O Dduw, y Tad Tragywyddol, yr ydym yn deisyf arnat yn enw dy Fab, Iesu Grist, i fendithio a santeiddio y bara hwn i eneidiau pawb a gyfranoga o hono, fel y byddo iddynt ei fwyta mewn coffadwriaeth o gorff dy Fab, a thystio wrthyt ti, O Dduw, y Tad Tragywyddol, eu bod yn ewyllysgar i gymmeryd arnynt enw dy Fab, a wastad ei gofio ef a chadw ei orchymynion a roddodd ef iddynt; fel y byddant wastad yn gael ei Ysbryd ef i fod gydant. Amen.