Scriptures
Helaman 1


Llyfr Helaman.

Pennod Ⅰ.

Hanes am y Nephiaid. Eu rhyfeloedd a’u hamrafaelion, a’u hymraniadau. Ac hefyd brophwydoliaethau amryw o brophwydi santaidd, o flaen dyfodiad Crist, yn ol cof-lyfr Helaman, yr hwn oedd fab Helaman, ac hefyd yn ol cof-lyfrau ei feibion, i lawr hyd at ddyfodiad Crist. Ac hefyd y mae llawer o’r Lamaniaid yn cael eu dychwelyd. Hanes eu dychweliad. Hanes am gyfiawnder y Lamaniaid, a drygioni a ffieidd-dra y Nephiaid, yn ol coflyfr Helaman a’i feibion, i lawr hyd at ddyfodiad Crist, yr hwn a elwir llyfr Helaman, &c.

Ac yn awr, wele, dygwyddodd yn nechreu y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, ddechreu fod anhawsdra o bwys yn mhlith pobl y Nephiaid. Canys wele, yr oedd Pahoran wedi marw, a myned ffordd yr holl ddaear; o ganlyniad dechreuodd fod amrafael o bwys pwy a gai yr orsedd farnol yn mhlith y brodyr, y rhai oeddynt feibion Pahoran. Yn awr, dyma enwau y rhai a amrafaelient ynghylch yr orsedd farnol, y rhai a achosent hefyd i’r bobl amrafaelio: Pahoran, Paanchi a Pacumeni. Yn awr, nid dyma holl feibion Pahoran (canys yr oedd ganddo lawer), eithr dyma y rhai a amrafaelient ynghylch yr orsedd farnol; gan hyny, hwy a achosasant dri ymraniad yn mhlith y bobl. Er hyny, dygwyddodd i Pahoran gael ei benodi trwy lais y bobl i fod yn brif farnwr a llywodraethwr ar bobl Nephi.

A bu i Pacumeni, pan welodd nad allai gael yr orsedd farnol, iddo gyduno â llais y bobl. Eithr, wele yr oedd Paanchi, a’r blaid hono o’r bobl a chwennychent iddo ef fod yn llywodraethwr arnynt, yn ddigllawn iawn; am hyny, yr oedd efe ynghylch denu ymaith y bobl hyny i gyfodi mewn gwrthryfel yn erbyn eu brodyr.

A bu pan oedd ynghylch gwneuthur hyn, wele, iddo gael ei ddal, a’i brofi yn ol llais y bobl, a’i gondemnio i farwolaeth; canys yr oedd wedi cyfodi mewn gwrthryfel, a cheisio dinystrio rhyddid y bobl. Yn awr, pan welodd y bobl hyny a chwennychent iddo ef fod yn llywodraethwr arnynt, ei fod yn cael ei gondemnio i farwolaeth, hwy a lidiasant, ac wele, danfonasant un Kishkumen, hyd y nod at orsedd farnol Pahoran, a llofruddio Pahoran tra yr eisteddai ar yr orsedd farnol. Ac efe a ymlidiwyd gan weision Pahoran; eithr, wele, yr oedd ffoedigaeth Kishkumen mor gyflym, fel na allai neb ei oddiweddyd. Ac efe a aeth at y rhai a’i hanfonodd, a hwy a ymgyfammodasant oll, ïe, gan dyngu i’w Gwneuthurwr tragywyddol, na ddywedent wrth neb mai Kishkumen a lofruddiodd Pahoran; am hyny, nid oedd Kishkumen yn adnabyddus yn mhlith pobl Nephi, canys yr oedd wedi ymddyeithrio ar yr amser y llofruddiodd Pahoran. A Kishkumen, a’i lu ag oedd wedi ymgyfammodi ag ef, a ymgymmysgent yn mhlith y bobl, mewn ffordd nas gellid cael gafael yn yr oll; eithr cynnifer ag a gafwyd, a gondemniwyd i farwolaeth. Ac yn awr, wele, penodwyd Pacumeni, yn ol llais y bobl, i fod yn brif farnwr a llywodraethwr ar y bobl, i deyrnasu yn lle ei frawd Pahoran; ac yr oedd yn ol ei hawl ef. A hyn oll a wnaethwyd yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr; a bu diwedd ar hyny.

A bu yn yr unfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr, i’r Lamaniaid gasglu ynghyd fyddin aneirif o wyr, a’u harfogi â chleddyfau, ac â chrymgleddyfau, ac â bwäau, ac â saethau, ac â helmau, ac â dwyfronegau, ac â phob math o dariannau o bob dull; a hwy a ddaethant i waered ddrachefn, fel y gallent benodi brwydr yn erbyn y Nephiaid. A hwy a arweinid gan ddyn o’r enw Coriantumr; ac yr oedd yn ddisgynydd o Zarahemla; ac yr oedd yn ymneillduwr o blith y Nephiaid; ac yr oedd yn ddyn mawr a galluog; am hyny, brenin y Lamaniaid, enw yr hwn oedd Tubaloth, yr hwn oedd fab Ammoron, gan dybied y gallai Coriantumr, trwy ei fod yn ddyn galluog, sefyll yn erbyn y Nephiaid, yn gymmaint ag y gallai ef, o herwydd ei nerth a’i fawr ddoethineb, trwy ei ddanfon allan ennill gallu dros y Nephiaid; am hyny, efe a’u cyffrodd hwynt i ddigofaint, ac a gasglodd ei fyddinoedd ynghyd ac a benododd Coriantumr i fod yn flaenor arnynt, ac efe a achosodd iddynt fyned i waered i dir Zarahemla, i ryfel yn erbyn y Nephiaid.

A dygwyddodd o herwydd fod cymmaint o amrafael a chymmaint o anhawsdra yn y llywodraeth, fel nad oeddynt wedi cadw digon o wylwyr yn nhir Zarahemla; canys yr oeddynt wedi meddwl na feiddiai y Lamaniaid ddyfod i ganolbwynt eu tiroedd i ymosod ar y ddinas fawr hono Zarahemla. Eithr dygwyddodd i Coriantumr fyned allan o flaen ei lu mawr, a dyfod ar drigolion y ddinas, ac yr oedd eu dyfodiad gyda’r fath frys dirfawr, fel nad oedd amser i’r Nephiaid gasglu eu byddinoedd ynghyd; am hyny, Coriantumr a dorodd i lawr y gwylwyr yn y fynedfa i’r ddinas, ac a gychwynodd â’i holl fyddin i’r ddinas, a hwy a laddasant bob un a’u gwrthwynebent, yn gymmaint ag iddynt gymmeryd meddiant o’r holl ddinas. A bu i Pacumeni, yr hwn oedd y prif-farnwr, ffoi o flaen Coriantumr, hyd at furiau y ddinas. A bu i Coriantumr ei daraw ef yn erbyn y mur, yn gymmaint ag y bu farw. Ac felly y terfynodd dyddiau Pacumeni. Ac yn awr, pan welodd Coriantumr ei fod ef mewn meddiant o ddinas Zarahemla, a gweled fod y Nephiaid wedi ffoi o’u blaen hwynt, ac wedi cael eu lladd, a’u cymmeryd, a’u bwrw yn ngharchar, a’i fod wedi cael meddiant o’r lle cadarnaf yn yr holl dir, ei galon a ymwrolodd, yn gymmaint â’i fod ynghylch myned allan yn erbyn yr holl dir. Ac yn awr, ni arosodd efe yn nhir Zarahemla, eithr cychwynodd gyda byddin fawr, ïe, tua dinas Llawnder; canys ei benderfyniad oedd myned allan, a thori ei ffordd drwodd â’r cleddyf, fel yr ennillai ranau gogleddol y tir; a chan dybied mai yn nghanolbwynt y tir oedd eu nerth mwyaf hwy, chchwynodd allan, heb roddi amser iddynt i ymgynnull ynghyd, oddieithr yn lluoedd yn lluoedd bychain: ac yn y modd hyn y syrthiasant arnynt ac y torasant hwynt i lawr i’r ddaear. Eithr wele, taith Coriantumr trwy ganol y tir, a roddodd i Moronihah fantais fawr arnynt, er lliosogrwydd ifer y Nephiaid a laddwyd; canys, wele, yr oedd Moronihah wedi tybied na feiddiai y Lamaniaid ddyfod i ganolbwynt y tir, eithr yr ymosodent ar y dinasoedd oddiamgylch yn y cyffiniau, megys y gwnaethant hyd yma; am hyny, achosodd Moronihah i’w byddinoedd cryfion i gadw y parthau hyny oddiamgylch wrth y cyffiniau. Eithr wele, ni frawychwyd y Lamaniaid yn ol ei ddymuniad ef, eithr yr oeddynt wedi dyfod i ganolbwynt y tir, ac wedi cymmeryd y brif ddinas, yr hon oedd ddinas Zarahemla, ac yr oedd yn teithio trwy brif barthau y tir, gan ladd y bobl â lladdfa fawr, yn wyr, gwragedd, a phlant, gan gymmeryd meddiant o lawer o ddinasoedd a llawer o amddiffynfeydd. Ond pan ganfyddodd Moronihah hyn, efe a ddanfonodd lehi yn uniongyrchol gyda byddin oddiamgylch i’w rhagflaenu hwynt, cyn y daethent i dir Llawnder. Ac felly y gwnaeth; ac efe a’u rhagflaenodd hwynt cyn y daethant i dir Llawnder, ac a roddodd frwydr iddynt, yn gymmaint ag iddynt ddechreu cilio yn ol tua thir Zarahemla. A bu i Moronihah eu rhagflaenu hwynt yn eu hencliad, ac a roddodd frwydr iddynt, yn gymmaint ag iddi fyned yn frwydr waedlyd iawn; ïe, cafodd llawer eu lladd, ac yn mhlith y nifer a laddwyd, cafwyd Coriantumr hefyd. Ac yn awr, wele, ni allai y Lamaniaid gilio y naill ffordd nâ’r llall; nac ychwaith ar y gogledd, na’r deau, na’r dwyrain, na’r gorllewin, canys yr oeddynt wedi eu hamgylchynu ar bob llaw gan y Nephiaid: Ac felly yr oedd Coriantumr wedi taflu y Lamaniaid i ganol y Nephiaid: yn gymmaint â’u bod yn ngallu y Nephiaid, ac yntau ei hun a laddwyd, a’r Lamaniaid a roddasant eu hunain i fyny i ddwylaw y Nephiaid.

A bu i Moronihah gymmeryd meddiant o ddinas Zarahemla drachefn, a pheri i’r Lamaniaid a gymmerwyd yn garcharorion ymadael o’r tir mewn heddwch. Ac felly y terfynodd yr unfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr.

A bu yn y ddwyfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr, ar ol i Moronihah drachefn sefydlu heddwch rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid, wele, nad oedd neb i lanw yr orsedd farnol; am hyny, dechreuodd fod amrafael drachefn yn mhlith y bobl ynghylch pwy a gai lanw yr orsedd farnol. A bu i Helaman, yr hwn oedd fab Helaman, gael ei benodi i lanw yr orsedd farnol, trwy lais y bobl; eithr, wele, Kishkumen, yr hwn a lofruddiodd Pahoran, a gynllwyniodd i ddyfetha Helaman hefyd; ac efe a gynnorthwyid gan ei lu, y rhai oeddynt wedi ymgyfammodi na chai neb wybod am ei ddrygioni; canys yr oedd un Gadianton, yr hwn oedd yn dra medrus mewn llawer o eiriau, ac hefyd yn ei gelfyddyd, i gario yn mlaen y dirgel waith o lofruddio ac yspeilio; am hyny, efe a ddaeth yn flaenor ar lu Kishkumen; am hyny, efe a wenieithiodd iddynt hwy, ac i Kishkumen hefyd, os gosodent hwy ef yn yr orsedd farnol, y caniatäai efe i’r rhai a berthynent i’w lu gael eu gosod mewn gallu ac awdurdod yn mhlith y bobl; gan hyny, Kishkumen a geisiodd ddyfetha Helaman.

A dygwyddodd fel yr oedd efe yn myned yn mlaen at yr orsedd farnol, i ddyfetha Helaman, wele un o weision Helaman, wedi bod allan yn y nos, ac wedi cael, trwy ymddyeithrio, wybodaeth o’r cynlluniau hyny a drefnwyd gan y llu hwn i ddyfetha Helaman; ïe, dygwyddodd iddo gyfarfod â Kishkumen, ac efe a roddodd arwydd iddo; o ganlyniad, Kishkumen a amlygodd iddo wrthddrych ei ddymuniad, gan ddeisyf arno ei arwain ef at yr orsedd farnol, fel y gallai lofruddio Helaman; a phan wybu gwas Helaman holl galon Kishkumen, a gwybod mai ei ddyben oedd llofruddio, ac hefyd mai dyben yr holl rai a berthynent i’w lu, oedd llofruddio, ac yspeilio, ac ennill awdurdod (ac hyn oedd eu dirgel gynllun, a’u cydfwriad), efe (gwas Helaman) a ddywedodd wrth Kishkumen, Bydded i ni fyned yn mlaen at yr orsedd farnol. Yn awr yr odd hyn yn boddio Kishkumen yn fawr, canys efe a dybiodd y cai gyflawni ei fwriad; eithr wele, gwas Helaman, fel ag yr oeddynt hwy yn myned yn mlaen at yr orsedd farnol, a drywanodd Kishkumen, hyd at ei galon, fel y syrthiodd yn farw heb un ochenaid. Ac efe a redodd ac a fynegodd wrth Helaman yr holl bethau a welodd, a glywodd, ac a wnaeth.

A bu i Helaman ddanfon allan i ddal y llu hwn o yspeilwyr a llofruddion dirgelaidd, fel y dïenyddid hwynt yn ol y gyfraith. Eithr, wele, pan gafodd Gadianton allan nad oedd Kishkumen yn dychwelyd, efe a ofnai rhag ei fod wedi ei ddyfetha; am hyny, efe a berodd i’w lu ei ganlyn ef. A hwy a ffoisant allan o’r tir, trwy ffordd ddirgelaidd, i’r anialwch; ac felly, pan ddanfonodd Helaman allan i’w dal, nis gellid eu cael mewn un man. A llefarir ychwaneg am y Gadianton hwn yn ol llaw. Ac felly y terfynodd y ddwyfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. Ac wele, yn niwedd y llyfr hwn, cewch weled i’r Gadianton hwn brofi yn ddadymchweliad, ïe, braidd yn llwyr ddinystr pobl Nephi. Wele, nid wyf yn meddwl diwedd llyfr Helaman, eithr meddyliwyf diwedd llyfr Nephi, o’r hwn y cymmerais yr holl hanes ag wyf wedi ysgrifenu.