Scriptures
2 Nephi 9


Pennod Ⅸ.

Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Uzziah, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar orseddfa uchel a dyrchafedir, a’i odre yn llenwi y deml. Y seraphiaid oedd yn sefyll oddiar hyny; chwech adain ydoedd i bob un; â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef. A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, â’r tŷ a lanwyd gan fwg.

Yna y dywedais, Gwae fi; canys darfu am danaf; o herwydd gwr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac yn mysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo; canys fy llygaid a welsant y Brenin, Arglwydd y lluoedd. Yna yr ehedodd ataf un o’r seraphiaid, ac yn ei law farworyn a gymmerasai efe oddiar yr allor mewn gefail; ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod. Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a anfonaf? A phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.

Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond ni ddeallent; a chan weled gwelwch, ond ni wybyddent. Brasâ galon y bobl hyn, a thrymhâ eu clustiau, a chau eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu. Yna y dywedais, Pa hyd, Arglwydd? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigianydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn bwbl anghyfannedd, ac i’r Arglwydd bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yn nghanol y wlad.

Ond etto bydd degwm, a hwy a ddychwelant, ac a fwyteir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt; felly yr had santaidd fydd ei sylwedd hi.

A bu yn nyddiau Ahaz fab Jotham, fab Uzziah brenin Juda, ddyfod Resin brenin Syria, a Phecah mab Remalïah, brenin Israel, i fyny tua Jerusalem, i ryfela arni, ond ni allodd ei gorchfygu. A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddywedyd, Syria a gyd-syniodd ag Ephriam. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megys y cynhyrfa prenau y coed o flaen y gwynt. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Isaiah, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahaz, ti a Sear-Jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, yn mhrif-ffordd maes y panwr; a dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gynffon y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remalïah. Canys Syria, ac Ephraim, a mab Remalïah, a ymgynghorodd gynghor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd. Esgynwn yn erbyn Judah, a blinwn hi, torwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi, sef mab Tabeal; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Ni saif, ac ni bydd hyn. Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; c o fewn pum mlynedd a thriugain y torir Ephraim rhag bod yn bobl. Hefyd pen Ephraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remalïah. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.

A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahaz, gan ddyweddy, Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arno. Ond Ahaz a ddywedodd, Ni ofynaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd. A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Ddafydd, Ai bychan genych flino dynion, ond a flinwch hefyd fy Nuw? Am hyny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. Ymneyn a mêl a fwyty efe, fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da. Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad ffieiddiaist, gan ei dau frenin.

Yr Arglwydd a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Ephraim oddiwrth Judah, brenin Assyria. A bydd yn y dydd hwnw, i’r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn ngwr eithaf yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Assyria. A hwy a ddeuant, ac a orphwysant oll yn y dyffrynoedd anghyfanneddol, ac yn ngromlechydd y creigiau, ac yn y drain oll, ac yn y perthi oll. Yn y dydd hwnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, â brenin Assyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe. A bydd yn y dydd hwnw, i wr fagu anneir-fuwch, a dwy ddafad: bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir. A bydd y dydd hwnw, pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, a fydd yn fieri ac yn ddrain. A saethau ac â bwaäu y daw yno, canys yn fieri a drain y bydd yr holl wlad. Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain; ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.

Yn mhellach, gair yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymmer i ti rôl fawr, ac ysgrifena arni â phin dyn, am Maher-shalal-has-baz. A chymmerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlawn, Urïah yr offeiriad, a Zechariah fab Jeberechïa. Ac mi a nesêais at y brophwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr Arglwydd, Galw ei enw ef Maher-shalal-has-baz. Canys wele, cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus, ac yspail Samaria, a ddygir ymaith o flaen brenin Assyria.

A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, O herwydd i’r bobl hyn wrethod dyfroedd Siloah, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymmereyd llawenydd o Resin, a mab Remalïah: am hyny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Assyria, a’i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulenydd ef, a thrwy Judah y treiddia efe: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrhaedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.

Ymgyfeillachwch, bobloedd, a chwi a ddryllir, a gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir: ymwregyswch, a chwi a wneir yn ddrylliau. Ymgynghorwch gynghor, ac efe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif; canys y mae Duw gyda ni.

Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Cyd-fwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cyd-fwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch. Arglwydd y lluoedd ei hun a santeiddiwch; a bydded efe yn ofu i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi. Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerusalem. A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir. Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith yn mhlith fy nyscyblion. A minnau a ddysgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddiwrth dŷ Jacob, ac a wyliaf am dano. Wele fi a’r plant a roddes yr Arglwydd i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel, oddiwrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo yn mynydd Seion.

A phan ddywedant wrthych. Ymofynwch â’r swynyddion, ac â’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: oni ddylai pobl ymofyn â’u Duw? Er i’r byw glywed oddiwrth y meirw? At y gyfraith, ac at y dystiolaeth; oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt. A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melldithiant eu brenin a’u Duw, ac a edrychant i fyny. A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele, drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.

Etto ni bydd y tywyllwch yn ol yr hyn a fu yn y gofid; megys yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Zabulon a thir Naphtali, ac wedi hyny yn ddwysach y cystuddiwyd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilee y cenedloedd. Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr; y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angeu y llewyrchodd goleuni arnynt. Amlhëaist y genedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megys y llawenydd amser cynauaf, ac megys y llawenychant wrth ranu yspail. Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr. Canys pob câd y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a defnydd tân. Canys Bachgen a aned i ni, a Mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn. Tad tragywyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd llywodraeth a thangnefedd, ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei freniniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnhau â brn ac â chyflawnder, o’r pryd hwn, ac hyd byth. Sêl Arglwydd y llnoedd a wnaeth hyn.

Yr Arglwydd a anfonodd ei air i Jacob, ac efe a syrthiodd ar Israel. A’r holl bobl a wybydd, sef Ephraim a thrigianwyr Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, Y priddfeini a syrthiasant, ond â cheryg nadd yr adeiliadwn: y sycamorwydd a dorwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. Am hyny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Rasin yn ei erbyn ef, ac a gyssllta ei elynion ef ynghyd; y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd ar ol: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynedig.

A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u tarawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd. Am hyny y tỳr yr Arglwydd oddiwrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd. Yr henwr yw y pen: a’r prophwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon. Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni; a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. Am hyny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwyr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia; canys pob un o honynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynedig.

O herwydd anwiredd a lysg fel tân; y mïeri a’r drain a ysa efe, ac a gynneu yn nyrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg. Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid arbed neb ei frawd. Ac efe a gipia ar y llaw ddehau ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: Manasseh, Ephraim; ac Ephraim, Manasseh; hwythau ynghyd yn erbyn Judah. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynedig.

Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a’r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifenu blinder; i ymchwelyd y tlodion oddiwrth farn, ac i ddwyn braint anghenogion fy mhobl; fel y byddo gweddwon yn yspail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid! A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y dystryw a ddaw o bell? At bwy y ffowch am gynnorthwy? A pha le y gadewch eich gogoniant? Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynedig.

Gwae Assur, gwialen fy llid, a’r ffon yn eu llaw hwynt yw eu digofaint. At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy mgter y gorchymynaf iddo yspeilio yspail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megys tom yr heolydd. Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon: eithr y mae yn ei fryd ddyfetha a thori ymaith genedloedd nid ychydig. Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn freninoedd? Onid fel Charchemis yw Calno? Onid fel Arpad yw Hamath? Onid fel Damascus yw Samaria? Megys y sylfaenodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod, a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerusalem a Samaria: onid megys y gwnaethym i Samaria ac i’w heilunod, felly y gwnaf i Jerusalem ac i’w delwau hithau? A bydd pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith yn mynydd Seion, ac yn Jerusalem, yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef: canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwnaethym hyn, a thrwy fy noethineb; o herwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a’u trysorau a yspeiliais, ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gwr grymus; a’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megys y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai. A ymffrostia y fwyell yn erebyn yr hwn a gymmyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tỳno? megys pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megys pe ymddyrchafai y ffon, fel na byddai yn bren. Am hyny yr hebrwng yr Arglwydd, Arlwydd y lluoedd, yn mhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megys llosgiad tân. A bydd goleuni Israel yn dân, a’i Sanct ef yn fflam, ac a lysg ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd; gogoniant ei goed hefyd, a’i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff; a byddant megys pan les meirio banerwr. A phrenau gweddill ei goed ef a fyddant ychydig, fel y rhifo plentyn hwynt.

A bydd yn y dydd hwnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddiangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a’u tarawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd. Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn. Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill o honynt a ddychwel; darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder. Canys darfodedigaeth, a hono yn derfynedig, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yn nghanol yr holl dir.

Am hyny, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd. Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Assyriad: â gwialen y’th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn, yn ol ffordd yr Aifft. Canys etto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaint yn eu dinystry hwy. Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megys lladdfa Midian yn nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ol ffordd yr Aifft. A bydd yn y dydd hwnw, y symudir ei faich ef oddiar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddiar dy war di; a dryllir yr iau, o herwydd yr enneiniad. Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron, yn Michnas y rhoddes ei ddodrefn i gadw. Aethant trwy y rhŷd, yn Geba y llettyasant; dychrynodd Ramah; Gibeah Saul a ffoes. Bloeddia â’th lef, merch Galim: par ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd. Ymbellhaodd Madmenah: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi. Etto y dydd hwnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerusalem. Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a’r rhai uchel o gyrff a dorir ymaith, a’r rhai goruchel a ostyngir. Ac efe a dyr ymaith brysglwyni y coed â haiarn: a Libanus trwy un erf a gwymp.

Yna y daw y wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a orphwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cynghor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd; ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir. A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arenau. A’r blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r mynn; y llo hefyd a chenaw y llew, a’r anifail brâs, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain. Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gyd-orweddant: y llew fel yr ych a bawr wellt. A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. Ni ddrygant ac ni ddyfethant yn holl fynydd fy santeiddrwydd: canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr.

Ac yn y dydd hwnw, y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenedloedd: a’i orphwysfa fydd yn ogoniant. Bydd hefyd yn y dydd hwnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Assyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. Ac efe a gyfyd faner i’r cenedloedd, ac a gynnull grwydriaid Israel, ac a gasgl wasgaredion Judah o bedair congl y ddaear. Cenfigen Ephraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Judah a dorir ymaith: ni chenfigena Ephraim wrth Judah, ac ni chyfynga Judah ar Ephraim. Ond hwy a ehedant ar ysgwyddau y Philistiaid tua’r gorllewin; yn nghyd yr yspeiliant feibion y dwyrain: hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion Ammon fydd mewn ufydd-dod iddynt. Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac â’i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a’i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droedsych. A hi a fydd yn brif-ffordd i weddill ei bobl ef y rhai a adewir o Assyria, megys ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fyny o dir yr Aifft.

Yna y dywedi yn y dydd hwnw, Molaf di, O Arglwydd: er i ti sori wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri. Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. Am hyny, mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynnonau iachawdwriaeth. A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef yn mhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. Cenwch i’r Arglwydd; canys godidawgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.