Pennod ⅩⅢ.
Hanes am bregethu Aaron, a Muloki, a’u brodyr, wrth y Lamaniaid.
Yn awr, pan wahanodd Ammon a’i frodyr eu hunain ar gyffiniau tir y Lamaniaid, wele, Aaron a gymmerodd ei daith tua’r tir a elwid gan y Lamaniaid, Jerusalem; gan ei alw yn ol gwlad genedigaeth eu tadau; ac yr oedd hwnt yn ymuno â chyffiniau Mormon. Yn awr, yr oedd y Lamaniaid, a’r Amalekiaid, a phobl Amulon, wedi adeiladu dinas fawr, yr hon a elwid Jerusalem. Yn awr, yr oedd y Lamaniaid o ran eu hunain yn ddigon celyd, eithr yr oedd yr Amalekiaid, a’r Amuloniaid, yn galetach fyth; am hyny, hwy a achosent i’r Lamaniaid galedu eu calonau, fel y cynnyddent mewn drygioni a ffieidd-dra.
A dygwyddodd i Aaron ddyfod i ddinas Jerusalem, a dechreu pregethu yn gyntaf i’r Amalekiaid. Ac efe a ddechreuodd bregethu iddynt yn eu synagogau, canys yr oeddynt wedi adeiladu synagogau yn ol trefn y Nehoriaid; oblegid yr oedd llawer o’r Amalekiaid a’r Amuloniaid yn ol urdd y Nehoriaid. Am hyny, pan aeth Aaron i mewn i un o’u synagogau, i breethu i’r bobl, a thra yr oedd yn llefaru wrthynt, wele cyfododd rhyw Amalekiad, ac a ddechreuodd ymddadleu ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yw hyna a dystiolaethaist? A welaist ti angel? Paham na ymddengys angylion i ninnau? Wele, ai nid yw y bobl hyn mor dda â’th bobl dithau? Dywedi hefyd, Oni edifarhawn, y cawn ein dyfetha. Pa fodd y gwyddost ti feddwl a bwriad ein calon? Pa fodd y gwyddost ti fod genym ni achos i edifarhau? Pa fodd y gwyddost nad ydym ni yn bobl gyfiawn? Wele, ni a adeilasom gyssegrfeydd, ac yr ydym yn ymgynnull ynghyd i addoli Duw. Yr ydym ni yn credu yr achub Duw bob dyn. Yn awr, Aaron a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu y daw Mab Duw i wared dynolryw oddiwrth eu pechodau? A’r dyn a ddywedodd wrtho, Ni chredwn ni dy fod yn gwybod un peth o’r fath. Nid ydym ni yn credu y traddodiadau ffol hyn. Nid ydym ni yn credu dy fod yn gwybod am bethau i ddyfod, ac ni chredwn fod dy dadau di, na’n tadau ninnau ychwaith, yn gwybod am y pethau a lefarent ynghylch yr hyn sydd i ddyfod.
Yn awr, Aaron a ddechreuodd agor yr ysgrythyrau iddynt ynghylch dyfodiad Crist, ac hefyd am adgyfodiad y meirw, ac nas gallai fod prynedigaeth er mwyn dynolryw, oddieithr trwy farwolaeth a dyoddefiadau Crist, ac iawn ei waed. A dygwyddodd fel yr oedd yn dechreu egluro y pethau hyn iddynt, ddiglloni o honynt wrtho, a dechreu ei watwar ef; ac ni wrandawent ar y geiriau a lefarai: am hyny, pan welodd efe na wrandawent ar ei eiriau, ymadawodd allan o’u teml, ac a ddaeth drosodd i bentref a elwid Ani-anti, ac yno y cafodd Muloki yn pregethu y gair iddynt; ac hefyd Ammah a’i frodyr. A hwy a ddadleuasant â llawer ynghylch y gair. A bu iddynt weled fod y bobl yn caledu eu calonau; am hyny, hwy a ymadawsant ac a ddaethant drosodd i dir Middoni. A hwy a bregethasant y gair i laweroedd, a chredodd ychydig yn y geiriau a ddysgent. Er hyny, Aaron, a rhyw nifer o’i frodyr, a gymmerwyd ac a fwriwyd yn ngharchar, a’r gweddill o honynt a ffoisant allan o dir Middoni, i’r ardaloedd oddi amgylch. A’r rhai a fwriwyd yn ngharchar a ddyoddefasant lawer o bethau, a hwy a waredwyd trwy law Lamoni ac Ammon, ac a borthwyd ac a ddilladwyd. A hwy a aethant drachefn i draethu y gair, ac felly y gwaredwyd hwynt am y waith gyntaf allan o’r carchar; ac felly y dyoddefasant. A hwy a aethant allan pa le bynag yr arweinid hwynt gan ysbryd yr Arglwydd, gan bregethu y gair yn mhob synagog o eiddo yr Amalekiaid, neu yn mhob cynnulleidfa o eiddo y Lamaniaid y gallent fyned iddi.
A bu i’r Arglwydd ddechreu eu bendithio hwynt, hyd nes y dygasant lawer i wybodaeth o’r gwirionedd; ïe, hwy a argyhoeddasant lawer o’u pechodau, ac o draddodiadau eu tadau, y rhai nid oeddynt gywir.
A darfu i Ammon a Lamoni ddychwelyd o dir Middoni, i dir Ishmael, yr hwn oedd dir eu hetifeddiaeth Ac ni oddefai y brenin Lamoni i Ammon i’w wasanaethu ef, neu fod yn was iddo; eithr efe a achosodd i synagogau gael eu hadeiladu yn nhir Ishmael; ac achosodd i’w bobl, neu y bobl ag oed dan ei deyrnasiad, i ymgynnull ynghyd. Ac efe a orfoleddodd drostynt, ac a ddysgodd iddynt lawer o bethau. Ac efe hefyd a fynegodd wrthynt eu bod hwy yn bobl ag oedd dano ef, a’u bod yn bobl ryddion, a’u bod yn rhydd oddiwrth ormes y brenin, ei dad; oblegid y oedd ei dad wedi caniatâu iddo ef deyrnasu ar y bobl oedd yn nhir Ishmael, ac yn yr holl wlad oddiamgylch. Ac efe a fynegodd hefyd iddynt, y gallent gael rhyddid i addoli yr Arglwydd eu Duw, yn ol eu dymuniadau, yn mha le bynag yr oeddynt ynddo, os byddai yn y tir yr hwn oedd dan deyrnasiad y brenin Lamoni. Ac Ammon a bregethodd i bobl y brenin Lamoni; a bu iddo ddysgu iddynt bob peth ynghylch pethau perthynol i gyfiawnder. A chynghorodd hwynt yn feunyddiol, gyda phob diwydrwydd; a hwy a sylwasant ar ei air, ac yr oeddynt yn selog i gadw gorchymynion Duw. Yn awr, gan fod Ammon yn dysgu pobl Lamoni yn barhaus felly, ni a ddychwelwn at hanes Aaron a’i frodyr; canys ar ol iddo ymadael o dir Middoni, arweiniwyd ef gan yr ysbryd i dir Nephi; ïe, i dŷ y brenin yr hwn oedd ar yr holl dir, oddieithr tir Ishmael; ac efe oedd tad Lamoni.
A bu iddo ef fyned i mewn ato i balas y brenin, gyda’i frodyr, ac ymostwng gerbron y brenin, a dywedyd wrtho, Wele, O frenin, nyni ydym frodyr Ammon, y rhai a waredaist di allan o’r carchar. Ac yn awr, O frenin, os arbedi ein bywydau, ni a fyddwn yn weision i ti. A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cyfodwch, canys mi a ganiatâf i chwi eich bywydau, ond ni oddefaf i chwi fod yn weision i mi; eithr mi a erfyniaf arnoch i weinyddu i mi, canys cythryblwyd fi rywfaint mewn meddwl, o herwydd haelioni ac ardderchawgrwydd geiriau eich brawd Ammon; ac yr wyf yn ewyllysio gwybod yr achos paham na ddaeth efe i fyny o Middoni gyda chwi. Ac Aaron a ddywedodd wrth y brenin, Wele, mae ysbryd yr Arglwydd wedi ei alw ffordd arall: y mae efe wedi myned i dir Ishmael, i ddysgu pobl Lamoni. Yn awr, y brenin a ddywedodd wrtho, Pa beth yw yr hyn a ddywedaist am ysbryd yr Arglwydd? Wele, hyn yw y peth sydd yn fy nghythryblu. Ac hefyd, pa beth yw hyn a ddywedodd Ammon, Os edifarhewch, chwi a achubir, ac os na edifarhewch, chwi a fwrir ymaith yn y dydd diweddaf? Ac Aaron a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu fod Duw? A’r brenin a ddywedodd, Mi a wn fod yr Amalekiaid yn dywedyd fod Duw, ac mi a ganiatëais iddynt hwy i adeiladu cyssegrfeydd, fel yr ymgynnullont ynghyd i’w addoli ef. Ac yn awr, os dywedi di fod Duw, wele, mi a gredaf.
Ac yn awr, pan glywodd Aaron hyn, ei galon a ddechreuodd orfoleddu, ac efe a ddywedodd, Wele, yn ddiau, fel mai byw wyt ti, O frenin, y mae Duw. A’r brenin a dywedodd, Ai Duw yw yr Ysbryd Mawr a ddygodd ein tadau allan o wlad Jerusalem? Ac Aaron a ddywedodd wrtho, Ië, efe yw yr Ysbryd Mawr hwnw, ac efe a greodd bob peth, yn y nef ac ar y ddaear: a wyt ti yn credu hyn? Ac yntau a ddywedodd, Ydwyf, yr wyf yn credu mai yr Ysbryd Mawr a greodd bob peth, ac yn ewyllysio i ti fynegi wrthyf ynghylch yr holl bethau hyn, ac mi a gredaf dy eiriau.
A bu pan ganfyddodd Aaron y credai y brenin ei eiriau, efe a ddechreuodd o greadigaeth Adda, gan ddarllen yr ysgrythyrau i’r brenin: pa fodd y creodd Duw ddyn ar ei lun ei hun, ac y rhoddodd Duw orchymynion iddo, ac mai o herwydd trosedd, y syrthiodd dyn. Ac Aaron a eglurodd iddo yr ysgrythyrau, o greadigaeth Adda, gan osod o’i flaen gwymp dyn, a’i sefyllfa gnawdol, ac hefyd y cynllun o brynedigaeth, yr hwn a ragbarotowyd er seiliad y byd, trwy Grist, i bwy bynag a gredai yn ei enw. Ac oddiar pan syrthiodd dyn, nis gallai efe haeddu dim o ran ei hun; eithr y mae dyoddefiadau a marwolaeth Crist yn rhoddi iawn dros ei bechodau, trwy ffydd ac edifeirwch, &c.; ac y mae efe yn dryllio rhwymau marwolaeth, fel na chaffo y bedd fuddugoliaeth, ac fel y gallai colyn angeu gael ei lyncu yn y gobaith o ogoniant: ac Aaron a eglurodd yr holl bethau hyn wrth y brenin. A bu ar ol i Aaron egluro y pethau hyn iddo, i’r brenin ddywedyd, Pa beth a wnaf fel y meddiannwyf y bywyd tragywyddol hwn, am ba un y llefaraist? Ië, pa beth a wnaf, er cael fy ngeni o Dduw, gan ddiwreiddio yr ysbryd drygionus hwn allan o’m mynwes, a derbyn ei ysbryd ef, fel y llanwer fi o lawenydd, ac na fwrier fi ymaith yn y dydd diweddaf? Wele, medd efe, mi a roddaf i fyny yr holl a feddwyf; ïe, mi a adawaf fy nheyrnas, fel y gallwyf dderbyn y llawenydd mawr. Eithr Aaron a ddywedodd wrtho, Os wyt yn ewyllysio y peth hwn, os plygi i lawr gerbron Duw, ië, os gwnai edifarhau am dy holl bechodau, ac ymostwng gerbron Duw, a galw ar ei enw mewn ffydd, gan gredu y derbyni, yna ti a dderbyni y gobatih a ddymunaist.
A dygwyddodd ar ol i Aaron ddywedyd y geiriau hyn, i’r brenin ymostwng i lawr gerbron yr Arglwudd, ar ei liniau; ïe, efe a ymorweddodd ar y llawr, ac a alwodd yn nerthol ar Dduw, gan ddywedyd, O Dduw, mynegodd Aaron i mi fod Duw; ac os oes Duw, ac os tydi yw Duw, a wnai di dy hun yn hysbys i mi, a minnau a roddaf ymaith fy holl bechodau er dy adnabod, fel yr adgyfoder fi oddiwrth y meirw, ac yr achuber fi yn y dydd diweddaf. Ac yn awr, wedi i’r brenin ddywedyd y geiriau hyn, efe a darawyd megys pe byddai yn farw.
A bu i’w weision redeg a mynegi i’r frenines yr hyn oll a ddygwyddodd i’r brenin. A hi a ddaeth i mewn at y brenin; a phan welodd ef yn gorwedd megys pe byddai yn farw, ac hefyd Aaron a’i frodyr yn sefyll megys pe byddent yn achos o’i gwymp, hi a ddigllonodd wrthynt, ac a orchymynodd i’w gweision, neu weision y brenin, eu dal a’u lladd hwynt. Yn awr, yr oedd y gweision wedi gweled yr achos o gwymp y brenin, am hyny, ni feiddient osod eu dwylaw ar Aaron a’i frodyr; a hwy a ddadleuasant â’r frenines, gan ddywedyd, Paham ygorchymyni i ni lad y dynion hyn, pan y gweli fod un o honynt yn gryfach nâ ni oll? Am hyny, ni a syrthiwn o’u blaen hwynt. Yn awr, pan welodd y frenines ofn y gweision, dechreuodd hithau ofni yn ddirfawr, rhag y deuai rhyw ddrwg arni hi. A hi a orchymynodd i’w gweision fyned a galw y bobl, fel y lladdent hwy Aaron a’i frodyr. Yn awr, pan welodd Aaron benderfyniad y frenines, a chan wybod hefyd am galedwch calonau y bobl, efe a ofnodd rhag i liaws ymgasglu ynghyd, a dygwydd bod amrafael mawr a chynhwrf yn eu plith; am hyny, efe a estynodd allan ei law, ac a gyfododd y brenin o’r llawr, ac a ddywedodd wrtho, Saf; ac efe a safodd ar ei draed, gan dderbyn ei nerth. Yn awr, gwnaethwyd hyn yn mhresennoldeb y frenines, ac amryw o’r gweision. A phan welsant hyny, hwy a ryfeddasant yn fawr, ac a ddechreuasant ofni. A’r brenin a safodd, ac a ddechreuodd weinidogaethu iddynt. Ac efe a weinidogaethodd iddynt, hyd nes y dychwelodd ei holl deulu at yr Arglwydd. Yn awr, yr oedd lliaws wedi ymgasglu ynghyd o herwydd gorchymyn y frenines, a dechreuodd fod grwgnach mawr yn eu plith, o herwydd Aaron a’i frodyr. Eithr y brenin a safodd yn eu plith hwynt, ac a weinidogaethodd iddynt. A hwy a heddychwyd tuag at Aaron, a’r rhai oedd gydag ef.
A bu pan welodd y brenin fod y bobl wedi heddychu, efe a berodd i aron a’i frodyr sefyll yn nghanol y lliaws, a phregethu y gair iddynt. A darfu i’r brenin anfon cyhoeddiad trwy yr holl dir, yn mhlith ei holl bobl ag oedd yn ei holl dir, y rhai oeddynt yn yr holl ardaloedd oddi amgylch, y rhai a gyrhaeddent hyd at y môr, ar y dwyrain, ac ar y gorllewin, ac a renid oddiwrth dir Zarahemla, gan ddernyn cul o anialwch, yr hwn a gyrhaeddai o’r môr dwyreiniol hyd y môr gorllewinol, ac oddiamgylch cyffiniau glàn, y môr, a chyffiniau yr anialwch ag oeddfar y gogledd, wrth dir Zarahemla, trwy gyffiniau Manti, wrth ben afon Sidon, gan ymestyn o’r dwyrain tua’r gorllewin: ac felly yr oedd y Lamaniaid a’r Nephiaid wedi eu rhanu. Yn awr, yr oedd y rhan fwyaf dioglyd o’r Lamaniaid yn byw yn yr anialwch, ac yn trigo mewn pebyll; ac yr oeddynt yn wasgaredig trwy yr anialwch, ar y gorllewin, yn nhir Nephi; ïe, ac hefyd ar y gorllewin i dir Zarahemla, yn y cyffiniau gerllaw glàn y môr, ac ar y gorllewin yn nhir Nephi, lle yr oedd etifeddiaeth gyntaf eu tadau, a chan gyffinio felly ar hyd glàn y môr. Ac yr oedd hefyd lawer o’r Lamaniaid ar y dwyrain wrth làn y môr. Ile yr oedd y Nephiaid wedi eu gyru hwynt. Ac felly yr oedd y Nephiaid wedi cael eu hamgylchynu yn agos gan y Lamaniaid; er hyny, yr oedd y Nephiaid wedi meddiannu yr holl ranau gogleddol o’r tir, gan gyffinio ar yr anialwch, wrth ben yr afon Sidon, o’r dwyrain i’r gorllewin, oddi amgylch ochr yr anialwch, ar y gogledd, hyd nes y daethant at y tir a alwent Llawnder. Ac yr oedd yn cyrffinio ar y tir a alwent Anghyfannedd-dra; gan ei fod gymmaint yn ogleddol nes dyfod i’r tir yr hwn oedd wedi cael ei boblogi, a’i bobl wedi eu dinystrio, am esgyrn pa rai y llefarasom, y rhai a gafwyd gan bobl Zarahemla; gan mai hwnw oedd lle eu tiriad cyntaf. A daethant i fyny oddiyno i’r anialwch deheuol. Felly y tir ar y gogledd a elwid Anghyfannedd-dra, a’r tir ar y deau a elwid Llawnder; a dyma yr anialwch ag oedd yn llawn o bob math o anifeiliad gwylltion; rhan o ba rai a ddaethent o’r tir gogleddol am ymbroth. Ac yn awr, nid oedd ond pellder taith diwrnod a hanner i Nephiad, yn nghyfer Llawnder, a thir Anghyfannedd-dra, o’r môr gorllewinol i’r un dwyreiniol; ac felly yr oedd tir Nephi, a thir Zarahemla, yn agos â chael en hamgylchynu gan ddwfr; eithr yr oedd gwddfdir bychan rhwng y tir gogleddol a’r tir deheuol.
A dygwyddodd fod y Nephiaid wedi poblogi tir Llawnder, hyd y nod o’r môr dwyreiniol i’r un gorllewinol, ac felly yr oedd y Nephiaid yn eu doethineb, gyda’u gwarchodlu a’u byddinoedd, wedi eu hamgau hwynt yn y deau, fel na allent gael rhagor o feddiant yn y gogledd, rhag iddynt ymdaenu dros y tir gogleddol; am hyny, ni allai y Lamaniaid gael rhagor o etifeddiaethau ond yn unig yn nhir Nephi, a’r anialwch oddiamgylch. Yn awr, yr oedd hyn yn ddoethineb yn y Nephiaid, gan fod y Lamaniaid yn elynion iddynt hwy, fel nas dyoddefent eu cystuddiau o bob tu, ac hefyd fel y gallent gael gwlad i ffoi iddi, yn ol eu dymuniadau. Ac yn awr, wedi dywedyd hyn, mi a ddychwelaf drachefn at hanes Ammon ac Aaron, Omner a Himni, a’u brodyr.