Llyfr Moroni
Pennod Ⅰ.
Yn awr, yr oeddwn i, Moroni, ar ol gorphen talfyru hanes pobl Jared, wedi meddwl na ysgrifenwn ychwaneg, eithr nid wyf hyd yn hyn wedi trengu; ac nid wyf yn gwneuthur fy hun yn adnabyddus i’r Lamaniaid, rhag iddynt fy nyfeetha. Canys, wele, mae eu rhyfeloedd yn dra gerwin yn eu mysg eu hunain; ac o herwydd eu casineb, gosodant i farwolaeth bob Nephiad na wado y Crist. A myfi, Moroni, nis gwadaf y Crist; am hyny, yr wyf fi yn crwydro pa le bynag y gallaf, er mwyn diogelwch fy mywyd fy hun. Gan hyny, yr wyf yn ysgrifenu ychydig o bethau yn ychwaneg, yn groes fel ag yr oeddwn wedi meddwl; canys yr oeddwn wedi meddwl na ysgrifenwn ddim ychwaneg; eithr yr wyf yn ysgrifenu ychydig o bethau yn ychwaneg, fel y byddont ysgatfydd o werth i’m brodyr, y Lamaniaid, mewn rhyw ddydd dyfodol, yn ol ewyllys yr Arglwydd.