Pennod Ⅵ.
Ac yn awr, yr wyf yn llefaru ynghylch bedydd. Wele, yr oedd henuriaid, offeiriaid, a dysgawdwyr yn cael eu bedyddio; ac nid oeddynt yn cael eu bedyddio, oni ddygent allan ffrwyth addas eu bod yn deilwng o hono; ac ni dderbynient neb i fedydd, oni ddeuent allan gyda chalon ddrylliog ac ysbryd edfeiriol, a thystiolaethu wrth yr eglwys eu bod yn gwir edifarhau am eu holl bechodau. Ac ni dderbynid neb i fedydd, oni chymmerent arnynt enw Crist, gan fod yn benderfynol i’w wasanaethu ef hyd y diwedd. Ac ar ol iddynt gael eu derbyn i fedydd, a’u cyfnewid a’u glanhau trwy allu yr Ysbryd Glân, hwy a gyfrifid yn mhlith pobl eglwys Crist, a chymmerid eu henwau, fel y cofid ac y meithrinid hwynt trwy air Duw, i’w cadw hwynt yn y ffordd uniawn, gan eu cadw yn wastadol yn wyliadwrus i weddio, gan ymddiried yn unig ar haeddiant Crist, yr hwn oedd awdwr a pherffeithydd eu ffydd. Ac yr oedd yr eglwys yn ymgyfarfod yn fynych, i ymprydio a gweddio, ac i ymddyddan â’r naill y llall ynghylch lleshad eu heneidiau; a hwy a ymgyfarfyddent yn fynych i gyfranogi o fara a gwin, er cof am yr Arglwydd Iesu; ac yr oeddynt yn fanwl i edrych na fyddai dim anwiredd yn eu plith; a phwy bynag a geffid yn gweithredu anwiredd, a thri tyst o’r eglwys yn eu condemnio hwy gerbron yr henuriaid, os na edifarhaent a chyffesu, eu henwau a gaent eu dileu, ac ni chyfrifid hwynt yn mhlith pobl Crist; eithr can fynyched ag yr edifarhaent, a cheisio maddeuant, gyda gwir fwriad, hwy a faddeuid. Ac yr oedd eu cyfarfodydd yn cael eu llywodraethu gan yr eglwys, yn ol trefn gweithrediadau yr ysbryd, a thrwy allu yr Ysbryd Glân; canys megys ag yr oedd gallu yr Ysbryd Glân yn eu harwain hwynt pa un ai i bregethu, neu gynghori, neu weddio, neu ddeisyf, neu ganu, felly yr oedd yn cael ei wneuthur.