Scriptures
2 Nephi 12


Pennod ⅩⅡ.

Ac yn awr, wele, fy mrodyr, mi a lefarais wrthych, yn ol fel fy nghymhellwyd gan yr ysbryd; am hyny, mi a wn yn ddiammau y bydd y pethau hyn. Y pethau a ysgrifenir allan o’r llyfr a fyddant yn werthfawr iawn i blant dynion, ac yn neillduol i’n had ni, yr hwn sydd weddill o dŷ Israel. Canys bydd yn y dydd hwnw, i’r eglwysi a adeiladir, ac nid i’r Arglwydd, ddywedyd o un wrth y llall, Wele, myfi wyf eiddo yr Arglwydd; a’r llall a ddywed, Myfinnau wyf eiddo yr Arglwydd. Ac fel hyn y dywed pob un fydd wedi adeiladu eglwysi, ac nid i’r Arglwydd; a hwy a amrysonant y naill â’r llall, ac a ddysgant â’u dysgeidiaeth hwy, ac a wadant yr Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn rhoddi ymadrodd. A hwy a wadant allu Duw, Sanct Israel; ac a ddywedant wrth y bobl, Gwrandewch arnom ni, a chlywch ein hathrawiaeth; canys wele, nid oes Dus heddyw, oblegid y mae’r Arglwydd a’r Gwaredwr wedi cyflawni ei waith, ac wedi rhoddi ei allu i ddynion. Wele, gwrandewch ar fy athrawiaeth i; os dywedant fod gwyrth yn cael ei chyflawni, trwy law yr Arglwydd, na chredwch; canys nid yw efe heddyw yn Dduw y gwyrthiau; y mae efe wedi cyflawni ei waith. Ië, aethant oll allan o’r ffordd; ac aethant yn llygredig. O herwydd balchder, ac o herwydd gau-athrawon, a gau-athrawiaeth, eu heglwysi a aethant yn llygredig; ac y mae eu heglwysi wedi ymddyrchafu; o herwydd balchder y maent yn ymchwyddo. Yspeiliant y tlodion o herwydd eu cyssegrfeydd gwychion; yspeiliant y tlodion o herwydd eu dillad gwychion; ac erlidiant y llariaidd, a’r tlawd ei galon; oblegid yn eu balchder yr ymchwyddant. Arferant warau syth a phenau uchel; ïe, ac o herwydd balchder a drygioni, a ffieidd-dra, a phuteindra, aethant oll ar gyfeiliorn, oddieithr ychydig, y rhai ydynt ganlynwyr gostyngedig Crist; er hyny, arweinir hwythau, nes mewn llawer o enghreifftiau y maent yn cyfeiliorni, oblegid eu dysgu mewn athrawiaethau dynion.

Ow! Y doeth, a’r dysgedig, a’r cyfoethog, y rhai ydynt wedi ymchwyddo yn malchder eu calonau, a’r holl rai sydd yn pregethu gau-athrawiaethau, a’r holl rai sydd yn cyflawni godineb, ac yn gŵyrdroi ffordd uniawn yr Arglwydd; gwae, gwae, gwae iddynt hwy, medd yr Arglwydd Dduw Hollalluog, canys hwy a wthir lawr i uffern.

Gwae y rhai hyny a wnant i’r cyfiawn ŵyro am beth coeg, ac a gablant yr hyn sydd dda, ac a ddywedant, Nid yw hwna o un gwerth: canys daw y dydd yr ymwêl yr Arglwydd Dduw ar frys â phreswylwyr y ddaear; ac yn y dydd hwnw y rhai a fyddant lwyr addfed mewn anwiredd, a ddyfethir. Ond wele, os edifarha preswylwyr y ddaear am eu hanwiredd a’u ffieidd-dra, ni ddyfethir hwynt, medd Arglwydd y lluoedd. Eithr wele, yr eglwys fawr hono, putain yr holl ddaear, a dreigla i’r llawr, a mawr fydd ei chwymp; canys teyrnas y diafol a gryna, a rhaid i’r rhai a berthynant iddi gael eu cynhyrfu i edifeirwch, neu ynte y diafol a’u crafanga hwynt yn ei gadwynau tragywyddol, a hwythau a gynhyrfir i ddigofaint ac a ddyfethir; canys wele, yn y dydd hwnw efe a rua yn nghalonau plant dynion, ac a’u cynhyrfa hwynt i ddigofaint yn erbyn yr hyn sydd dda; ac efe a heddycha ereill, ac a’u sia hwynt ymaith i ddiogelwch cnawdol, fel y dywedont, Mae pob peth yn dda yn Seion; ïe, y mae Seion yn llwyddo, a phob peth sydd dda; ac felly y mae’r diafol yn twyllo eu heneidiau, ac yn eu harwain ymaith yn ofalus i uffern. Ac wele, ereill a ddena efe ymaith, gan ddywedyd wrthynt nad oes uffern; ac efe a ddywed wrthynt, Nid wyf fi yn ddiafol, oblegid nid oes un; ac fel hyn y mae efe yn sibrwd yn eu clustiau, nes y crafango hwynt yn ei gadwynau ofnadwy, o ba le nid oes gwaredigaeth. Ië, hwy a grafangir gan farwolaeth, ac uffern; a marwolaeth, ac uffern, a’r diafol, a’r holl rai a gymmerwyd ganddynt, a gant sefyll o flaen gorseddfa Duw, ae a fernir yn ol eu gweithredoedd, o ba le y rhaid iddynt fyned i’r lle a barotowyd iddynt, ïe, llyn o dân a brwmstan, yr hyn yw poenedigaeth diddiwedd. Gan hyny, gwae yr hwn sydd yn esmwyth arno yn Seion. Gwae yr hwn a waeddo, Mae pob peth yn dda; ïe, gwae yr hwn a wrandawo ar athrawiaethau dynion, ac a wado allu Duw, a dawn yr Ysbryd Glân. Ië, gwae yr hwn a ddywedo, Ni a dderbyniasom, ac nid oes arnom eisieu ychwaneg. Ac yn fyr, gwae yr holl rai sydd yn crynu, ac yn ddigllawn o herwydd gwirionedd Duw. Canys wele, yr hwn sydd wedi ei adeiladu ar y graig, sydd yn ei dderbyn gyda llawenydd; a’r hwn sydd wedi ei adeiladu ar sylfaen dywodlyd, a gryna rhag iddo syrthio.

Gwae yr hwn a ddywedo, Ni a dderbyniasom air Duw, ac nid oes arnom eisieu ychwaneg o air Duw, canys y mae digon genym. Canys, wele, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, mi a roddaf i chwi, blant dynion, lin ar lin, gorchymyn ar orchymyn, ychydig yma ac ychydig acw; a gwynfyd y rhai a wrandawant ar fy ngorchymynion, ac a roddant glust i’m cynghor, oblegid hwy a ddysgant ddoethineb; canys i’r hwn sydd yn dweyd, Y mae genym ddigon, y cymmeraf ymaith yr hyn sydd ganddynt. Melldigedig yw yr hwn a ymddiriedo mewn dyn, neu a wnelo gnawd yn fraich iddo, neu a wrandawo ar orchymynion dynion, oddieithr fod eu gorchymynion yn cael en rhoddi trwy allu yr Ysbryd Glân.

Gwae y Cenedloedd, medd Arglwydd Dduw y lluoedd; canys er estyn o honof fy mraich atynt o ddydd i ddydd, etto hwy a’m gwadant; ere hyny, mi a fyddaf drugarog wrthynt, medd yr Arglwydd Dduw, os edifarhant a dyfod ataf fi; canys y mae fy mraich yn estynedig trwy ystod y dydd, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

Ond, wele, bydd llawer yn y dydd hwnw, pan elwyf rhagof i wneuthur gwaith rhyfeddol yn eu plith hwynt, fel y cofiwyf fy nghyfammodau y rhai a wnaethym â phlant dynion, fel y gosodwyf fy llaw etto yr ail waith i achub fy mhobl, y rhai ydynt o dŷ Israel; ac hefyd, fel y cofiwyf yr addewidion a roddais i tithau, Nephi, ac hefyd i’th dad, y byddai i mi gofio am eich had chwi; ac y byddai i eiriau eich had chwi ddyfod allan o’m genau i at eich had chwi. A’m geiriau i a chwibanant hyd eithafion y ddaear, i fod yn faner i’m pobl, y rhai ydynt o dŷ Israel. Ac o herwydd chwibanu o’m geiriau allan, llawer o’r Cenedloedd a ddywedant, Beibl, beibl, mae genym ni feibl, ac nis gall fod beibl arall. Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, O ffyliaid, hwy a gant feibl; a daw allan oddiwrth yr Iuddewon, fy mhobl gyfammodol gynt. A pha ddiolch a roddant hwy i’r Iuddewon am y beibl a dderbyniasant oddiwrthynt? Ië, pa beth a feddylia y Cenedloedd? A ydynt hwy yn cofio am deithiau, a llafur, a phoen yr Iuddewon, a’u dyfalwch tuag ataf fi, wrth ddwyn iachawdwriaeth i’r Cenedloedd.

O, Genedloedd, a ydych chwi wedi cofio am yr Iuddewon, fy mhobl gyfammodol gynt? Nac ydych; eithr yr ydych wedi eu melldithio hwynt, a’u cashau, ac ni cheisiasoch eu hachub hwynt. Ond wele, mi a ddychwelaf yr holl bethau hyn ar eich penau chwi eich hunain; canys nid wyf fi, yr Arglwydd, wedi anghofio fy mhobl. O ynfyd, a ddywedo, Beibl, mae genym ni feibl, ac nid oes arnom eisieu beibl arall. A gawsoch chwi feibl heblaw gan yr Iuddewon? Ai ni wyddoch chwi fod mwy nag un genedl? Ai ni wyddoch chwi mai myfi yr Arglwydd eich Duw sydd wedi creu pob dyn, a’m bod yn cofio am y rhai sydd ar ynysoedd y môr; a’m bod yn llywodraethu yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod; ac yr wyf yn dwyn allan fy ngair i blant dynion, ïe, sef i holl genedloedd y ddaear? Paham gan hyny, y grwgnachwch chwi, o herwydd y cewch dderbyn ychwaneg o’m gair? Ai ni wyddoch chwi fod tystiolaeth dwy genedl yn dystiolaeth i chwi mai myfi sydd Dduw, a’m bod yn cofio am un genedl fel y llall? Am hyny, yr wyf yn llefaru yr un geiriau wrth y naill fel y llall. A phan fyddo dwy genedl yn cyd-redeg, y mae tystiolaeth y ddwy genedl yn cyd-redeg hefyd. Ac yr wyf fi yn gwneuthur hyn, fel y profwyf i lawer, mai yr un wyf fi ddoe, heddyw, ac yn dragywydd; a’m bod yn llefaru fy ngeiriau yn ol dymuniad fy hun. Ac o herwydd fy mod wedi llefaru un gair, nid oes achos i chwi dybied nas gallaf lefaru un arall: canys nid yw fy ngwaith etto wedi ei orphen; ac ni chaiff ychwaith, hyd ddiwedd dyn; nac o’r amser hwnw allan yn dragywydd.

Am hyny, o herwydd fod genych feibl, nid oes achos i chwi dybied y cynnwysa fy holl eiriau i; ac nid oes achos i chwi feddwl na pherais i ychwaneg gael ei ysgrifenu; canys yr wyf yn gorchymyn i bawb, yn y dwyrain, ac yn y gorllewin, ac yn y gogledd, ac yn y deau, ac yn ynysoedd y môr, i ysgrifenu y geiriau wyf yn lefaru wrthynt: canys allan o’r llyfrau a ysgrifenir, y barnaf y byd, pob dyn yn ol ei weithredoedd, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig. Canys wele, mi a lefaraf wrth yr Iuddewon, a hwy a’i hysgrifenant; ac mi a lefaraf hefyd wrth y Nephiaid, a hwythau a’i hysgrifenant; ac mi a lefaraf hefyd wrth lwythau ereill o dŷ Israel, y rhai a arweiniais ymaith, a hwythau a’i hysgrifenant; ac mi a lefaraf hefyd wrth holl genedloedd y ddaear, a hwy a’i hysgrifenant.

A bydd i’r Iuddewon gael geiriau y Nephiaid, ac i’r Nephiaid gael geiriau yr Iuddewon; ac i’r Nephiaid a’r Iuddewon gael geiriau llwythau colledig Israel; ac i lwythau colledig Israel gael geiriau y Nephiaid a’r Iuddewon.

A bydd i’m pobl y rhai ydynt o dŷ Israel, gael eu casglu adref i diroedd eu hetifeddiaethau; a’m gair hefyd a gesglir yn un. Ac mi a ddangosaf i’r rhai a ryfelant yn erbyn fy ngair, ac yn erbyn fy mhobl, y rhai ydynt o dŷ Israel, mai myfi sydd Dduw, a’m bod wedi ymgyfammodi ag Abraham y cofiwn am ei had yn dragywydd.

Ac yn awr, wele, fy anwyl frodyr, yr wyf yn ewyllysio llefaru wrthych chwi; canys ni ddyoddefwn i Nephi, i chwi feddwl eich bod yn fwy cyfiawn nag y bydd y Cenedloedd. Canys wele, oddieithr i chwi gadw gorchymynion Duw, dyfethir chwithau yr un modd; ac o herwydd y geiriau a lefarwyd, nid oes achos i chwi feddwl fod y Cenedloedd wedi eu llwyr-ddyfetha. Canys wele, meddaf i chwi, cynnifer o’r Cenedloedd ag a edifarhant, ydynt yn bobl gyfammodol yr Arglwydd; a chynnifer o’r Iuddewon na edifarhant, a fwrir ymaith; canys nid yw yr Arglwydd yn ymgyfammodi â neb, oddieithr y rhal sydd yn edifarhau ac yn credu yn ei Fab, yr hwn yw Sanct Israel.

Ac yn awr, mi a ewyllysiwn brophwydo rhywfaint yn ychwaneg em yr Iuddewon a’r Cenedloedd. Canys ar ol i’r llyfr am ba un y llefarais ddyfod allan, a chael ei ysgrifenu i’r Cenedloedd, a’i selio drachefn i’r Arglwydd, bydd llawer a gredant y geiriau sydd yn ysgrifenedig; a hwy a’u dygant at weddill ein had ni. Ac yna gweddill ein had a gant wybod am danom ni, pa fodd y daethom allan o Jerusalem, a’u bod hwythau yn ddisgynyddion o’r Iuddewon. Ac efengyl Iesu Grist a draethir yn eu mysg hwynt; am hyny, hwy a ddygir i wybodaeth o’u tadau, ac hefyd i wybodaeth o Iesu Grist, yr hon a fodolai yn mysg eu tadau. Ac yna y gorfoleddant; canys hwy a gant wybod mai bendith yw iddynt o law Duw; a’u cèn o dywyllwch a ddechreua syrthio o’u llygaid: ac nid â llawer o genedlaethau heibio yn eu mysg, cyn y byddant yn bobl wynion a dymunol.

A bydd i’r Iuddewon gwasgaredig hefyd ddechreu credu yn Nghrist; a dechreuant ymgasglu ar wyneb y tir; a chynnifer a gredant yn Nghrist, a ddeuant hefyd yn bobl ddymunol.

A bydd i’r Arglwydd Dduw ddechreu ei waith yn mhlith pob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, er dwyn oddiamgylch adferiad ei bobl ar y ddaear. A’r Arglwydd Dduw a farna y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb. Ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir; canys y mae’r amser yn dyfod ar frys y pair yr Arglwydd Dduw ymraniad mawr yn mhlith y bobl; a’r drygionus a ddyfetha efe; ac a arbed ei bobl, ïe, hyd y nod pe byddai raid iddo ddyfetha y drygionus trwy dân. A chfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arenau. Ac yna y blaidd a drig gyda’r oen, a’r llewpard a orwedd gyda’r mŷn; y llo hefyd, a chenaw y llew, a’r anifail brâs fyddant ynghyd, a bachgen bychan a’u harwain. Y fuwch hefyd a’r arth a borant ynghyd; a’u llydnod a gydorweddant; y llew, fel yr ŷch, a bawr wellt. A’r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law. Ni ddrygant ac ni ddyfethant yn holl fynydd fy santeiddrwydd; canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr.Am hyny, gwneir pethau yr holl genedloedd yn adnabyddus; ïe, pob peth a wneir yn hysbys i blant dynion. Nid oes dim dirgel, na ddadguddir; nid oes weithredoedd y tywyllwch, na amlygir yn y goleuni; ac nid oes dim seliedig ar y ddaear, na ryddheir. Am hyny, pob peth a ddadguddiwyd i blant dynion, a ddadguddir yn y dydd hwnw; ac ni chaiff satan awdurdod ar galonau plant dynion mwyach, am hir amser. Ac yn awr, fy anwyl frodyr, y mae yn rhaid i mi ddiweddu fy ymadroddion.