Llyfr Nephi,
Mab Nephi, Yr Hwn Oedd Fab Helaman.
Pennod Ⅰ.
Ac Helaman oedd fab Helaman, yr hwn oedd fab Alma, yr hwn oedd fab Alma, disgynydd o Nephi, yr hwn oedd fab Lehi, yr hwn a ddaeth allan o Jerusalem yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Zedekiah, brenin Judah.
Yn awr, dygwyddodd fod yr unfed flwyddyn ar ddeg a phedwar ugain wedi myned heibio, a bod chwe chan mlynedd o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem; ac yr oedd yn y flwyddyn pan yr oedd Lachoneus yn brif farnwr a llywodraethwr ar y tir. Ac yr oedd Nephi, fab Helaman, wedi ymadael allan o dir Zarahemla, ac wedi rhoddi gorchymyn i’w fab Nephi, yr hwn oedd ei fab hynaf, ynghylch y llafnau pres, a’r holl gof-lyfrau ag oedd wedi eu cadw, a’r holl bethau hyny a gadwyd yn gyssegredig, oddiar ymadawiad Lehi allan o Jerusalem; yna efe a ymadawodd o’r tir, ac i ba le yr aeth, nis gŵyr neb; a’i fab Nephi a gadwodd y cof-lyfrau yn ei le, ïe, hanes y bobl hyn.
A bu yn nechreu y ddeuddegfed flwyddyn a phedwar ugain, i brophwydoliaethau y prophwydi ddechreu cael eu cyflawni yn llwyrach; canys dechreuodd fod arwyddion mwy a gwyrthiau mwy yn cael eu cyflawni yn mhlith y bobl. Eithr yr oedd rhai a ddechreuent ddywedyd fod yr amser wedi pasio i’r geiriau gael eu cyflawni, y rhai a lefarwyd gan Samuel, y Lamaniad. A hwy a ddechreuent orfoleddu uwchben eu brodyr, gan ddywedyd, Wele, aeth yr amser heibio, ac nid yw geiriau Samuel wedi eu cyflawni; am hyny, mae eich llawenydd a’ch ffydd chwi ynghylch y peth hwn, wedi bod yn ofer. A bu iddynt wneuthur cynhwrf mawr trwy y tir; a’r bobl ag oedd yn credu a ddechreuent fod yn drist iawn, rhag trwy ryw fodd na ddeuai i ben y pethau hyny a lefarwyd. Eithr wele, hwy a ddysgwylient yn ddiysgog am y dydd hwnw, a’r nos hono, a’r dydd hwnw, y rhai a fyddent megys un dydd, fel pe na fyddai nos, fel y gallent wybod na fu eu ffydd yn ofer.
Yn awr, dygwyddodd fod dydd wedi ei neillduo gan yr anghredinwyr, i’r holl rai a gredent yn y traddodiadau hyny gael eu gosod i farwolaeth, os na ddygwyddai yr arwydd a roddwyd gan Samuel prophwyd. Yn awr, dygwyddodd pan welodd Nephi, mab Nephi, y drygioni hwn o eiddo ei bobl, i’w galon fod yn drist iawn. A bu iddo fyned allan ac ymgrymu i lawr ar y ddaear, a galw yn nerthol ar ei Dduw, ar ran ei bobl; ïe, y rhai ag oeddynt ynghylch cael eu dinystrio o herwydd eu ffydd yn nhraddodiad eu tadau. A bu iddo alw yn nerthol ar yr Arglwydd, trwy y dydd; ac wele, llef yr Arglwydd a ddaeth ato, gan ddywedyd, Dyrchafa dy ben ac ymgysura, canys wele, mae yr amser wrth law, a’r nos hon y caiff yr arwydd ei roddi, ac y fory yr wyf fi yn dyfod i’r byd, i ddangos i’r byd y cyflawnaf yr hyn oll a achosais i gael ei lefaru trwy enau fy mhrophwydi santaidd. Wele, yr wyf fi yn dyfod at fy eiddo fy hun, i gyflawni pob peth a hysbysais i blant dynion, er seiliad y byd, ac i wneuthur ewyllys y Tad, a’r Mab; y Tad, o’m plegid i, a’r Mab, oglegid fy nghnawd. Ac wele, mae yr amser wrth law, a’r nos hon y rhoddir yr arwydd.
A bu i’r geiriau a ddaeth at Nephi gael eu cyflawni, yn ol fel y llefarwyd hwynt; canys, wele, ar fachludiad yr haul, nid oedd dim tywyllwch; a’r bobl a ddechreuasant ryfeddu, o herwydd nad oedd tywyllwch pan ddaeth y nos. A llaweroedd o’r rhai nad oeddynt wedi credu geiriau y prophwydi, a syrthiasant i’r ddaear, ac a aethant fel pe byddent wedi marw, canys hwy a wyddent fod y cynllun mawr o ddinystr ag oeddynt wedi osod i’r rhai a gredent yn ngair y prophwydi, wedi cael ei rwystro; canys yr oedd yr arwydd a roddwyd eisoes wrth law; a hwy a ddechreuasant wybod fod yn rhaid i Fab Duw ymddangos ar fyrder; ïe, yn fyr, yr oedd yr holl bobl ar wyneb yr holl ddaear, o’r gorllewin i’r dwyrain, yn y tir gogleddol ac yn y tir deheuol, wedi rhyfeddu mor fawr, hyd nes y syrthiasant i’r ddaear; canys hwy a wyddent fod y prophwydi wedi tystiolaethu am y pethau hyn dros lawer o flynyddau, a bod yr arwydd a roddwyd eisoes wrth law; a hwy a ddechreuasant ofni oblegid eu hanwiredd a’u hanghrediniaeth.
A dygwyddodd na fu dim tywyllwch yr holl nos hono, eithr yr oedd mor oleu â phe buasai yn ganol dydd. A bu i’r haul godi yn y boreu drachefn, yn ol ei drefn reolaidd; a hwy a wyddent mai y diwrnod hwnw y cawsai yr Arglwydd ei oni, o herwydd yr arwydd a roddwyd. A daeth oddiamgylch bob peth, ïe, bob iot, yn ol geiriau y prophwydi. A bu hefyd i seren newydd ymddangos, yn ol y gair. A bu o’r pryd hwn allan, i gelwyddau ddechreu cael eu danfon allan i blith y bobl, gan satan, er caledu eu calonau, i’r dyben iddynt beidio credu yn yr arwyddion a’r rhyfeddodau hyny a welsant; ond er y celwyddau a’r twyll hyn, eredodd y rhan fwyaf o’r bobl, a dychwelwyd hwynt at yr Arglwydd. A bu i Nephi fyned allan yn mhlith y bobl, ae amryw ereill hefyd, gan fedyddio i edifeirwch, yn yr hyn yr oedd mawr faddeuant pechodau. Ac felly y dechreuodd y bobl drachefn gael heddwch yn y tir; ac nid oedd dim amrafaelion, oddieithr rhyw ychydig a ddechreuasant bregethu, gan ymdrechu profi trwy yr ysgrythyrau, nad oedd mwyach yn anghenrheidiol cadw cyfraith Moses. Yn awr, hwy a gyfeiliornent yn y peth hwn, gan nad oeddynt yn deall yr ysgrythyrau. Eithr dygwyddodd yn fuan iddynt gael eu dychwelyd, a’u hargyhoeddi o’r cyfeiliornad ag oeddynt ynddo, canys amlygwyd iddynt nad oedd y gyfraith etto wedi ei chyflawni, a bod yn rhaid iddi gael ei chyflawni bob iot; ïe, daeth y gair atynt fod yn rhaid iddi gael ei chyflawni; ïe, na chai un iot na thipyn fyned heibio hyd nes y cyflawnid hi oll: gan hyny, yn y flwyddyn hon, hwy a ddygwyd i wybodaeth o’u cyfeiliornad, a chyffesasant eu beiau. Ac felly y ddeuddegfed flwyddyn a phedwar ugain a aeth heibio, gan ddwyn newyddion da i’r bobl, oblegid yr arwyddion a fu, yn ol geiriau prophwydoliaeth yr holl brophwydi santaidd.
A bu i’r drydedd flwyddyn ar ddeg a phedwar ugain hefyd fyned heibio mewn heddwch, oddieithr fod yr yspeilwyr Gadiantonaidd, y rhai a drigent ar y mynyddoedd, yn aflonyddu y tir; canys yr oedd eu hamddiffynfeydd a’u dirgel-leoedd mor gedyrn, fel nas gallai y bobl eu gorchfygu hwynt; am hyny, hwy a gyflawnent amryw lofruddiaethau, ac a wnaent laddfa fawr yn mhlith y bobl. A bu yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg a phedwar ugain, iddynt gynnyddu i raddau mawr, oblegid yr oedd llawer o ymneillduwyr oddiwrth y Nephiaid yn ffoi atynt, yr hyn oedd yn achosi tristwch mawr i’r Nephiaid hyny ag oedd yn aros yn y tir; ac yr oedd hefyd achos o fawr dristwch yn mhlith y Lamaniaid; canys, wele, yr oedd ganddynt lawer o blant yn tyfu i fyny ac yn dechreu cryfhau mewn blynyddau, hyd nes dyfod i wneuthur drostynt eu hunain, ac arweiniwyd hwynt ymaith gan rai ag oedd yn Zoramiaid, trwy eu celwyddau a’u geiriau gwenieithus, i ymuno â’i yspeilwyr Gadiantonaidd hyny: ac felly y cystuddiwyd y Lamaniaid hefyd, ac y dechreuasant leihau o ran eu ffydd a’u cyfiawnder, o herwydd drygioni y genedlaeth oedd yn cyfodi.
A bu mai felly yr aeth heibio y bymthegfed flwyddyn a phedwar ugain hefyd, a’r bobl a ddechreuasant anghofio yr arwyddion a’r rhyfeddodau hyny a glywsant, a dechreuasant fod yn llai-lai synedig oblegid arwydd neu ryfeddod o’r nefoedd, yn gymmaint ag iddynt ddechreu fod yn gelyd yn eu calonau, a dall yn eu meddyliau, a dechreu anghredu yr hyn oll ag oeddynt wedi clywed a gweled, gan ddychymmygu rhyw beth ofer yn eu calonau, ei fod wedi ei gyflawni gan ddynion, a thrwy allu y diafol, er arwain ymaith a thwyllo calonau y bobl; ac felly y meddiannodd satan galonau y bobl drachefn, yn gymmaint ag iddo ddallu eu llyaid, a’u harwain ymaith i gredu fod athrawiaeth Crist yn beth ofer a ffol.
A bu i’r bobl ddechreu cynnyddu mewn drygioni a ffieidd-dra; ac ni chredent y rhoddid dim ychwaneg o arwyddion neu ryfeddodau; a satan a aeth oddiamgylch, gan arwain ymaith galonau y bobl, gan eu temtio, ac achosi iddynt wneuthur drygioni mawr yn y tir. Ac felly yr aeth heibio yr unfed flwyddyn ar bymtheg a phedwar ugain; ac hefyd y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg a phedwar ugain; ac hefyd y ddeunawfed flwyddyn a phedwar ugain; ac hefyd y bedwaredd ar bymtheg a phedwar ugain; ac hefyd yr oedd can mlynedd wedi myned heibio, oddiar ddyddian Mosiah, yr hwn oedd yn frenin ar bobl y Nephiaid. Ac yr oedd chwe chant a naw mlynedd wedi myned heibio, er pan adawodd Lehi Jerusalem; ac yr oedd naw mlynedd wedi myned heibio, er yr amser y rhoddwyd yr arwydd, am yr hon y llefarwyd gan y prophwydi, y deuai Crist i’r byd. Yn awr, dechreuodd y Nephiaid gyfrif eu hamser o’r cyfnod hwn pan roddwyd yr arwydd, neu o ddyfodiad Crist: gan hyny, yr oedd naw mlynedd wedi myned heibio, ac nid oedd Nephi, yr hwn oedd tad Nephi, yr hwn oedd a gofal y cof-lyfrau, wedi dychwelyd i dir Zarahemla, ac nis gellid ei gael mewn un man yn yr holl dir.
A bu i’r bobl aros o hyd mewn drygioni, yn ngwyneb y mawr bregethu a’r prophwydo a ddanfonwyd i’w plith; ac felly yr aeth heibio y ddegfed flwyddyn hefyd; a’r unfed flwyddyn ar ddeg hefyd a aeth heibio mewn drygioni. A bu yn y drydedd flwyddyn ar ddeg, ddechreu fod rhyfeloedd ac amrafaelion trwy yr holl dir; canys yr oedd yr yspeilwyr Gadiantonaidd wedi myned mor lliosog, ac yn lladd cynnifer o’r bobl, ac yn anrheithio cynnifer o ddinasoedd, ac yn taenu cymmaint o farwolaeth a chyflafan trwy y tir, nes yr aeth yn anghenrheidiol i’r holl bobl, y Nephiaid a’r Lamaniaid, gymmeryd arfau yn eu herbyn; am hyny, yr holl Lamaniaid ag oedd wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd, a ymunasant â’u brodyr, y Nephiaid, ac a orfodwyd, er diogelwch eu bywydau, a’u gwragedd a’u plant, i gymmeryd arfau yn erbyn yr yspeilwyr Gadiantonaidd hyny; ïe, ac hefyd i amddiffyn eu hiawnderau, a breintiau eu heglwys, a’u haddoliad, a’u rhyddid. A dygwyddodd cyn i’r drydedd flwyddyn ar ddeg hon fyned heibio, i’r Nephiaid gael eu bwgwth â llwyr ddinystr, o herwydd y rhyfel hwn, ag oedd wedi myned yn dra blin. A bu i’r Lamaniaid hyny a ymunasant â’r Nephiaid, gael eu cyfrif yn mhlith y Nephiaid: a’u melldith a gymmerwyd oddi arnynt, a daeth eu croen yn wỳn megys y Nephiaid; a’u gwyr ieuaine a’u merched a ddaethant yn dra theg, ac a gyfrifwyd yn mhlith y Nephiaid, ac a alwyd yn Nephiaid. Ac felly y terfynodd y drydedd flwyddyn ar ddeg.
A bu yn nechreu y bedwaredd flwyddyn ar ddeg, i’r rhyfel rhwng yr yspeilwyr a phobl Nephi barhau, a myned yn dra blin; er hyny, cafodd pobl Nephi beth mantais ar yr yspeilwyr, yn gymmaint ag iddynt eu gyru yn ol o’u tiroedd i’r mynyddoedd, ac i’w lleoedd dirgel. Ac felly y terfynodd y bedwaredd flwyddyn ar ddeg. Ac yn y bymthegfed flwyddyn, daethant allan yn erbyn pobl Nephi: ac o herwydd drygioni pobl Nephi, a’u hamryw amrafaelion ac ymraniadau, yr yspeilwyr Gadiantonaidd a gawsant lawer o fanteision arnynt hwy. Ac felly y terfynodd y bymthegfed flwyddyn, ac felly yr oedd y bobl mewn sefyllfa o amryw gystuddiau; ac yr oedd cleddyf dinystr yn hongian uwch eu penau, yn gymmaint â’u bod ynghylch cael eu taraw i lawr ganddo, a hyn o herwydd eu hanwiredd.