Scriptures
Alma 1


Llyfr Alma,
Mab Alma.

Pennod Ⅰ.

Hanes Alma, yr hwn oedd mab Alma y cyntaf, A Phrif Farnwr ar bobl Nephi, ac hefyd yr Archoffeiriad dros yr Eglwys. Hanes am deyrnasiad y Barnwyr, a’r rhyfeloedd a’r amrafaelion yn mhlith y bobl. Ac hefyd, hanes am ryfel rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid, yn ol cof-lyfr Alma y cyntaf, a’r Prif Farnwr.

Yn awr, dygwyddodd yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, o’r amser hwn yn mlaen, gan fod y brenin Mosiah wedi myned ar hyd ffordd yr holl ddaear, wedi milwrio milwriaeth dda, a rhodio yn uniawn gerbron Duw, heb adael neb i deyrnasu yn ei le; er hyny, efe a sefydlodd gyfreithiau, a hwy a gydnabyddwyd gan y bobl; am hyny yr oedd yn rhaid iddynt lynu wrth y cyfreithiau a wnaeth efe.

A bu yn flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Alma ar yr orsedd farnol, i ddyn gael ei ddwyn ger ei fron i’w farnu; dyn mawr, ac yn enwog am ei fawr nerth; ac yr oedd wedi bod o amgylch yn mhlith y bobl, yn pregethu iddynt yr hyn a alwai yn air Duw, gan guro ar yr eglwys; gan draethu wrth y bobl y dylai pob offeiriad ac athraw fod yn boblogaidd; ac na ddylent weithio â’u dwylaw, eithr y dylent gael eu cynnal gan y bobl: ac efe a dystiolaethodd hefyd wrth y bobl yr achubid holl ddynolryw yn y dydd diweddaf, ac nad oedd achos iddynt ofni na chrynu, eithr y gallent ddyrchafu eu penau a gorfoleddu: canys yr Arglwydd a greodd bob dyn, ac a waredodd bob dyn; ac yn y diwedd, pob dyn a gai fywyd tragywyddol. A bu iddo ddysgu y pethau hyn gymmaint, nes y credodd llawer ei eiriau, ïe, gynnifer nes y dechreuasant ei gynnorthwyo a rhoddi arian iddo; ac efe a ddechreuodd ymddyrchafu yn malchder ei galon, a gwisgo dillad tra chostfawr; ïe, a dechreuodd hyd y nod i sefydlu eglwys, yn ol fel y pregethai.

A bu fel yr oedd efe yn myned i bregethu i’r rhai a gredent ei eiriau, iddo gyfarfod â dyn a berthynai i eglwys Dduw, ïe, sef un o’i hathrawon; ac efe a ddechreuodd ymddadleu ag ef yn llym, fel yr arweiniai ymaith bobl yr eglwys; eithr y dyn a’i gwrthsafodd ef, ac a’i ceryddodd â geiriau Duw. Yn awr, enw y dyn oedd Gideon; ac efe oedd yr hwn fu yn offeryn yn nwylaw Duw, i waredu pobl Limhi o gaethiwed. Yn awr, o herwydd i Gideon i’w wrthsefyll ef â geiriau Duw, efe a lidiodd wrth Gideon, ac a dynodd ei gleddyf ac a ddechreuodd ei daraw. A chan fod Gideon yn hen mewn oedran, nid oedd yn alluog i wrthsefyll ei ergydion; am hyny efe a laddwyd trwy y cleddyf; a’r dyn a’i lladdodd ef a gymmerwyd gan bobl yr eglwys, ac a ddygwyd gerbron Alma, i gael ei farnu yn ol y trosedd ag oedd wedi ei gyflawni. A bu iddo sefyll gerbron Alma, a dadleu drosto ei hun gyda llawer o cofndra. Ond Alma a ddywedodd wrtho, Wele, dyma y waith gyntaf i grefydd-dwyll gael ei ddwyn i blith y bobl hyn. Ac wele, nid yn unig yr wyt ti yn euog o grefydd-dwyll, eithr ymdrechaist ei ddirgymhell â’r cleddyf; a phe cawsai crefydddwyll ei ddirgymhell yn mhlith y bobl hyn, profai yn ddinystr hollol iddynt. A thi a dywelltaist waed dyn cyfiawn, ïe, dyn a wnaeth lawer o ddaioni yn mhlith y bobl hyn; a phe arbedem di, deuai ei waed ef arnom ni i ymddial; gan hyny, condemnir di i farw, yn ol y gyfraith a roddwyd i ni gan Mosiah, eiu brenin diweddaf; a hi a gydnabyddwyd gan y bobl hyn; am hyny, rhaid i’r bobl hyn lynu wrth y gyfraith.

A bu iddynt ei gymmeryd ef; a’i enw oedd Nehor; a dygasant ef i ben bryn Manti, ac yno gwnaeth yn hysbys, neu yn hytrach addefodd, rhwng nefoedd a daear, fod yr hyn a ddysgodd i’r bobl yn groes i air Duw; a dyoddefodd yno farwolaeth waradwyddus. Er hyny, ni attaliodd hyn ledaeniad crefydd-dwyll trwy y tir; canys yr oedd llawer a garent bethau gwageddus y byd, a hwy a aethant allan gan bregethu gauathrawiaethau; a hyn a wnaethent er mwyn cyfoeth ac anrhydedd. Etto, ni feiddient ddywedyd celwydd, os byddai yn hysbys, rhag ofn y gyfraith, canys yr oedd celwyddwyr yn cael eu cospi; am hyny cymmerent arnynt i bregethu yn ol eu crediniaeth: ac yn awr, nis gallai y gyfraith gael awdurdod ar neb oblegid ei grediniaeth. Ac ni feiddient ladrata, rhag ofn y gyfraith; canys y cyfryw a gospid; ae ni feiddient yspeilio, na llofruddio ychwaith; canys yr hwn a lofruddiai, a gospid i farwolaeth.

Eithr dygwyddodd i bwy bynag na pherthynent i eglwys Dduw, ddechreu erlid y rhai a berthynent i eglwys Dduw, ac wedi cymmeryd arnynt enw Crist; ïe, erlidiasant hwynt, ac a’u blinasant â phob math o eiriau, a hyn o herwydd eu gostyngeiddrwydd; o herwydd nad oeddynt yn falch yn ngolwg eu hunain, ac o herwydd eu bod yn cyfranu gair Duw, y naill i’r llall, heb arian ac heb werth. Yn awr, yr oedd cyfraith gaeth yn mhlith pobl yr eglwys, na fyddai i un dyn, perthynol i’r eglwys, godi ac erlid y rhai ni pherthynent i’r eglwys, ac na fyddai eridigaeth yn mhlith eu hunain. Etto yr oedd llawer yn eu plith a ddechreuasant fod yn feilchion, a dedhreu ymddadleu yn boeth â’u gwrthwynebwyr, hyd at ergydio; ïe, hwy a darawent eu gilydd â’u dyrnau. Yn awr, yr oedd hyn yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Alma, ac yr oedd yn achos o fawr ofid i’r eglwys; ïe, yr oedd yn achos o fawr brofiad gyda’r eglwys; canys yr oedd calonau llaweroedd wedi caledu, a’u henwau wedi eu dileu, fel na chofid hwynt mwyach yn mhlith pobl Dduw. A llaweroedd hefyd a giliasant o’u mysg hwynt. Yn awr, yr oedd hyn yn fawr brofiad i’r rhai a safasant yn gadarn yn y ffyd; etto, hwy a fuont yn sicr a diysgog i gadw gorchymynion Duw, a dyoddefasant gydag amynedd yr erlidigaethau a gruglwythwyd arnynt. A phan adawai yr offeiriaid eu gwaith, er cyfranu gair Duw i’r bobl, y bobl hefyd a adawsent eu gwaith i wrandaw gair Duw. Ac ar ol i’r offeiriad gyfranu iddynt air Duw, hwy a ddychwelent oll drachefn gyda diwydrwydd at eu gwaith; a’r offeiriad ni chyfrifai ei hun yn uwch nâ’i wrandawyr; canys nid oedd y pregethwr yn ddim gwell nâ’r hwn a ddysgid; ac felly yr oeddynt oll yn gydradd, a hwy a weithiasant oll, pob dyn yn ol ei allu: a hwy a gyfranasant o’u heiddo, pob dyn yn ol yr hyn oedd ganddo, i’r tlawd, a’r anghenog, a’r claf, a’r cystuddiedig; ac ni wisgent ddillad costfawr, etto yr eddynt yn ddillyn a phrydferth; ac fellyy sefydlasant achosion yr eglwys; ac felly y dechreuasant gael heddwch gwastadol drachefn, yn ngwyneb eu holl erlidigaethau. Ac yn awr, o herwydd diysgogrwydd yr eglwys, hwy a ddechreuasant fod yn dra chyfoethog; gan feddu cyflawnder o bob peth oedd arnynt ei eisieu; a chyflawnder o dda ac o ddefaid, a phesgedigion o bob math, ac hefyd gyflawndeer o ŷd, ac o aur, ac o arian, ac o bethau gwerthfawr; a chyflawnder o sidan a llian main cyfrodedd, a phob math o frethyn cartrefol. Ac felly yn eu hamgylchiadau llwyddiannus ni anfonasant ymaith neb ag oedd yn noeth, neu yn newynog, neu yn sychedig, neu yn glaf, neu yn ddiamgeledd; ac ni osodasant eu calonau ar gyfoeth; am hyny yr oeddynt yn haelionus wrth bawb, hen ac ieuanc, rhydd o chaeth, gwrryw a benyw, pa un bynag ai allan o’r eglwys neu yn yr eglwys, gan fod yn ddidderbyn wyneb tuag at y rhai oedd mewn eisieu: ac felly y llwyddasant ac y daethant yn llawer mwy cyfoethog, nâ’r rhai ni pherthynent i’w heglwys. Canys yr oedd y rhai ni pherthynent i’w heglwys hwy, yn ymbleseru mewn swyngyfaredd, ac mewn eilun-addoliaeth neu segurdod, ac mewn gwag-siarad, ac mewn cenfigenau ac amryson; gan wisgo dillad costfawr, gan fod wedi ymddyrchafu mewn balchder yn ngolwg eu hunain; gan ddywedyd celwydd, lladrata, yspeilio, puteinio, a llofruddio, a phob math o ddrygioni; er hyny, gosodwyd y gyfraith mewn grym ar yr holl rai a’i troseddent, gymmaint ag oedd yn bosibl.

A dygwyddodd, trwy weinyddu y gyfraith arnynt fel hyn, gan ddyoddef o bob dyn yn ol yr hyn a wnaeth, iddynt ddyfod yn fwy llonydd, ac ni feiddient gyflawni un math o ddrygioni, os byddai yn hysbys; o ganlyniad, bu cryn heddwch yn mysg pobl Nephi, hyd y bummed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr. A bu yn nechreu y bummed flwyddyn o’u teyrnasiad, i ymrafael ddechreu fod yn mhlith y bobl, yr hwn a achlysurwyd gan ryw ddyn a elwid Amlici; yr hwn oedd yn ddyn tra chfrwys, ïe, yn ddyn doeth, o ran doethineb y byd; ac yr oedd efe yn ol urdd y dyn a laddodd Gideon â’r cleddyf, yr hwn a ddienyddiwyd yn ol y gyfraith. Yn awr, yr oedd yr Amlici hwn, trwy ei gyfrwysdra, wedi tynu llawer o bobl ar ei ol; ïe, gynnifer, nes y dechreuasant fod yn dra galluog; a dechreuasant geisio gosod Amlici yn frenin ar y bobl. Yn awr, yr oedd hyn yn peri arswyd i bobl yr eglwys, ac hefyd i’r holl rai na thynwyd ymaith ar ol daliadau Amlici; canys hwy a wyddent, yn ol eu cyfraith hwy, fod yn rhaid i bethau felly gael eu sefydlu trwy lais y bobl; gan hyny, pe byddai yn bosibl i Amlici ennill llais y bobl, ac yntau yn ddyn drygionus, efe a’u hamddifadai hwynt o’u hiawnderau a’u breintiau eglwysig, &c.; canys ei fwriad ef oedd dinystrio eglwys Dduw.

A bu i’r bobl ymgynnull ynghyd trwy yr holl dir, pob dyn yn ol ei feddwl, pa un bynag ai dros neu yn erbyn Amlici, yn dorfeydd gwahanol, gan gael llawer o ymddadleu ac amrysonau rhyfeddol yn mhlith eu gilydd; ac felly yr ymgynnullasant ynghyd i roddi eu lleisiau ynghylch y mater; a hwy a osodwyd gerbron y barnwyr. A dygwyddodd i lais y bobl fod yn erbyn Amlici, fel na wnaethwyd ef yn frenin ar y bobl. Yn awr, achosodd hyn lawenydd mawr yn nghalonau y rhai oeddynt yn ei erbyn ef; eithr Amlici a gynhyrfodd y rhai oeddynt o’i blaid ef, i ddigofaint yn erbyn y rhai nad oedd o’i blaid.

A bu iddynt ymgynnull ynghyd, a chyssegru Amlici yn frenin arnynt. Yn awr, pan wnaethwyd Amlici yn frenin arnynt, efe a orchymynodd iddynt gymmeryd i fyny arfau yn erbyn eu brodyr; a hyn a wnaeth, fel y darostyngai hwynt iddo ef. Yn awr, pobl Amlici a wahaniaethwyd ag enw Amlici, gan gael eu galw yn Amliciaid; a’r gweddill a alwyd yn Nephiaid, neu bobl Dduw; am hyny, yr oedd pobl y Nephiaid yn hysbys o fwriad yr Amliciaid, a hwy a barotoisant i’w cyfarfod hwynt; ïe, hwy a arfogasant eu hunain â chleddyfau, ac â chrymgleddyfau, ac â bwaau, ac a saethau, ac â cheryg, ac â ffyn-tafl, ac â phob math o arfau rhyfel; ac felly yroeddynt yn barod i gyfarfod â’r Amliciaid yn amser eu dyfodiad. A hwy a benodasant iddynt gadbeniaid, uwch gadbeniaid, a phengadbeniaid, yn ol eu rhifedi.

A bu i Amlici arfogi ei wyr yntau â phob math o arfau rhyfel; ac hefyd penododd lywodraethwyr a phenaethiaid ar ei bobl, i’w harwain hwynt i ryfel yn erbyn eu brodyr. A bu i’r Amliciaid ddyfod i fynydd Amnihu, yr hwn oedd y tu dwyreiniol i afon Sidon, yr hon a redai gerllaw tir Zarahemla, ac yno y dechreuasant ryfela â’r Nephiaid. Yn awr, Alma, gan fod yn brif farnwr, a llywodraethwr pobl Nephi, a aeth i fyny gyda’i bobl, ïe, gyda’i gadbeniaid, a’i ben-cadbeniaid, ïe, o flaen ei fyddinoedd, yn erbyn yr Amliciaid i ryfel; a hwy a ddechreuasant ladd yr Amliciaid ar y mynydd y tu dwyreiniol i Sidon. A’r Amliciaid a ymdrechasant â’r Nephiaid gyda nerth mawr, yn gymmaint nes i lawer o’r Nephiaid syrthio o flaen yr Amliciaid; er hyny, yr Arglwydd a gryfhaodd ddwylaw y Nephiaid, fel y lladdasant yr Amliciaid â lladdfa fawr, nes y dechreuasant ffoi o’u blaen hwynt. A bu i’r Nephiaid ymlid yr Amliciaid yr holl ddiwrnod hwnw, a’u lladd hwynt â lladdfa fawr, yn gymmaint ag i ddeuddeg mil pum cant a deuddeg ar hugain o eneidiau gael eu lladd o’r Amliciaid; ac yr oedd wedi eu lladd o’r Nephiaid, chwech mil pum cant a dau a thrigain o eneidiau.

A dygwyddodd pan nad allai Alma ymlid yr Amliciaid ddim yn hwy, efe a berodd i’w bobl godi eu pebyll, yn nyffryn Gideon, gan y gelwid y dyffryn ar ol y Gideon hwnw a laddwyd gan law Nehor â’r cleddyf; ac yn y dyffryn hwn y cododd y Nephiaid eu pebyll dros y nos. Ac Alma a anfonodd ysbïwyr i ddilyn gweddill yr Amliciaid, fel y gwypai am eu trefniadau a’u cynllwyniau, fel y gallai wylio ei hun rhagddynt, a chadw ei bobl rhag cael eu dyfetha. Yn awr, y rhai a ddanfonodd allan i wylio gwersyll yr Amliciaid, a elwid Zeram, ac Amnor, a Manti, a Limher; y rhai hyn oedd y rhai a aethant allan gyda’u gwyr i wylio gwersyll yr Amliciaid.

A bu dranoeth iddynt ddychwelyd i wersyll y Nephiaid mewn brys mawr, wedi brawychu yn ddirfawr, a’u taraw gan fawr ofn, gan ddywedyd, Ni a ddilynasom wersyll yr Amliciaid, ac er ein syndod mawr, yn nhir Minon, uwchlaw tir Zarahemla, yn rhediad tir Nephi, ni a welsom lu mawr o’r Lamaniaid; ac wele, mae yr Amliciaid wedi ymuno â hwynt, ac y maent ar ein brodyr yn y tir hwnw; ac y maent hwy yn ffoi o’u blaen gyda’u deadelloedd, a’u gwragedd, a’u plant, tuag at ein dinas ni; ac oddieithr i ni wneyd brys, hwy a gymmerant feddiant o’n dinas; a’n tadau, a’n gwragedd, a’n plant a gânt eu lladd.

A bu i bobl Nephi gymmeryd eu pebyll, a chychwyn o ddyffryn Gideon tua eu dinas hwy, yr hon oedd dinas Zarahemla. Ac wele, pan yr oeddynt yn croesi afon Sidon, y Lamaniaid a’r Amliciaid, gan fod mor lliosog braidd, fel pe byddai, â thywod y môr, a ddaethant arnynt i’w dinystrio; er hyny, y Nephiaid a nerthwyd gan law yr Arglwydd, gan eu bod wedi gweddio yn ffyddiog arno, am iddo eu gwaredu allan o ddwylaw eu gelynion; am hyny, yr Arglwydd a wrandawodd eu cri, ac a’u nerthodd hwynt, a’r Lamaniaid a’r Amliciaid a syrthiasant o’u blaen hwynt. A bu i Alma ymladd ag Amlici â’r cleddyf, wyneb yn wyneb; a hwy a ymdrechasant yn nerthol â’u gilydd.

A bu i Alma, gan fod yn wr Duw, ac yn ymarfer llawer o ffydd, waeddi, gan ddywedyd, O Arglwydd, trugarha ac arbed fy mywyd, fel y gallaf fod yn offeryn yn dy ddwylaw i achub a chadw y bobl hyn. Yn awr, ar ol i Alma ddywedyd y geiriau hyn, efe a ymdrechodd drachern ag Amlici; a nerthwyd ef gymmaint nes y lladdodd Amlici â’r cleddyf. Ac efe a ymdrechodd hefyd â brenin y Lamaniaid; eithr brenin y Lamaniaid a ffodd yn ei ol o flaen Alma, ac a ddanfonodd ei wylwyr i ymdrechu ag alma. Eithr Alma, a’i wylwyr yntau, a ymdrechasant â gwylwyr brenin y Lamaniaid, hyd nes y lladdodd ac y gyrodd hwynt yn ol; ac felly y cliriodd efe y maes, neu yn hytrach y geulan, yr hon oedd y tu gorllewinol i anfon Sidon, gan daflu cyrff y Lamaniaid a laddwyd i ddyfroedd Sidon, fel y gallai ei bobl ef gael. He i groesi ac ymladd â’r Lamaniaid a’r Amliciaid, ar ochr orllewinol afon Sidon.

A dygwyddodd, wedi iddynt oll groesi afon Sidon, i’r Lamaniaid a’r Amliciaid ddechreu ffoi o’u blaen, er eu bod hwy mor lliosog fel nas gellid eu rhifo; a hwy a ffoisant o flaen y Nephiaid tua’r anialwch yr hwn oedd ar y tu gorllewinol a gogleddol, ymaith tuhwnt i gyffiniau y tir; a’r Nephiaid a’u hymlidiasant â’u holl allu, ac a’u lladdasant hwynt; ïe, cyfarfuwyd â hwynt ar bob llaw, a lladdwyd, a gyrwyd hwynt, hyd nes y cawsant eu gwasgaru tua’r gorllewin, a’r gogledd, hyd nes y cyrhaeddasant yr anialwch, yr hwn a elwid Hermounts; ac hwn oedd y cwr hwnw o’r anialwch a ddifwynid gan fwystfilod gwylltion rheibus. A bu i lawer feirw yn yr anialwch o’u harchollion, ac a ddyfethwyd gan y bwystfilod hyny, ac hefyd fylturiaid yr awyr; ac y mae eu hesgyrn wedi eu cael, ac wedi eu pentyru ar y ddaear.

A bu i’r Nephiaid, y rhai ni laddwyd ag arfau rhyfel, ar ol claddu y rhai a laddwyd,—yn awr, ni chyfrifwyd y rhifedi a laddwyd, o herwydd lliosogrwydd eu rhifedi;—ar ol iddynt orphen claddu eu meirw, hwy a ddychwelasant oll i’w tiroedd, ac i’w tai, ac at eu gwragedd, a’u plant. Yn awr, yr oedd llawer o wragedd a phlant wedi eu lladd â’r cleddyf, ac hefyd llawer o’u da a’u defaid; ac hefyd dinystriwyd llawer o’u maesydd ŷd, canys hwy a fathrwyd gan y lluoedd gwŷr. Ac yn awr, cynnifer ag a laddwyd o’r Lamaniaid a’r Amliciaid ar làn afon Sidon, a daflwyd i ddyfroedd Sidon; ac wele, mae eu hesgyrn yn eigion y môr, ac y maent yn llawer. A’r Amliciaid a wahaniaethid oddiwrth y Nephiaid, canys hwy a nodent eu hunain â lliw coch yn eu talcenau, yn ol arfer y Lamaniaid; etto, nid oeddynt wedi eillio eu penau fel y Lamaniaid. Yn awr, yr oedd penau y Lamaniaid wedi eu heillio; ac yr oeddynt yn noethion, oddieithr y croen a wregysent o amgylch eu lwynau, ac hefyd eu harfogaeth, yr hon a wregysent o’u hamgylch, a’u bwaau a’u saethau, a’u ceryg, a’u ffyn-tafl, &c. Ac yr oedd crwyn y Lamaniaid yn dywyll, yn ol y nod a osodwyd ar eu tadau, yr hwn oedd yn felldith arnynt, o herwydd eu trosedd a’u gwrthryfel yn erbyn eu brodyr, y rhai a gynnwysent Nephi, Jacob, a Joseph, a Sam, y rhai oeddynt ddynion cyfiawn a santaidd. A’u brodyr a geisient eu dyfetha hwynt; am hyny, hwy a felldithiwyd; a’r Arglwydd Dduw a osododd nôd arnynt, ïe, ar Laman a Lemuel, ac hefyd ar feibion Ishmael, a’r gwragedd Ishmaelaidd; a hyn a wnaed fel y gwahaniaethid eu had hwynt oddiwrth had eu brodyr, fel trwy hyny y cadwai yr Arglwydd Dduw ei bobl, fel na chymmysgent a chredu traddodiadau anghywir, yr hyn a brofai iddynt yn ddinystr.

A bu i bwy bynag a gymmysgai ei had ag eiddo y Lamaniaid, y byddai iddo ddwyn yr un felldith ar ei had yntau; am hyny, pwy bynag a oddefai i’w hun gael ei arwain ymaith gan y Lamaniaid, a elwid yn ol yr enw hwnw, ac yr oedd nod yn cael ei osod arno. A bu pwy bynag ni chredent yn nhraddodiad y Lamaniaid, eithr a gredent y cof-lyfrau hyny a ddygid allan o wlad Jerusalem, ac hefyd yn nhraddodiad eu tadau, yr hwn oedd yn gywir, y rhai a gredent orchymynion Duw, ac a’u cadwent, a elwid yn Nephiaid, neu bobl Nephi, o’r amser hwnw allan; a hwynthwy yw y rhai sydd wedi cadw y cof-lyfrau ag sydd yn gywir am eu pobl hwy, ac hefyd am bobl y Lamaniaid. Yn awr, ni a ddychwelwn etto at yr Amliciad, canys yr oedd nod hefyd wedi ei osod arnynt hwythau; ïe, hwy a osodasant y nod arnynt eu hunain, ïe, sef nod o liw coch ar eu talcenau. Felly y cyflawnir gair Duw, canys y rhai hyn ydynt y geiriau a lefarodd efe wrth Nephi—Wele, y Lamaniaid a felldithiais, ac mi a osodaf nod arnynt, fel y gwahaniaether hwy a’u had oddiwrthyt ti a’th had, o’r amser hwn allan ac yn dragywydd, oddieithr iddynt edifarhau am eu drygioni, a throi ataf fi, fel y cymmerwyf drugaredd arnynt. A thrachefn, mi a osodaf nod ar yr hwn a gymmysga ei had gyda’th frodyr, fel y melldithier hwythau hefyd. A thrachefn, mi a osodaf nod ar yr hwn a ymladdo yn dy erbyn di a’th had. A thrachefn, meddaf, yr hwn a ymadawo oddiwrthyt, ni elwir mwyach dy had di; ac mi a’th fendithiaf di, &c., a phwy bynag a elwir yn had i ti, o’r pryd hwn allan ac yn dragywydd; a’r rhai hyn oedd addewidion yr Arglwydd i Nephi ac i’w had. Yn awr, ni wyddai yr Amliciaid eu bod yn cyflawni geiriau Duw, pan ddechreuasant nodi eu hunain yn eu talcenau; er hyny, daethant allan mewn gwrthryfel agored yn erbyn Duw; am hyny, yr oedd yn rhaid i’r felldith syrthio arnynt. Yn awr, mi a ewyllysiwn i chwi ganfod iddynt hwy ddwyn y felldith arnynt eu hunain; ac felly y mae pob dyn a felldithir, yn dwyn arno ei gondemniad ei hun.

Yn awr, dygwyddodd cyn pen llawer o ddyddiau ar ol y frwydr a ymladdwyd yn nhir Zarahemla, gan y Lamaniaid a’r Amliciaid, fod byddin arall o’r Lamaniaid wedi dyfod ar bobl Nephi yn yr un man ag y cyfarfu y fyddin gyntaf â’r Amliciaid. A bu i fyddin gael ei danfon i’w gyru hwynt allan o’u tir. Yn awr, gan fod Alma ei hun wedi ei gystuddio gan archoll, nid aeth i fyny i ryfel y waith hon yn erbyn y Lamaniaid; eithr efe a anfonodd fyddin liosog yn eu herbyn hwynt; a hwy a aethant i fyny ac a laddasant lawer o’r Lamaniaid, ac a yrasant y gweddill o honynt allan o gyffiniau eu tir; ac yna hwy a ddychwelasant drachefn, ac a ddechreuasant sefydlu heddwch yn y tir, gan na flinid hwy mwyach am dro gan eu gelynion. Yn awr, yr holl bethau hyn a wnaethwyd, ïe, yr holl ryfeloedd a’r amrafaelion hyn a ddechreuwyd ac a orphenwyd yn y bummed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr; ac mewn un flwyddyn gyrwyd miloedd a degau o filoedd o eneidiau i’r byd tragywyddol, i fedi eu gwobr yn ol eu gweithredoedd, pa un bynag a fuont ai da neu dddrwg, i fedi dedwyddwch tragywyddol neu drueni tragywyddol, yn ol yr ysbryd y bu iddynt wrandaw ac ufyddhau iddo, pa un bynag ai ysbryd da neu un drwg; canys y mae pob dyn yn derbyn cyflog gan yr hwn y gwrandawodd ac yr ufyddhaodd iddo, a hyn yn ol geiriau ysbryd y brophwydoliaeth; am hyny, bydded yn ol y gwirionedd. Ac felly y terfyna y bummed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr.