Bendithiad ar y Bara
O Dduw, y Tad Tragywyddol,
yr ydym yn deisyf arnat yn enw dy Fab, Iesu Grist,
i fendithio a santeiddio y bara hwn
i eneidiau pawb a gyfranoga o hono,
fel y byddo iddynt ei fwyta mewn coffadwriaeth o gorff dy Fab,
a thystio wrthyt ti, O Dduw, y Tad Tragywyddol,
eu bod yn ewyllysgar i gymmeryd arnynt enw dy Fab,
a wastad ei gofio ef
a chadw ei orchymynion a roddodd ef iddynt;
fel y byddant wastad yn gael ei Ysbryd ef i fod gydant.
Amen.