Scriptures
3 Nephi 5


Pennod Ⅴ.

Iesu Grist yn dangos ei hun i bobl Nephi, fel yr oedd y dyrfa wedi ymgasglu ynghyd yn nhir Llawnder, ac yn gweinidogaethu iddynt; ac yn y modd hyn yr ymddangosodd efe iddynt.

Ac yn awr, dygwyddodd fod tyrfa fawr wedi ymgasglu ynghyd o bobl Nephi, oddiamgylch y deml ag oedd yn nhir Llawnder, ac yr oeddynt yn synu a rhyfeddu gyda’u gilydd, ac yn dangos i’w gilydd y cyfnewidiad mawr a rhyfedd ag oedd wedi cymmeryd lle; ac yr oeddynt hefyd yn ymddyddan am yr Iesu Grist hwn, am ba un y rhoddwyd yr arwydd o’i farwolaeth.

A bu fel yr oeddynt felly yn ymddyddan â’u gilydd, iddynt glywed llais megys pe byddai yn dyfod o’r nef; a hwy a fwriasant eu golwg oddiamgylch, canys ni ddeallasant y llais a glywsant; ac nid oedd yn llais garw, nac yn llais uchel; etto, er ei fod yn llais isel, yr oedd yn treiddio trwy y rhai a’i clywsant, yn gymmaint ag nad oedd un ran o’u corff nad achosodd i grynu; ïe, treiddiodd hwynt i’w henaid, ac achosodd i’w calonau losgi. A bu iddynt drachefn glywed y llais, ac ni ddeallent ef; a thrachefn y drydedd waith, hwy a glywsant y llais, ac a agorasant eu clustiau i’w glywed; ac yr oedd eu golwg tuag at ei swn ef; a hwy a edrychasant yn ddyfal tua’r nef, o ba le y daethai y swn; ac wele, y drydedd waith, hwy a ddeallasant y llais a glywsant; a dywedai wrthynt, Wele fy anwyl Fab, yn yr hwn y’m llwyr foddlonwyd, yn yr hwn y gogoneddais fy enw: gwrandewch arno ef.

A bu pan ddeallasant, iddynt daflu eu golwg i fyny drachefn tua’r nef: ac wele, hwy a welsant ddyn yn disgyn o’r nef; ac yr oedd wedi ymwisgo mewn gwisg wèn, ac efe a ddaeth ac a safodd yn eu mysg hwynt, a llygaid yr holl dyrfa a gyfeirient ato, ac ni feiddient agor eu geneuau, y naill wrth y llall, ac ni wyddent pa beth a arwyddai, canys yr oeddynt yn meddwl mai angel oedd wedi ymddangos iddynt.

A bu iddo ef estyn allan ei law a llefaru wrth y bobl, gan ddywedyd, Wele, myfi yw Iesu Grist, am yr hwn y tystiolaethodd y prophwydi y deuai i’r byd; ac wele, myfi yw goleuni a bywyd y byd; ac mi a yfais o’r cwpan chwerw hwnw a roddodd fy Nhad i mi, ac a ogoneddais enw fy Nhad wrth gymmeryd arnaf bechodau y byd, yn yr hyn y dyoddefais ewyllys y Tad yn mhob peth o’r dechreuad.

A dygwyddodd ar ol i’r Iesu lefaru y geiriau hyn, i’r holl dyrfa syrthio i’r ddaer, canys cofient ei fod wedi ei brophwydo yn eu mysg hwynt yr ymddangosai Crist iddynt ar ol ei esgyniad i’r nef.

A bu i’r Arglwydd lefaru wrthynt, gan ddywedyd, Cyfodwch a deuwch ataf, fel y galloch osod eich dwylaw yn fy ystlys, ac hefyd fel y galloch deimlo ôl yr hoelion yn fy nwylaw a’m traed, fel y gwypoch mai myfi yw Duw Israel, a Duw yr holl ddaer, ac i mi gael fy lladd dros bechodau y byd.

A bu i’r dyrfa fyned, a gosod eu dwylaw yn ei ystlys, a theimlo ôl yr hoelion yn ei ddwylaw a’i draed; a hyn a wnaethant, gan fyned yn un ac un, hyd nes yr aethant oll, a gweled â’u llygaid, a theimlo â’u dwylaw, a gwybod mewn sicrwydd, a dwyn tystiolaeth, mai efe oedd yr hwn am ba un yr ysgrifenwyd gan y prophwydi y byddai yn dyfod.

Ac wedi iddynt oll fyned a gweled drostynt eu hunain, hwy a waeddasant allan yn unfrydol, gan ddywedyd, Hossanah! Bendigedig yw enw y Goruchaf Dduw! A hwy a syrthiasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac a’i haddolasant ef.

A bu iddo lefaru wrth Nephi (canys yr oedd Nephi yn mysg y dyrfa), ac efe a orchymynodd iddo ddyfod allan. A Nephi a gyfododd ac a aeth allan, ac a ymblygodd gerbron yr Arglwydd, ac a gusanodd ei draed. A’r Arglwydd a orchymynodd iddo gyfodi. Ac efe a gyfododd ac a safodd o’i flaen. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn rhoddi awdurdod i ti fedyddio y bobl hyn, pan fyddwyf fi wedi esgyn drachefn i’r nef. A thrachefn, yr Arglwydd a alwodd ereill, ac a ddywedodd wrthynt yr un modd; ac efe a roddodd iddynt awdurdod i fedyddio. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn y modd hyn y bedyddiwch; ac ni chaiff fod dim ymddadleu yn eich plith. Yn wir, meddaf wrthych, yr hwn sydd yn edifarhau am ei bechodau trwy eich geiriau chwi, ac yn dymuno cael ei fedyddio yn fy enw i, yn y modd hyn y bedyddiwch hwynt: wele, chwi a gewch fyned i waered a sefyll yn y dwfr, ac yn fy enw i y bedyddiwch hwynt. Ac yn awr, wele, dyma y geiriau a ddywedwch, gan eu galw hwynt wrth eu henw, gan ddywedyd, Wedi cael fy awdurdodi gan Iesu Grist, yr wyf yn dy fedyddio di yn enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân. Amen. Ac yna y trochwch hwynt yn y dwfr, a dyfod allan drachefn o’r dwfr. Ac yn ol y dull hwn y bedyddiwch yn fy enw i, canys wele, yn wir meddar wrthych, y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân, un ydynt; a myfi wyf yn y Tad, a’r Tad ynof finnau, a’r Tad a minnau un ydym. Ac yn ol fel y gorchymynais i chwi, felly y bedyddiwch. Ac na fydded dadleuon yn eich plith chwi, megys y bu hyd yma; ac na fydded dadleuon yn eich plith chwi ynghylch pynciau fy athrawiaeth, megys y bu hyd yma; canys yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd ganddo ysbryd amryson, nid yw o honof fi, eithr o’r diafol, yr hwn yw tad amryson, ac y mae efe yn cyffroi calonau dynion i amryson mewn digofaint â’u gilydd. Wele, nid dyma fy athrawiaeth, i gyffroi calonau dynion mewn digofaint yn erbyn eu gilydd; eithr dyma fy athrawiaeth i, fod y cyfryw bethau i ddarfod. Wele, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, mi a draethaf i chwi fy athrawiaeth. A dyma fy athrawiaeth i, a hi yw yr athrawiaeth a roddodd y Tad i mi; ac yr wyf fi yn tystiolaethu am y Tad, ac y mae’r Tad yn tystiolaethu am danaf finnau, ac y mae’r Ysbryd Glân yn tystiolaethu am y Tad a minnau, ac yr wyf finnau yn tystiolaethu fod fy Nhad yn gorchymyn i bob dyn, yn mhob man, i edifarhau a chredu ynof fi; a’r hwn a gredo ynof fi, ac a fedyddier, efe a fydd cadwedig; a hwynthwy yw y rhai a gant etifeddu teyrnas Dduw. A’r hwn nid yw yn credu ynof fi, ac ni fedyddier, a gondemnir. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, dyma yw fy athrawiaeth i, ac yr wyf yn dwyn tystiolaeth o honi oddiwrth y Tad; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, sydd yn credu yn y Tad hefyd, ac iddo ef y tystiolaetha y Tad am danaf fi; canys efe a ymwel ag ef â thân, ac a’r Ysbryd Glân. Ac felly y tystiolaetha y Tad am danaf fi, a’r Ysbryd Glân a dystiolaetha wrtho ef am y Tad a minnau; canys y Tad, a minnau, a’r Ysbryd Glân, un ydym. A thrachefn, meddaf wrthych, rhaid i chwi edifarhau, a dyfod fel plentyn bychan, a chael eich bedyddio yn fy enw, neu ni ellwch mewn un modd dderbyn y pethau hyn. A thrachefn meddaf wrthych, rhaid i chwi edifarhau, a chael eich bedyddio yn fy enw i, a dyfod fel plentyn bychan, neu ni ellwch mewn un modd etifeddu teyrnas Dduw. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, dyma yw fy athrawiaeth, a’r hwn sydd yn adeiladu ar hon, sydd yn adeiladu ar fy nghraig, a phyrth uffern nis gorchfygant hwynt. A’r hwn a draetho fwy neu lai nâ hyn, ac a’i cadarnhao yn athrawiaeth i mi, y cyfryw sydd yn deillio o’r drwg, ac nid yw wedi adeiladu ar fy nghraig i, eithr y mae yn adeiladu ar sylfaen dywodlyd, ac y mae pyrth uffern yn agor i dderbyn y cyfryw, pan fyddo y llifogydd a’r gwyntoedd yn curo arnynt. Am hyny, ewch at y bobl hyn, a thraethwch y geiriau a lefarais hyd derfynau y ddaear. A bu wedi i’r Iesu lefaru y geiriau hyn wrth Nephi, ac wrth y rhai a alwyd (yn awr rhifedi y rhai a alwyd, ac a dderbyniasant allu ac awdurdod i fedyddio, oedd deuddeg), iddo estyn allan ei law at y dyrfa, a llefaru wrthynt, gan ddywedyd, Gwyn eich byd os gwrandewch ar eiriau y deuddeg hyn, y rhai a ddewisais o’ch plith i weinidogaethu i chwi, a bod yn weision i chwi; ac iddynt hwy y rhoddais awdurdod, fel y bedyddient chwi â dwfr; ac ar ol i chwi gael eich bedyddio â dwfr, wele, mi a’ch bedyddiaf chwi â thân ac â’r Ysbryd Glân; gan hyny, gwyn eich byd os credwch ynof fi, a chael eich bedyddio, ar ol i chwi fy ngweled a gwybod fy mod. A thrachefn, mwy gwynfydedig yw y rhai hyny a gredant yn eich geiriau chwi, oblegid y tystiolaethwch i chwi fy ngweled i, a’ch bod yn gwybod fy mod. Ië, gwynfyd y rhai a gredant yn eich geiriau, ac a ymostyngant i eithafoedd gostyngeiddrwydd, ac a fedyddier, canys hwy a ymwelir â thân ac â’r Ysbryd Glân, ac a dderbyniant faddeuant o’u pechodau. Ië, gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd ag sydd yn dyfod ataf fi, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. A thrachefn, gwyn eu byd yr holl rai sydd yn galaru, canys hwy a ddyddanir; a gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear. A gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder, canys hwy a lenwir â’r Ysbryd Glân. A gwyn eu byd y rhai trugarog, canys hwy a gant drugaredd. A gwyn eu byd yr holl rai pur o galon, canys hwy a welant Dduw. A gwyn eu byd yr holl dangnefyddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw. A gwyn eu byd yr holl rai a erlidir er mwyn fy enw i, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. A gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn, a hwy yn gelwyddog, er fy mwyn i, canys chwi a gewch lawenydd ac hyfrydwch mawr, oblegid mawr fydd eich gwobr yn y nefoedd; canys felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o’ch blaen chwi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr wyf yn rhoddi i chwi fod yn halen y ddaear; eithr os cyll yr halen ei flâs, â pha beth yr helltir y ddaear? Ni fydd yr halen mwyach yn dda at ddim, ond i’w fwrw allan, ai sathru dan draed dynion. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, rhoddaf i chwi fod yn oleuni y bobl hyn. Dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio. Wele, a oleuant ganwyll, a’i dodi dan lestr? Na, eithr mewn canwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ; am hyny, llewyrched felly eich goleuni chwi gerbron y bobl hyn, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Na thybiwch fy nyfod i dori y gyfraith, neu y prophwydi. Ni ddaethym i dori, ond i gyflawni; canys yn wir, meddaf i chwi, nid aeth un iot na thipyn o’r gyfraith heibio, ond a gafodd ei gyflawni oll ynof fi.

Ac wele, mi a roddais i chwi gyfraith a gorchymynion fy Nhad, fod i chwi gredu ynof fi, ac edifarhau am eich pechodau, a dyfod ataf â chalon ddrylliog ac ag ysbryd edifeiriol. Wele, y mae y gorchymynion genych o’ch blaen, ac y mae’r gyfraith wedi ei chyflawni; am hyny, deuwch ataf, ac achuber chwi; canys yn wir, meddaf i chwi, oni chedwch fy nghorchymynion, y rhai a orchymynais i chwi y pryd hwn, ni ellwch mewn un modd fyned i mewn i deyrnas nefoedd. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, ac y mae yn ysgrifenedig hefyd o’ch blaen chwi, Na ladd; a phwy bynag a laddo, a fydd euog o farn Duw. Eithr yr wyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd, a fydd yn euog o’i farn ef. A phwy bynag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gynghor; a phwy bynag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern; am hyny, os deui ataf fi, neu chwennych ddyfod ataf fi, a chofio o honot fod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, yna dos at dy frawd, ac yn gyntaf cymmoder di â’th frawd, ac yna tyred ataf fi gyda llawn fwriad calon, ac mi a’th dderbyniaf. Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef, rhag un amser iddo dy gael, a’th fwrw yn ngharchar. Yn wir, yn wir, meddaf i ti, ni ddeui allan oddi yno, hyd oni thalech y senine eithaf. A thra yr ydwyt yn ngharchar, a elli di dalu hyd y nod un senine? Yn wir, yn wir meddar i ti, na elli. Wele, y mae yn ysgrifenedig gan y rhai gynt. Na wna odineb; eithr yr wyf fi yn dywedyd wrthych chwi, fod yr hwn sydd yn edrych ar wraig, i’w chwennych, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. Wele, yr wyf yn rhoddi gorchymyn i chwi, na oddefoch ddim o’r pethau hyn i fyned i mewn i’ch calon; canys y mae yn well i chwi ymwadu â’r pethau hyn, yn yr hyn y byddwch yn cymmeryd i fyny eich croes, nag i chwi gael eich bwrw i uffern. Mae wedi ei ysgrifenu, Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar. Yn wir, yn wir, yr wyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb; a phwy bynag a briodo yr hou a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur gobineb. A thrachefn, y mae yn ysgrifenedig, Na thwng anudon, eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd. Ond yn wir, yn wir, yr wyf fi yn dywedyd i chwi, Na thwng ddim; nac i’r nef, canys gorseddfa Duw ydyw; nac i’r ddaear, canys troedfainc ei draed yw; ac na thwng i’th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wỳn, neu yn ddu; eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ië, ïe; nage, nage; oblegid beth bynag sydd dros ben hyn, o’r drwg y dant am ddant. Eithr yr wyf fi yn dywedyd i chwi, Na wrthwynebwch ddrwg; eithr pwy bynag a’th darawo ar dy rudd ddeau, tro y llall iddo hefyd. Ac i’r neb a fyno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd. A phwy bynag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. Dyro i’r hwn a ofyno genyt, ac na thro oddiwrth yr hwn a ewyllysio echwyna genyt. Ac wele, y mae yn ysgrifenedig hefyd, Câr dy gymmydog, a chasâ dy elyn; eithr yr wyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melldithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a’ch erlidiant, fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd; canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da: am hyny, y pethau hyny gynt, ag oeddynt dan y gyfraith, ydynt oll yn cael eu cyflawni ynof fi. Hen bethau a aethant heibio, a daeth pob peth o’r newydd; am hyny, mi a fynwn i chwi fod yn berffaith, fel yr wyf fi, neu eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berffaith. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, mi a ewyllysiwn wneuthur o honoch elusen i’r tlodion; eithr gofalwch rhag gwneuthur eich elusen yn ngwydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt; os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Am hyny, pan wneloch elusen, na udganwch o’ch blaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir, meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau; fel y byddo dy elusen yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wel yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.

A phan weddiech, na fydd fel y rhagrithwyr, canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogau, ac yn nghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir, meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. Ond tydi, pan weddiech, dos i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a sêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. A phan weddiech, na fyddwch siaradus, fel y Cenedloedd: canys hwy a feddyliant y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau. Na fyddwch gan hyny yn debyg iddynt hwy; canys eich Tad a ŵyr pa pethau sydd arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch ganddo. Am hyny, gweddiwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier dy enw. Gwneler dy ewyllys ar y ddaear, megys yn y nef. A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw y deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen. Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeua hefyd i chwithau; eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad eich camweddau chwithau. Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneb-drist; canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir, meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb; fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio drwodd ac yn lladrata; eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nad oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwodd ac nis lladratânt. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Canwyll y corff yw y llygad; am hyny, os bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn oleu. Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hyny, os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch! Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a mylŷn wrth y naill, ac a esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.