Pennod ⅩⅡ.
Hanes meibion Mosiah, y rhai a wrthodasant eu hawl i’r deyrnas er mwyn gair Duw, ac a aethant i fyny i dir Nephi, i bregethu i’r Lamaniaid. Eu dyoddefiadau a’u gwaredigaeth, yn ol cof-lyfr Alma.
Ac yn awr, dygwyddodd tra yr oedd Alma yn teithio o dir Gideon, yn ddeheuol, ymaith i dir Manti, wele, er ei syndod, cyfarfyddodd â meibion Mosiah yn teithio tua thir Zarahemla. Yn awr, yr oed y meibion hyn o eiddo Mosiah gydag Alma yn yr amser yr ymddangosodd yr angel iddo gyntaf; am hyny, Alma a lawenychodd yn ddirfawr i weled ei frodyr; a’r hyn a ychwanegai yn fwy at ei lawenydd, yr oeddynt o hyd yn frodyr iddo yn yr Arglwydd; ïe, ac yr oeddynt wedi myned yn gedyrn yn ngwybodaeth y gwirionedd; canys yr oeddynt yn ddynion o wir ddealltwriaeth, ac wedi dyfal-chwilio yr ysgrythyrau, fel y gallent wybod gair Duw. Eithr nid hyn yw’r cyfan; yr oeddynt wedi ymroddi i weddio ac ymprydio llawer, am hyny, yr oeddynt wedi cael ysbryd y brophwydoliaeth, ac ysbryd y dadguddiad, a phan y dysgent, yr oeddynt yn dysgu gyda gallu ac awdurdod oddiwrth Dduw. Ac yr oeddynt wedi bod yn dysgu gair Duw am yr yspaid o bedair blynedd ar ddeg yn mhlith y Lamaniaid, wedi cael, mawr lwydd i ddwyn llaweroedd i wybodaeth o’r gwirionedd; ïe, trwy allu eu geiriau, dygwyd llaweroedd gerbron allor Duw, i alw ar ei enw, a chyffesu eu pechodau o’i flaen ef. Yn awr, y rhai hyn yw yr amgylchiadau a’u dilynasant hwy yn eu teithiau, oblegid cawsant gystuddiau lawer, mewn corff ac mewn meddwl; megys newyn, syched, a lludded, ac hefyd fawr lafur yn yr ysbryd. Yn awr, y rhai hyn oedd eu teithiau: Wedi cymmeryd cenad eu tad Mosiah, yn mlwyddyn gyntaf y Barnwyr; wedi gwrthod y deyrnas ag oedd eu tad yn ewyllysio roddi iddynt; ac hefyd hyn oedd meddwl y bobl; er hyny, hwy a ymadawsant allan o dir Zarahemla, ac a gymmerasant eu cleddyfau, a’u gwayw-ffyn, a’u bwäau, a’u saethau, a’u ffyn-tafl; a hyn a wnaethant fel y gallent ddarparu ymborth iddynt eu hunain tra yn yr anialwch, ac felly yr ymadawsant i’r anialwch gyda’r nifer a ddewisasant, er myned i fyny i dir Nephi, i bregethu gair Duw i’r Lamaniaid.
A bu iddynt deithio amryw ddyddiau yn yr anialwch, ac ymprydio llawer ar i’r Arglwydd roddi iddynt gyfran o’i ysbryd i fyned gyda hwynt, ac aros gyda hwynt, fel y byddent yn offerynau yn nwylaw Duw i ddwyn, os byddai bosibl, eu brodyr, y Lamaniaid, i wybodaeth o’r gwirionedd; i wybodaeth o waeider traddodiadau eu tadau, y rhai nid oeddynt gywir.
A dygwyddodd i’r Arglwydd ymweled â hwynt â’i ysbryd, a dywedyd wrthynt, Ymgysurwch; a hwy a ymgysurwyd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthynt hefyd, Ewch i blith y Lamaniaid, eich brodyr, a sefydlwch fy ngair; etto byddwch amyneddgar mewn hir-ymaros a chystuddiau, fel y dangosoch iddynt esiamplau da ynof fi, ac mi a’ch gwnaf yn offerynau yn fy nwylaw, er iachawdwriaeth llawer o eneidiau.
A darfu i galonau meibion Mosiah, ac hefyd y rhai ag oedd gyda hwynt, ymwroli i fyned at y Lamaniaid, er traethu iddynt air Duw.
A bu ar ol iddynt gyrhaedd cyffiniau tir y Lamaniaid, iddynt ranu eu hunain, ac ymadael oddiwrth eu gilydd, gan ymddiried yn yr Arglwydd y caent gyfarfod drachefn ar ddiwedd eu cynauaf; canys tybient mai mawr oedd y gwaith oeddynt wedi gymmeryd mewn llaw. Ac yn ddiau yr oedd yn fawr, canys cymmerasant arnynt i bregethu gair Duw i bobl wyllt, a chaled, a chreulawn; pobl a ymhyfrydent i lofruddio y Nephiaid, a’u hyspeilio, a’u hanrheithio hwynt; ac yr oedd eu calonau wedi eu gosod ar gyfoeth, neu ar aur ac arian, a meini gwerthfawr; etto ceisient feddu y pethau hyn trwy lofruddio ac anrheithio, fel na lafurient am danynt â’u dwylaw eu hunain; felly yr oeddynt yn bobl ddioglyd iawn, a llawer o honynt a addolent eilunod, ac yr oedd melldith Duw wedi syrthio srnynt o herwydd traddodiadau eu tadau; er hyny, yr oedd addewidion Duw yn estynedig atynt ar ammodau o edifeirwch; am hyny, hyn oedd yr achlysur i feibion Mosiah gymmeryd y gwaith mewn llaw, fel ysgatfydd y gallent eu dwyn hwynt i edifeirwch; fel ysgatfydd y dygent hwynt i wybod am y cynllun o brynedigaeth; am hyny, hwy a ymranasant oddiwrth eu gilydd, ac a aethant i’w mysg hwynt, pob dyn wrtho ei hun, yn ol gair a gallu Duw, y rhai a roddwyd iddo.
Yn awr, Ammon, gan fod yn benaf yn eu plith hwynt, neu yn hytrach efe oedd yn gweinyddu iddynt hwy; ac efe a ymadawodd oddiwrthynt, ar ol eu bendithio yn ol eu gwahanol raddau, a chyfranu iddynt air Duw, neu weinyddu iddynt cyn ei ymadawiad; ac felly hwy a gymmerasant eu gwahanol deithiau trwy y tir. Ac Ammon a aeth i dir Ishmael, yr hwn dir a elwid ar ol meibion Ishmael, y rhai a aethant hefyd yn Lamaniaid. Ac fel yr oedd Ammon yn myned i mewn i dir Ishmael, y Lamaniaid a’i daliasant ac a’i rhwymasant megys yr oedd yn arferiad ganddynt i rwymo yr holl Nephiaid a syrthient i’w dwylaw, a’u dwyn hwynt gerbron y brenin; ac felly y gadewid hwynt i ewyllys y brenin i’w lladd, neu eu cadw mewn caethiwed, neu eu bwrw yn ngharchar, neu eu bwrw allan o’i dir, yn ol ei ewyllys a’i bleser; ac felly y dygwyd Ammon gerbron y brenin oedd ar dir Ishmael; a’i enw oedd Lamoni; ac yr oedd yn ddisgynydd o Ishmael. A’r brenin a ofynodd i Ammon, os mai ei ddymuniad oedd trigo yn y tir yn mysg y Lamaniaid, neu yn mysg ei bobl ef? Ac Ammon a ddywedodd wwrtho, Ië, yr wyf yn dymuno byw yn mysg y bobl hyn am yspaid, ïe, ac efallai hyd ddydd fy marwolaeth.
A dygwyddodd i’r brenin Lamoni gael ei fawr foddloni yn Ammon, a pherodd i’w rwymau gael eu rhyddhau; ac efe a fynai i Ammon gymmeryd un o’i ferched yn wraig. Eithr Ammon a ddywedodd wrtho, Na, eithr mi a fyddaf yn was i ti; am hyny, daeth Ammon yn was i’r brenin Lamoni. A bu iddo gael ei osod yn mhlith gweision ereill, i fugeilio deadelloedd Lamoni, yn ol arferiad y Lamaniaid. Ac ar ol iddo fod yn ngwasanaeth y brenin am dri diwrnod, fel yr oedd gyda’r gweision Lamanaidd, yn myned â’u deadelloedd i’r dwfr, yr hwn a elwid dwfr Sebus (a’r holl Lamaniaid a yrent eu deadelloedd yno, fel y gallent gael dwfr); gan hyny, pan oedd Ammon a gweision y brenin yn gyru eu deadelloedd i’r dwfr hwn, wele, rhyw nifer o’r Lamaniaid, y rhai oeddynt wedi bod yn dyfrhau eu deadelloedd, a safasant ac a wasgarasant ddeadelloedd Ammon a gweision y brenin, a hwy a’u gwasgarasant nes y ffoisant mewn amryw ffyrdd.
Yn awr, gweision y brenin a ddechreuasant rwgnach, gan ddywedyd, Yn awr y brenin a’n lladd ninnau, fel ein brodyr, o herwydd fod eu deadelloedd wedi eu gwasgaru trwy ddrygioni y bobl hyn. A hwy a ddechreuasant wylo yn enbyd, gan ddywedyd, Wele, mae ein deadelloedd wedi eu gwasgaru eisoes. Yn awr hwy a wylent rhag ofn cael eu lladd. Yn awr, pan welodd Ammon hyn, ei galon a orlenwodd o lawenydd o’i fewn; canys, eb efe, mi a ddangosaf fy ngallu i’m cyd-weision hyn, neu y gallu ag sydd ynof, wrth adferyd y deadelloedd hyn i’r brenin, fel yr ennillwyf galonau fy nghydweision hyn, fel yr arweiniwyf hwynt i gredu fy ngeiriau. Yn awr, y rhai hyn oeddynt feddyliau Ammon, pan welodd efe gystuddiau y rhai a gyfenwai yn frodyr iddo.
A bu iddo wenieithio iddynt â’i eiriau, gan ddywedyd, Fy mrodyr, ymgysurwn, ac awn i chwilio am y deadelloedd, a nyni a’u casglwn ynghyd, a dygwn hwynt yn ol at y dwfr; ac felly nyni a gadwn y deadelloedd i’r brenin, ac ni wna yntau ein lladd.
A darfu iddynt fyned i chwilio am y deadelloedd, a chanlyn Ammon, a hwy a ruthrasant yn mlaen gyda buandra mawr, ac a ragflaenent ddeadelloedd y brenin, ac a’u casglasant ynghyd drachefn at y dwfr. A’r dynion hyny a safasant drachefn i wasgaru eu deadelloedd; eithr Ammon a ddywedodd wrth ei frodyr, Amgylchynwch y deadelloedd, fel na ffoant; a minnau a âf, ac a ymladdaf â’r dynion hyn sydd yn gwasgaru ein deadelloedd. Am hyny, hwy a wnaethant megys y gorchymynodd Ammon iddynt, ac yntau a aeth ac a safodd i ymladd â’r rhai a safent wrth ddyfroedd Sebus; ac mewn rhifedi nid oeddynt ychydig; am hyny, ni ofnent Ammon, canys tybient y gallai un o’u gwyr hwy ei ladd ef yn ol eu pleser, oblegid ni wyddent fod yr Arglwydd wedi addaw wrth Mosiah y gwaredai efe ei feibion o’u dwylaw; ac ni wyddent ychwaith ddim am yr Arglwydd; gan hyny, hwy a ymhyfrydent yn ninystr eu brodyr; ac i’r dyben yma yr arosent i wasgaru deadelloedd y brenin.
Eithr Ammon a safodd ac a ddechreuodd daflu ceryg atynt â’i ffon-dafl; ïe, gyda nerth mawr y taflodd efe geryg i’w mysg; ac felly efe a laddodd ryw nifer o honynt, hyd nes y dechreuasant synu oblegid ei nerth; er hyny, hwy a lidiasant oblegid lladdedigion eu brodyr, ac a benderfynasant y cai efe syrthio; am hyny, gan weled nas gallent eu daraw â’u ceryg, hwy a ddaethant â’u pastynau i’w ladd ef. Eithr wele, pob dyn a gyfododd ei bastwn i daraw Ammon, efe a dorodd ymaith eu breichiau â’r cleddyf; canys efe a wrthsafodd eu hergydion trwy daraw eu breichiau â min ei gleddyf, hyd nes y dechreuasant synu, a dechreu ffoi o’i flaen; ïe, ac nid oeddynt ychydig mewn nifer; ac efe a achosodd iddynt ffoi trwy nerth ei fraich. Yn awr, yr oedd chwech o honynt wedi syrthio trwy y ffondafl, eithr ni laddodd efe neb â’i gleddyf, oddieithr eu blaenor; ac efe a dorodd ymaith gynnifer o’u breichiau ag a godasant yn ei erbyn, ac nid oeddynt yn ychydig. Ac ar ol iddo eu gyru hwynt yn mhell, efe a ddychwelodd, a hwy a ddyfrasant y deadelloedd ac a’u dychwelasant i borfa y brenin, ac yna aethant i mewn at y brenin, gan ddwyn y breichiau a dorwyd ymaith gan gleddyf Ammon, sef eiddo y rhai a geisient ei ladd ef; a dygwyd hwy i mewn at y brenin yn dystiolaeth o’r pethau oeddynt hwy wedi wneuthur.
A bu i’r brenin Lamoni beri i’w weision sefyll a thystiolaethu am yr holl bethau a welsant ynghylch y mater. Ac wedi iddynt oll dystiolaethu am yr holl bethau a welsant, ac iddo yntau wybod am ffyddlondeb Ammon yn cadw ei ddeadelloedd, a’i fawr alln yn ymladd yn erbyn y rhai a geisient ei ladd, efe a ryfeddodd yn ddirfawr, ac a ddywedodd. Yn ddiau, mae hwn yn fwy nâ dyn. Wele, ai nid hwn yw yr Ysbryd Mawr sydd yn anfon y fath gospedigaethau mawrion ar y bobl hyn, o herwydd eu llofruddiaethau? A hwy a atebasant y brenin, ac a ddywedasant, Pa un bynag ai yr Ysbryd Mawr neu ddyn ydyw, nis gwyddom ni; eithr hyn a wyddom, nas gellir ei ladd gan elynion y brenin; ac nis gallant wasgaru deadelloedd y brenin pan y mae efe gyda ni, oblegid ei fedrusrwydd a’i fawr nerth; am hyny, ni a wyddom ei fod yn gyfaill i’r brenin. Ac yn awr, O frenin, nid ydym yn credu fod gan ddyn y fath allu mawr, canys gwddom nas gellir ei ladd. Ac yn awr, pan glywodd y brenin y geiriau hyn, efe a ddywedodd wrthynt, Yn awr y gwn mai yr Ysbryd Mawr yw; ac y mae wedi dyfod i lawr y waith hon i gadw eich bywydau chwi, fel na laddwn chwi megys eich brodyr. Yn awr, dyma yr Ysbryd Mawr, am ba un y llefarodd ein tadau. Yn awr, hyn oedd traddodiad Lamoni, yr hwn a dderbyniodd oddiwrth ei dad, fod Ysbryd Mawr. Etto er y credent mewn Ysbryd Mawr, tybient fod pa beth bynag a wnelent, yn iawn; er hyny, dechreuodd Lamoni ofni yn ddirfawr, rhag ofn iddo wneuthur ar gam wrth ladd ei weision: canys yr oedd wedi lladd llaweroedd o honynt, o herwydd fod eu brodyr yn gwasgaru eu deadelloedd wrth y dwfr; ac felly o achos bod eu deadelloedd yn cael eu gwasgaru, yr oeddynt yn cael eu lladd. Yn awr, yr oedd yn arferiad gan Y Lamaniaid i sefyll wrth ddyfroedd Sebus i wasgaru deadelloedd y bobl, fel trwy hyny y gyrent ymaith lawer o’r rhai a wasgaresid i’w tir eu hunain, gan ei fod yn arferiad o yspeilio yn eu plith.
A dygwyddodd i’r brenin Lamoni ofyn i’w weision, gan ddywedyd, Pa le mac y dyn hwn sydd â’r fath allu mawr? A hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae efe yn porthi dy feirch. Yn awr, yr oedd y brenin wedi gorchymyn i’w weision, yn flaenorol i’r amser o ddyfrhau eu deadelloedd, am iddynt barotoi ei feirch a’i gerbydau, a’i arwain ef i dir Nephi: canys yr oedd gwledd fawr wedi ei phenodi yn nhir Nephi, gan dad Lamoni, yr hwn oedd yn frenin ar yr holl dir. Yn awr, pan glywodd Lamoni fod Ammon yn parotoi ei feirch a’i gerbydau, efe a ryfeddodd yn fwy, o herwydd ffyddlondeb Ammon, gan ddywedyd, Yn ddiau, ni fu un gwas yn mhlith fy holl weision, mor ffyddlawn â’r dyn hwn; canys y mae yn cofio gwneuthur fy holl orchymynion. Yn awr y gwn yn sicr mai efe yw yr Ysbryd Mawr, ac mi a ewyllysiwn iddo ddyfod i mewn ataf, eithr ni feiddiaf.
A bu ar ol i Ammon barotoi y meirch a’r cerbydau i’r brenin a’i weision, iddo fyned i mewn at y brenin, ac efe a ganfyddodd fod gwynebpryd y brenin wedi cyfnewid; am hyny, yr oedd efe ynghylch dychwelyd allan o’i bresennoldeb; ac un o weision y brenin a ddywedodd wwrtho, Rabbanah, yr hyn o’i gyfieithu yw, frenin mawr neu galluog, gan ystyried fod eu breninoedd yn alluog; ac fel y dywedodd efe wrtho, Rabbanah, mae y brenin yn ewyllysio i ti aros; am hyny, Ammon a drodd ei hun at y brenin, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth a fyni i mi wneuthur i ti, O frenin? Ac nid atebodd y brenin ef am yspaid awr, yn ol eu hamser hwy, canys nis gwyddai pa beth i ddywedyd wrtho. A bu i Ammon ddywedyd wrtho drachefn, Pa beth a ewyllysi genyf fi? Eithr ni atebodd y brenin ef.
A bu i Ammon, trwy gael ei lanw o ysbryd Duw, amgyffred meddyliau y brenin. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ai o herwydd i ti glywed i mi amddiffyn dy weision a’th ddeadelloedd, a lladd saith o’u brodyr â’r ffon-dafl, ac â’r cleddyf, a thori ymaith freichiau ereill, i’r dyben o amddiffyn dy ddeadelloedd a’th weision; wele, ai hyn sydd yn achosi i ti ryfeddu? Yr wyf yn dywedyd, paham y mae dy syndod mor fawr? Wele, dyn wyf i, a’th was di; am hyny, pa beth bynag a ewyllysi ag sydd yn iawn, hyny a wnaf. Yn awr, pan glywodd y brenin y geiriau hyn, efe a ryfeddodd drachefn; canys efe a ganfyddodd fod Ammon yn gallu gwybod ei feddyliau; ond er hyny, y brenin Lamoni a agorodd ei enau, ac a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Ai ti yw yr Ysbryd Mawr hwnw, ag sydd yn gwybod pob peth? Ammon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nago. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Pa fodd y gwyddost ti feddyliau fy nghalon? Gelli lefaru yn eofn, a mynega wrthyf yn nghylch y pethau hyn; ac hefyd dywed wrthyf, trwy ba allu y lladdaist ac y toraist ymaith freichiau fy mrodyr, y rhai a wasgarent fy neadelloedd. Ac yn awr, os hysbysi fi ynghylch y pethau hyn, mi a roddaf i ti pa beth bynag a chwennychi; a phe byddai anghen, mi a’th wyliwn di â’m byddinoedd; eithr mi a wn dy fod di yn fwy galluog nâ hwynt-hwy oll: er hyny, pa beth bynag a cwyllysi genyf, mi a’i rhoddaf i ti. Yn awr, Ammon, gan fod yn ddoeth, etto yn ddiniwed, a ddywedodd wrth Lamoni, A wrandewi di ar fy ngeiriau, os dywedaf wrthyt trwy ba allu yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn? A hyn yw y peth wyf yn ewyllysio genyt ti. A’r brenin a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Gwnaf, mi a gredaf dy holl eiriau; ac felly efe a ddaliwyd trwy gyfrwysdra. Ac Ammon a ddechreuodd lefaru wrtho gydag eofndra, ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu fod Duw? Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Nis gwn pa beth a feddylia hyny. Yna Ammon a ddywedodd, A wyt ti yn credu fod Ysbryd Mawr? Ac yntau a ddywedodd, Ydwyf. Ac Ammon a ddywedodd, Hwnw yw Duw. Ac Ammon a ddywedodd wrtho drachefn, A wyt ti yn credu i’r Ysbryd Mawr yma, yr hwn sydd Dduw, greu pob peth yn y nef ac ar y ddaear? Ac efe a ddywedodd, Ydwyf, yr wyf yn credu mai efe a greodd bob peth ar y ddaear; ond nid wyf yn gwybod am y nefoedd. Ac Ammon a ddywedodd wrtho, Y nefoedd sydd le y preswylia Duw ynddo, a’i holl angylion santaidd. A’r brenin Lamoni a ddywedodd, A ydyw uwchlaw y ddaear? Ac Ammon a ddywedodd, Ydyw, ac y mae efe yn edrych i lawr ar holl blant dynion; ac y mae yn gwybod holl feddylian a bwriadau y galon; canys gan ei law ef y crewyd hwynt oll o’r dechreuad. A dywedodd y brenin Lamoni, Yr wyf yn credu yr holl bethau hyn a lefaraist. A wyt ti wedi dy anfon oddiwrth Dduw? Ac Ammon a ddywedodd wrtho, Dyn wyf fi; a dyn yn y dechreuad a grewyd ar ddelw Duw, a myfi a alwyd gan ei Ysbryd Santaidd i ddysgu y pethau hyn i’r bobl yma, fel y dyger hwynt i wybodaeth o’r hyn sydd uniawn a chywir; ac y mae cyfran o’r Ysbryd hwnw yn tirog ynof, yr hwn a rydd i mi wybodaeth, a gallu hefyd, yn ol fy ffydd a’m dymuniadau yn Nuw. Yn awr, wedi i Ammon lefaru y geiriau hyn, efe a ddechreuodd gyda chreadigaeth y byd, ac hefyd greadigaeth Adda, ac a fynegodd iddo bo peth ynghylch cwymp dyn, ac a adroddodd ac a osododd o’i flaen gof-lyfrau ac ysgrythyrau santaidd y bobl, y rhai a lefarwyd gan y prophwydi, hyd at yr amser y gadawodd eu tad Lehi Jerusalem; ac efe a adroddodd hefyd wrthynt (sef wrth y brenin a’i weision) holl deithiau eu tadau yn yr anialwch, a’u holl ddyoddefiadau mewn newyn a syched, a’u lludded, &c.; ac efe a adroddodd wrthynt hefyd am wrthryfel Laman a Lemuel, a meibion Ishmael; ïe, eu holl wrthryfel a adroddodd efe wrthynt; ac esboniodd iddynt yr holl gof-lyfrau ac ysgrythyrau, o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem, i lawr i’r amser presennol; eithr nid hyn yw y cyfan; canys efe a eglurodd iddynt y cynllun o brynedigaeth, yr hwn a ragbarotowyd er seiliad y byd; ac hysbysodd iddynt hefyd am ddyfodiad Crist, a holl weithredoedd yr Arglwydd a amlygodd iddynt.
A bu wedi iddo ef ddywedyd yr holl bethau hyn, a’u hegluro i’r brenin, i’r brenin gredu ei holl eiriau. Ac efe a ddechreuodd alw ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd, trugarha; yn ol dy aml drugaredd tuag at bobl Nephi, ymwel â minnau a’m pobl. Ac yn awr, wedi iddo ddywedyd hyn, efe a syrthiodd i lawr, megys pe byddai yn farw. A bu i’w weision ei gymmeryd a’i ddwyn i mewn at ei wraig, a’i osod ar wely; ac efe a orweddodd megys pe byddai yn farw am yspaid dau ddiwrnod a dwy noson; a’i wraig, a’i feibion, a’i ferched a alarasant o’i blegid, yn ol dull y Lamaniaid, gan gwynfyn yn fawr oblegid ei golli.
A dygwyddodd yn mhen dau ddiwrnod a dwy noson, eu bod ynghylch cymmeryd ei gorff a’i osod yn y beddrod a wnaethent er mwyn claddu eu meirw. Yn awr, gan fod y frenines wedi clywed am enwogrwydd Ammon, hi a ddanfonodd i ddymuno arno ddyfod i mewn at hi. A bu i Ammon wneuthur megys y gorchymynwyd iddo, ac efe a aeth i mewn at y frenines, ac a ddymunodd wybod pa beth oedd yn ewyllysio iddo wneuthur. A hi a ddywedodd wrtho, Gweision fy ngwr ydynt wedi hysbysu i mi dy fod di yn brophwyd i Dduw santaidd, a bod genyt allu i gyflawni gweithredoedd nerthol yn ei enw; gan hyny, os mai felly y mae, mi a ewyllysiwn i ti fyned i mewn i weled fy ngwr, canys y mae wedi bod yn gorwedd ar ei wely am yspaid dau ddiwrnod a dwy noson; a dywed rhai nad yw yn farw, eithr ereill a ddywedant ei fod yn farw, a’i fod yn drewi, ac y dylai gael ei osod yn y beddrod; eithr o ran fy hun nid yw yn drewi i mi Yn awr, hyn oedd Ammon yn ddymuno, canys efe a wyddai fod y brenin Lamoni o dan allu Duw; efe a wyddai fod gorchudd dywell anghrediniaeth wedi ei thaflu ymaith o’i feddwl, a bod y goleuni yr hwn a oleuodd ei feddwl, yr hwn oedd goleuni gogoniant Duw, yr hwn oedd ryfedd oleuni ei ddaioni; ïe, fod y goleuni hwn wedi tywallt y fath lawenydd i’w enaid, gan fod y cwmwl o dywyliwch wedi ei chwalu, a bod llewyrch goleuni tragywyddol wedi ei ennyn yn ei enaid; ïe, efe a wyddai fod hyn wedi gorchfygu ei gorff naturiol, a’i fod wedi ei gymmeryd ymaith yn Nuw; gan hyny, yr hyn a ddymunodd y frenines ganddo, oedd ei unig ddymuniad ef. Am hyny, efe a aeth i mewn i weled y brenin, yn ol fel yr oedd y frenines wedi dymuno arno; ac efe a welodd y brenin, a gwyddai nad oedd yn farw. Ac efe a ddywedodd wrth y frenines, Nid yw efe yn farw, eithr huno yn Nuw y mae, ac y fory efe a gyfyd drachefn; am hyny, na chladdwch ef. Ac Ammon a ddywedodd wrthi, A wyt ti yn credu hyn? A hithau a ddywedodd wrtho, Nid oes genyf un tyst, oddieithr dy air di a gair ein gweision; er hyny, yr wyf yn credu y bydd megys y dywedaist. Ac Ammon a ddywedodd wrthi, Gwyn dy fyd di, o herwydd dy fawr ffydd; yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, wraig, na fu y fath ffydd fawr yn mhlith holl bobl y Nephiaid.
A bu iddi hi wylied gwely ei gwr, o’r pryd hwnw, hyd y pryd hwnw dranoeth a benododd Ammon iddo ef i gyfodi. A bu iddo gyfodi, yn ol geiriau Ammon; ac fel yr oedd yn cyfodi, efe a estynodd allan ei law at y wraig, ac a ddywedodd, Bendigedig fo enw Duw, a gwyn dy fyd dithau; canys yn ddiau fel mai byw ydwyt, wele, mi a welais fy Ngwaredwr; ac efe a ddaw, ac a enir o wraig, ac efe a wared holl ddynolryw, y cyfryw a gredant yn ei enw. Yn awr, wedi iddo ddywedyd y geiriau hyn, ei galon a ymchwyddodd o’i fewn, ac efe a syrthiodd drachefn gyda gorfoledd; a’r frenines a syrthiodd hefyd, gan fod wedi ei gorchfygu gan yr ysbryd. Yn awr, Ammon, gan weled fod ysbryd yr Arglwydd yn cael ei dywallt, yn ol ei weddiau ef, ar y Lamaniaid, ei frodyr, y rhai a fuont yn achos o gymmaint galar yn mhlith y Nephiaid, neu yn mhlith holl bobl Dduw, o herwydd eu hanwireddau a’u traddodiadau, a syrthiodd ar ei liniau, ac a ddechreuodd dywallt allan ei enaid mewn gweddi a diolchgarwch i Dduw, am yr hyn a wnaeth er mwyn ei frodyr: ac yntau a orchfygwyd hefyd gan orfoledd; ac felly yr oedd y tir wedi syrthio ar y llawr. Yn awr, pan welodd gweision y brenin eu bod hwy wedi syrthio, hwythau hefyd a ddechreuasant alw ar Dduw, canys ofn yr Arglwydd a ddaeth arnynt hwy hefyd, oblegid hwynt-hwy fu yn sefyll gerbron y brenin, ac yn tystiolaethu wrtho am fawr allu Ammon.
A dygwyddodd iddynt oll alw ar enw yr Arglwydd â’u holl nerth, hyd nes y syrthiasant oll i’r llawr, oddieithr un o’r benywod Lamanaidd, enw yr hon oedd Abish, gan ei bod hi wedi ei dychwelyd at yr Arglwydd er ys amryw flynyddau, o herwydd gweledigaeth neillduol o eiddo ei thad; ac wedi ei dychwelyd felly at yr Arglwydd, nis gwnaeth hyny erioed yn hysbys; am hyny, pan welodd hi fod holl weision Lamoni wedi syrthio i’r llawr, ac hefyd ei meistres, y frenines, a’r brenin, ac Ammon yn gorwedd ar lawr, hi a wyddai mai gallu Duw oedd; a chan dybied y byddai y cyfleusdra hwn o hysbysu i’r bobl yr hyn a ddygwyddodd yn eu plith, er mwyn iddynt weled yr olygfa hon, yn achosi iddynt i gredu yn ngallu Duw, hi a redodd o dŷ i dŷ, gan ei hysbysu i’r bobl; a hwy a ddechreuasant ymgynnull ynghyd i dŷ y brenin. A daeth lliaws, ac er eu syndod, canfyddent y brenin, a’r frenines, a’u gweision yn gorwedd ar y llawr, a gorweddent yno oll megys pe byddent feirw; a chanfyddent Ammon hefyd, ac wele, Nephiad oedd efe. Ac yn awr, y bobl a ddechreuasant rwgnach yn mhlith eu hunain; rhai yn dywedyed mai drygfyd mawr oedd wedi dyfod arnynt hwy, neu ar y brenin a’i dŷ, o herwydd goddefo hono y Nephiad i aros yn y tir. Eithr ereill a’u ceryddodd hwynt, gan ddywedyd, Y brenin a ddygodd y drygfyd hyn ar ei dŷ, o herwydd iddo ladd ei weision, y rhai y gwasgaresid eu dendelloedd wrth ddyfroedd Sebus; a cheryddwyd hwynt hefyd gan y dynion hyny a safent wrth ddyfroedd Sebus, ac a wasgarent deadelloedd a berthynent i’r brenin, canys yr oeddynt yn ddig wrth Ammon, oblegid y nifer a laddodd o’u brodyr wrth ddyfroedd Sebus, tra yn amddiffyn deadelloedd y brenin. Yn awr, un o honynt, brawd yr hwn a laddwyd â chleddyf Ammon, gan fod yn dra digllawn wrth Ammon, a dynodd ei gleddyf, ac a aeth fel y gallai ei adnel i syrthio ar Ammon, i’w ladd; ac fel yr oedd yn cyfodi y cleddyf i’w daraw, wele, efe a syrthiodd yn farw. Yn awr, gwelwn nas gallai Ammon gael ei ladd, canys dywedodd yr Arglwydd wrth Mosiah, ei dad. Mi a’i harbedaf ef, a bydd iddo yn ol dy ffydd di; am hyny, Mosiah a’i hymddiriedodd i’r Arglwydd.
A bu pan welodd y lliaws fod y dyn wedi syrthio yn farw, yr hwn a gyfododd ei gleddyf i ladd Ammon, wele, dychryn a ddaeth arnynt oll, ac ni feiddiasant osod eu dwylaw i’w gyffwrdd ef, na neb o’r rhai ag oedd wedi syrthio; a hwy a ddechreuasant ryfeddu drachefn yn mhlith eu hunain pa beth a allai fod yr achos o’r gallu mawr hwn, neu pa beth oedd yr holl bethau hyn yn arwyddo.
A dygwyddodd fod llawer yn eu plith hwynt a ddywedent mai Ammon oedd yr Ysbryd Mawr, ac ereill a ddywedent ei fod wedi ei anfon gan yr Ysbryd Mawr; eithr ereill a’u ceryddodd hwynt oll, gan ddywedyd, mai anghenfil oedd, yr hwn a ddanfonwyd gan y Nephiaid i’w poeni; ac yr oedd rhai a ddywedent fod Ammon wedi ei anfon gan yr Ysbryd Mawr i’w cystuddio hwynt, o herwydd eu hanwireddau; ac mai yr Ysbryd Mawr oedd yn gweini yn wastad i’r Nephiaid; yr hwn oedd yn eu gwaredu o hyd o’u dwylaw hwy; a hwy a ddywedasant mai yr Ysbryd Mawr oedd wedi dyfetha cynnifer o’u brodyr, y Lamaniaid; ac felly y dechreuodd yr ymddadleu fod yn dra llym yn eu mysg. A thra yr oeddynt felly yn ymddadleu, y wasanaethferch ag oedd wedi achosi i’r lliaws gasglu ynghyd, a ddaeth, a phan welodd yr amrafael ag oedd yn mhlith y lliaws, hi a dristäodd yn fawr, hyd at ddagrau.
A bu iddi fyned a chymmeryd y frenines gerfydd ei llaw, fel y gallai efallai ei chyfodi o’r llawr; ac mor fuan ag y cyffyrddodd â’i llaw, hi a gyfododd ac a safodd ar ei thraed, ac a waeddodd â llef uchel, gan ddywedyd, O Iesu bendigedig, yr hwn a’m hachubodd o uffern druenus! O Dduw bendigedig, trugarha wrth y bobl hyn. Ac wedi iddi ddywedyd hyn, hi a blethodd ei dwylaw, yn llawn o lawenydd, ac a lefarodd lawer o eiriau nad ellid eu deall; a phan orphenodd hyn, hi a gymmerodd y brenin Lamoni gerfydd ei law, ac wele efe a gyfododd ac a safodd ar ei draed; ac yn y fan, gan weled yr amrafael yn mhlith y bobl, efe a aeth ac a ddechreuodd eu ceryddu, a dysgu iddynt y geiriau a glywodd o enau Ammon; a chynnifer ag a wrandawsant ei eiriau, a gredasant, ac a ddychwelwyd at yr Arglwydd. Eithr yr oedd llawer yn eu plith hwynt na wrandawent ei eiriau; am hyny, hwy a aethant i’w ffordd.
A dygwyddodd pan gyfododd Ammon, iddo yntau hefyd weinidogaethu iddynt, ac hefyd holl weision Lamoni; a hwy oll a fynegasant i’r bobl yr un peth; fod eu calonau wedi eu cyfnewid, ac nad oedd dymuniad ynddynt mwyach i wneuthur drwg. Ac wele, llawer a dystiasant wrth y bobl eu bod wedi gweled angylion, ac wedi ymddyddan â hwynt; ac felly y traethasant wrthynt am bethau Duw, ac am ei gyfiawnder. A dygwyddodd fod llaweroedd yn credu eu geiriau; a chynnifer ag a gredasant, a fedyddiwyd; a hwy a ddaethant yn bobl gyfiawn, ac a sefydlasant eglwys yn eu mysg; ac felly y dechreuodd yr Arglwydd dywallt allan ei ysbryd arnynt hwy; a gwelwn fod ei fraich yn estynedig at bob pobl sydd yn edifarhau ac yn credu yn ei enw.
A bu ar ol iddynt sefydlu egiwys yn y tir hwnw, i’r brenin Lamoni ddymuno ar Ammon fyned gydag ef i dir Nephi, fel y dangosai ef i’w dad. A daeth llais yr Arglwydd at Ammon, gan ddywedyd, Na ddos i fyny i dir Nephi, canys wele, y brenin a geisia dy fywyd; eithr dos i dir Middoni; canys wele, mae dy frawd Aaron, ac hefyd Muloki ac Ammah, yn ngharchar.
Yn awr, dygwyddodd ar ol i Ammon glywed hyn, iddo ddywedyd wrth Lamoni, Wele, fy mrawd a’m brodyr ydynt yn ngharchar yn Middoni, ac yr wyf fi yn myned fel y gwaredwyf hwynt. Yn awr, Lamoni a ddywedodd wrth Ammon, Mi a wn y gelli di wneuthur pob peth, trwy nerth yr Arglwydd. Eithr wele, myfi a ddeuaf gyda thi i dir Middoni: canys y mae brenin tir Middoni, enw yr hwn yw Antiomno, yn gyfaill i mi; am hyny mi a âf i dir Middoni, fel y gallwyf ddenu brenin y tir; ac efe a ollynga dy frodyr allan o’r carchar. Yn awr, Lamoni a ddywedodd wrtho, Pwy a fynegodd i ti fod dy frodyr yn ngharchar? Ac Ammon a ddywedodd wrtho, Ni fynegodd neb wrthyf, oddieithr Duw: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos, a gwared dy frodyr, canys y maent yn ngharchar yn nhir Middoni. Yn awr, pan glywodd Lamoni hyn, efe a berodd i’w weision barotoi ei feirch a’i gerbydau. Ac efe a ddywedodd wrth Ammon. Tyred, mi a âf gyda thi i waered i dir Middoni, ac yno yr ymbiliaf â’r brenin, fel y gollyngo dy frodyr allan o’r carchar.
A dygwyddodd tra yr oedd Ammon a Lamoni yn teithio tuag yno, iddynt gyfarfod â thad Lamoni, yr hwn oedd yn frenin ar yr holl dir. Ac wele, tad Lamoni a ddywedodd wrtho, Paham na ddaethost i’r wledd ar y dydd mawr hwnw, pan wnaethym wledd i’m meibion, ac i’m pobl? Ac efe a ddywedodd hefyd, I ba le yr wyt yn myned gyda’r Nephiad hwn, ag sydd yn un o blant celwyddwr? A bu i Lamoni fynegi iddo pa le yr oedd yn myned, canys yr oedd yn ofni ei ddigio ef. Ac efe a fynegodd iddo hefyd yr holl achos o’i arosiad yn ei deyrnas ei hun, fel nad aeth at ei dad, i’r wledd ag oedd wedi barotoi. Ac yn awr, wedi i Lamoni adrodd wrtho yr holl bethau hyn, wele, er ei syndod, yr oedd ei dad yn ddigllawn wrtho, a dywedodd, Lamoni, yr wyt ti yn myned i waredu y Nephiaid hyn, y rhai ydynt feibion celwyddwr. Wele, efe a yspeiliodd ein tadau; ac yn awr mae ei blant ef yn dyfod i’n plith, fel y gallont hwythau, trwy eu cyfrwysdra a’u celwydd, ein twyllo, fel yr yspeiliont ni drachefn o’n heiddo. Yn awr, tad Lamoni a orchymynodd iddo ladd Ammon â’r cleddyf. Ac efe a orchymynodd hefyd nad elai ef i dir Middoni, eithr am iddo ddychwelyd gydag ef i dir Ishmael. Eithr dywedodd Lamoni wrtho, Ni laddaf fi Ammon, ac ni ddychwelaf i dir Ishmael, eithr mi a âf i dir Middoni, fel y rhyddhawyf frodyr Ammon, canys mi a wn eu bod yn ddynion cyfiawn, ac yn brophwydi santaidd y gwir Dduw. Yn awr, pan glywodd ei dad y geiriau hyn, efe a ddigllonodd wrtho yntau, ac a dynodd ei gleddyf er ei daraw i’r llawr. Eithr Ammon a safodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, ni chei ladd dy fab; er hyny, gwell iddo ef syrthio nâ thi: canys, wele, y mae ef wedi edifarhau am ei bechodau; ond pe syrthiet ti y pryd hwn, yn dy ddigllonedd, nis gellid achub dy enaid. A thrachefn, y mae yn well i ti ymattal; canys pe byddai i ti ladd dy fab (ac yntau yn ddyn diniwed), ei waed a waeddai allan o’r ddaear, ar i’r Arglwydd ei Dduw ymddial arnat ti; ac efallai y byddai i ti golli dy enaid. Yn awr, wedi i Ammon ddywedyd y geiriau hyn wrtho, efe a’i hatebodd, gan ddywedyd, Mi a wn, pe lladdwn fy mab, y tywalltwn waed gwirion; canys tydi sydd wedi ceisio ei ddinystrio ef; ac efe a estynodd allan ei law i ladd Ammon. Eithr Ammon a wrthsafodd ei ergydion, ac a darawodd hefyd ei fraich, fel nas gallai ei defnyddio. Yn awr, pan welodd y brenin y gallai Ammon ei ladd, efe a ymbiliodd ag Ammon am arbed ei fywyd. Ond Ammon a gyfododd ei gleddyf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, mi a’th darawaf, oddieithr ganiatâu o honot i mi ollyngiad fy mrodyr allan o’r carchar. Yn awr, y brenin, gan ofni colli ei fywyd, a ddywedodd. Os arbedi fi, mi a roddaf i ti ba beth bynag a ofyni, hyd at hanner y deyrnas.
Yn awr, pan welodd Ammon ei fod wedi gweithredu ar yr hen frenin yn ol ei ddymuniad, efe a ddywedodd wrtho, Os gwnai di ganiatâu i’m brodyr gael eu gollwng allan o garchar, ac hefyd i Lamoni gael cadw ei deyrnas, ac os na fyddi anfoddlawn iddo, eithr caniatâu iddo wneuthur yn ol ei ddymuniadau yn mha beth bynag a feddylio, yna mi a’th arbedaf; onide, mi a’th darawaf i’r llawr. Yn awr, wedi i Ammon ddywedyd y geiriau hyn, dechrenodd y brenin orfoleddu oblegid ei fywyd. A phan welodd nad oedd Ammon yn fhwennych ei ladd, a phan welodd hefyd fod ganddo gariad mawr at ei fab Lamoni, efe a ryfeddodd yn fawr, ac a ddywedodd, Gan mai hyn yw yr oll a ddymunaist, fod i mi ryddhau dy frodyr, a goddef i’m mab Lamoni gadw ei deyrnas, wele, mi a ganiatâf i ti, y caiff fy mab gadw ei deyrnas o’r amser hwn allan, a thros byth, ac ni lywodraethaf ef mwyach. Ac mi a ganiatâf i ti hefyd ollyngiad dy frodyr allan o’r carchar, a gelli di a’th frodyr ddyfod ataf fi i’m teyrnas; canys mi a ddymunaf yn fawr dy weled: oblegid yr oedd y brenin wedi rhyfeddu yn fawr o herwydd y geiriau a lefarwyd, ac hefyd o herwydd y geiriau a lefarwyd gan ei fab Lamoni; am hyny, yr oed efe yn chwennych eu dysgu.
A bu i Ammon a Lamoni fyned rhagddynt ar eu taith tua thir Middoni. A Lamoni a gafodd ffafr yn ngolwg brenin y tir; am hyny, brodyr Ammon a ddygwyd allan o’r carchar. A phan gyfarfu Ammon â hwynt, yr oedd yn dra thrist, canys wele, yr oeddynt yn noethion, a’u croen wedi treulio llawer, trwy fod yn rhwym wrth reffynau cryfion. Ac yr oeddynt hefyd wedi dyoddef newyn, syched, a phob math o gystuddiau; er hyny, buont amyneddgar yn eu holl ddyoddefiadau. Ac megys y dygwyddodd, eu rhan hwy oedd syrthio i ddwylaw pobl mwy caled a gwrthnysig; gan hyny ni wrandawent ar eu geiriau, ac yr oeddynt wedi eu bwrw allan, ac wedi eu taraw, a’u gyru o dŷ i dŷ, ac o le i le, hyd nes y cyrhaeddasant dir Middoni; ac yno cymmerwyd, a bwriwyd hwy yn ngharchar, a rhwymwyd hwynt â rheffynau cryfion, a chadwyd hwynt yn ngharchar am ddyddiau lawer, ac a waredwyd gan Lamoni ac Ammon.