele, dyma arian; ac hefyd ni a roddwn i ti dy fywyd, os dywedi wrthym a chyfaddef y cytundeb a wnaethost ag ef. Eithr Nephi a ddywedodd wrthynt, O, ffyliaid, chwi ddienwaededig o galon, a phobl ddeillion a gwargaled, a wyddoch chwi pa cyhyd y goddefa yr Arglwydd eich Duw i chwi fyned yn mlaen yn eich ffordd hon o bechu? Chwi a ddylasech ddechreu wylofain agalaru, o herwydd y dinystr mawr sydd yr awr hon yn eich aros, os na edifarhewch. Wele, dywedwch fy mod wedi cytuno â dyn, fod iddo lofruddio Seezoram, ein prif farnwr. Eithr wele, meddaf wrthych, hyn sydd o herwydd i mi dystiolaethu wrthych, fel y gallech wybod ynghylch y peth hwn; ïe, yn dystiolaeth i chwi fy mod yn gwybod am y drygioni a’r ffieidd dra ag sydd yn eich plith. Ac o herwydd i mi wneuthur hyn, chwi a ddywedwch i mi gytuno â dyn i wneuthur y peth hwn; ïe, o herwydd i mi ddangos yr arwydd hyn i chwi, yr ydych yn ddigllawn wrthyf, ac yn ceisio dyfetha fy mywyd. Ac yn awr, wele, mi a ddangosaf i chwi arwydd arall, ac a gaf weled os byddwch am y peth hwn yn ceisio fy nyfetha. Wele, meddaf wrthych, ewch i dŷ Seantum, yr hwn yw brawd Seezoram, a dywedwch wrtho, A yw Nephi, y prophwyd honedig, yr hwn a brophwyda gymmaint o ddrwg ynghylch y bobl hyn, wedi cytuno â thi, trwy yr hyn y llofruddiaist Seezoram, yr hwn yw dy frawd? Ac wele, efe a ddywed wrthych, Nac ydyw. A chwi a gwewch ddywedyd wrtho, A lofruddiaist ti dy frawd? Ac yntau a saif yn frawychus, ac ni wybydd pa beth i ddywedyd. Ac wele, efe a wedy wrthych, ac a ymddyga fel pe wedi cael ei synu; er hyny, efe a ddywed wrthych ei fod yn ddieuog. Eithr wele, chwi a gewch ei chwilio ef, ac a gewch waed ar odreu ei gochl ef. A phan weloch hwn, cewch ddywedyd, O ba le y daeth y gwaed hwn? Ai ni wyddom ni mai gwaed dy frawd ydyw? Ac yna efe a gryna, ac a edrych yn welw-lâs, megys pe bai angeu wedi dyfod arno. Ac yna y cewch ddywedyd, O herwydd yr ofn hwn a’r gwelwder ag sydd wedi dyfod ar dy wynebpryd, wele, ni a wyddom dy fod di yn euog. Ac yna y daw ofn mwy arno; ac yna efe a gyfaddefa wrthych, ac ni wedy mwyach iddo gyflawni y llofruddiaeth hon. Ac yna y dywed wrthych, na wyddwn i, Nephi, dim ynghylch y mater, oddieithr iddo gael ei roddi i mi trwy allu Duw. Ac yna y cewch wybod mai dyn gonest wyf fi, a’m bod yn ddanfonedig atoch oddiwrth Dduw.

A bu iddynt fyned a gwneuthur yn ol fel y dywedodd Nephi wrthynt. Ac wele, yr oedd y geiriau a lefarodd efe yn wir; canys yn ol y geiriau, efe a wadodd; ac hefyd yn ol y geriau efe a gyfaddefodd. Ac efe a ddygwyd i brofi mai efe ei hun oedd y llofruddiwr, yn gymmaint ag i’r pump gael eu rhyddhau, a Nephi hefyd. Ac yr oedd rhai o’r Nephiaid yn credu yn ngeiriau Nephi; ac yr oedd rhai hefyd yn credu, o herwydd tystiolaeth y pump, canys argyhoeddwyd hwynt tra yr oeddynt yn ngharchar. Ac yn awr, yr oedd rhai yn mhlith y bobl, a ddywedent fod Nephi yn brophwyd; ac yr oedd ereill a ddywedent, Wele, duw ydyw, canys oddieithr ei fod yn dduw, nis gallai wybod am bob peth. Canys, wele, efe a fynegodd wrthym feddyliau ein calonau, ac a fynegodd hefyd bethau wrthym; ac hyd y nod dygodd i’n gwybodaeth wir lofruddiwr ein prif farnwr.

A dygwyddodd i ymraniad gyfodi yn mhlith y bobl, yn gymmaint ag iddynt ymwasgaru yma ac acw, a myned i’w ffyrdd, gan adael Nephi yn unig, fel yr oedd yn sefyll yn eu canol hwynt. A bu i Nephi fyned i’w ffordd yntau, tuag at ei dŷ ei hun, gan fyfyrio ar y pethau a ddangosodd yr Arglwydd iddo. A dygwyddodd fel yr oedd felly yn myfyrio,—gan fod yn dra digalon o herwydd drygioni pobl y Nephiaid, eu dirgel weithredoedd o dywyllwch, a’u llofruddiaethau, a’u hyspeiliadau, a’u hanwireddau o bob math—ïe, dygwyddodd fel yr oedd felly yn myfyrio yn ei galon, i lais ddyfod ato, gan ddywedyd, Gwyn dy fyd di, Nephi, oblegid y pethau hyny a wnaethost; canys mi a welais pa mor ddiflino y traethaist y gair a roddais i ti, wrth y bobl hyn. Ac nis ofnaist hwynt, ac ni cheisiaist dy fywyd dy hun, eithr ceisiaist fy ewyllys i, ac i gadw fy ngorchymynion. Ac yn awr, o herwydd i ti wneuthur hyn mor ddiflino, wele, mi a’th fendithiaf yn dragywydd; ac mi a’th wnaf yn nerthol mewn gair a gweithred, mewn ffydd ac mewn gweithredoedd; ïe, hyd nes y gwneir pob peth i ti yn ol dy air, canys ni chai ofyn dim sydd yn groes i’m hewyllys. Wele, tydi yw Nephi, a minnau yw Duw. Wele, yr wyf yn mynegi i ti yn ngwydd fy angylion, y cai di allu dros y bobl hyn, ac y cai daraw y ddaear â newyn, ac â haint, ac â dinystr, yn ol drygioni y bobl hyn. Wele, yr wyf yn rhoi gallu i ti, fel pa beth bynag a rwymi ar y ddaear, a rwymir yn y nef; a pha beth bynag a ryddhai ar y ddaear, a ryddheir yn y nef; ac felly y cai di allu yn mhlith y bobl hyn. Ac felly, os dywedi wrth y deml hon y rhwygir hi yn y canol, caiff ei wneuthur. Ac os dywedi wrth y mynydd hwn, Bwrier di i lawr, a gwneler di yn wastad, caiff ei wneuthur. Ac wele, os dywedi y tarawa Duw y bobl hyn, caiff hyny ei gyflawni. Ac yn awr, wele, yr wyf yn gorchymyn i ti fyned a thraethu wrth y bobl, mai fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yr hwn yw yr Hollalluog, Oni edifarhewch, chwi a darawir, hyd at ddinystr.

Ac wele, yn awr, dygwyddodd pan lefarodd yr Arglwydd y geiriau hyn wrth nephi, iddo ef aros, a pheidio myned i’w dŷ ei hun, eithr dychwelyd at y torfeydd ag oedd wedi ymwasgaru ar wyneb y tir, a dechreu mynegi wrthynt air yr Arglwydd, yr hwn a lefarwyd wrtho ef ynghylch eu dinystr, oni edifarhaent. Yn awr, wele, yn ngwyneb y wyrth fawr hono a gyflawnodd Nephi trwy fynegi wrthynt ynghylch marwolaeth y prif farnwr, hwy a galedasant eu calonau, ac ni wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd; am hyny, Nephi a draethodd iddynt air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Oni edifarhewch, fel hyn medd yr Arglwydd, chwi a darawir hyd at ddinystr. A bu ar ol i Nephi draethu iddynt y gair, wele, iddynt etto galedu eu calonau, ac ni fynent wrandaw ar ei eiriau; am hyny, hwy a’i cablasant ef, ac a geisiasant osod eu dwylaw arno, fel y gallent ei fwrw yn ngharchar. Eithr, wele, yr oedd gallu Duw gydag ef, ac nis gallent ei ddal i’w fwrw yn ngharchar, canys efe a gymmerwyd gan yr ysbryd, ac a arweiniwyd allan o’u canol hwynt.

A bu mai felly yr aeth efe allan yn yr ysbryd, o dyrfa i dyrfa, gan draethu gair Duw, hyd nes yr oedd wedi ei draethu wrthynt oll, neu ei ddanfon i blith yr holl bobl. A bu na wrandawent ar ei eiriau; a dechreuodd fod amrafaelion, yn gymmaint ag iddynt ymranu yn erbyn eu hunain, a dechreu lladd eu gilydd â’r cleddyf. Ac felly y terfynodd yr unfed flwyddyn ar ddeg a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.