Pennod Ⅱ.
Ac yn awr, dygwyddodd wedi i’r brenin Benjamin orphen llefaru y geiriau a draethwyd iddo gan angel yr Arglwydd, iddo daflu ei olygon oddiamgylch ogylch ar y dyrfa, ac wele, yr oeddynt wedi syrthio i’r ddaear, canys ofn yr Arglwydd a ddaeth arnynt; a gwelsant eu hunain yn eu sefyllfa gnawdol eu hunain, ïe, yn llai nâ llwch y ddaear. A gwaeddasant oll yn groch gydag un llef, gan ddywedyd, O cymmerer trugaredd, a chymhwyser gwaed iawnol Crist, fel y derbyniom faddeuant o’n pechodau, ac y purer ein calonau; canys credwn yn Iesu Grist, Mab Duw, yr hwn a greodd y nef a’r ddaear, a phob peth; yr hwn a ddaw i waered i fysg plant dynion.
A bu ar ol iddynt lefaru y geiriau hyn i ysbryd yr Arglwydd ddyfod arnynt, a hwy a lanwyd o lawenydd, wedi derbyn maddeuant o’u pechodau, a chael heddwch cydwybod, o herwydd y ffydd fawr oedd ganddynt yn Ieus Grist yr hwn a ddeuai, yn ol y geiriau a lefarodd y brenin Benjamin wrthynt. A’r brenin Benjamin a agorodd ei enau drachefn, ac a ddechreuodd lefaru wrthynt, gan ddywedyd, Fy nghyfeillion a’m brodyr, fy nhylwyth a’m pobl, mi a ewyllysiwn etto alw eich sylw, fel y clywoch ac y dealloch weddill fy ngeiriau y rhai a lefaraf wrthych; canys wele, os yw gwybodaeth am ddaioni Duw y pryd hwn wedi eich deffroi i ystyriaeth o’ch bychander, ac o’ch sefyllfa syrthiedig a diwerth; yr wyf yn dywedyd wrthych, pe buasech wedi dyfod i wybodaeth o ddaioni Duw, a’i allu digyffelyb, a’i ddoethineb, a’i amynedd, a’i hir-ymaros tuag at blant dynion, ac hefyd yr iawn a barotowyd er seiliad y byd, fel y deuai iachawdwriaeth trwyddi i’r sawl a osodai ei ymddiried yn yr Arglwydd, ac a fyddai yn ddiwyd i gadw ei orchymynion, a pharhau yn y ffydd hyd ddiwedd ei einioes; meddyliwyf einioes y corff marwol; y dyn hwn, meddaf, yw yr un a dderbynia iachawdwriaeth, trwy yr iawn a barotowyd er seiliad y byd i holl ddynolryw, y rhai a fu erioed er cwymp Adda, neu y rhai ydynt, neu a fyddant nod hyd ddiwedd y byd; a dyma y moddion trwy ba rai y mae iachawdwriaeth yn dyfod. Ac nid oes un iachawdwriaeth arall, heblaw yr hon y llefarwyd am dani; ac nid oes ychwaith ammodau ereill trwy y rhai y gall dyn gael ei achub, heblaw yr ammodau a fynegais wrthych. Credwch yn Nuw; credwch ei fod, ac mai efe a greodd bob peth, yn y nef ac ar y ddaear; credwch fod ganddo bob doethineb, a phob gallu, yn y nef ac ar y ddaear; credwch nas gall dyn amgyffred yr holl bethau y gall Duw eu hamgyffred. A thrachefn: Credwch y rhaid i chwi edifarhau am eich pechodau a’u gadael, ac ymostwng gerbron Duw; a gofyn mewn cywirdeb calon am iddo faddeu i chwi; ac ynfawr, os ydych yn credu yr holl bethau hyn, gofalwch eu gwneuthur. A thrachefn dywedaf wrthych megys y dywedais o’r blaen, Megys y daethoch i wybodaeth o ogoniant Duw, neu os adnabuasoch ei ddaioni, a phrofi ei gariad, a derbyn maddeuant o’ch pechodau, yr hyn a achosa y fath lawenydd dirfawr yn eich eneidiau, felly hefyd mi a ewyllysiwn i chwi gofio, a chadw yn wastadol yn eich cof, fawredd Duw, a’ch bychander eich hunain, a’i ddaioni a’i hir-ymaros ef tuag atoch chwi, greaduriaid annheilwng, ac ymostwng hyd y nod i ddyfnderau gostyngeiddrwydd, gan alw ar enw yr Arglwydd yn feunyddiol, a sefyll yn ddiysgog yn ffydd yr hyn sydd i ddyfod, yr hyn a lefarwyd trwy enau yr angel; ac wele, medaf i chwi, os gwnewch hyn, chwi a orfoleddwch yn wastadol, ac a lenwir â chariad Duw, ac a ddaliwch afael yn y maddeuant pechodau a gawsoch; a chwi a gynnyddwch mewn gwybodaeth am ogoniant yr hwn a’ch creodd, neu mewn gwybodaeth am yr hyn sydd gyfiawn a chywir. Ac ni chewch awyddfryd i niweidio eich gilydd, ond i fyw yn heddychlawn, ac i roddi i bob dyn yn ol yr hyn sydd ddyledus iddo. Ac ni oddefwch i’ch plant fyned yn newynog, neu yn noeth; ac ni oddefwch iddynt ychwaith i droseddu cyfreithiau Duw, nac ymladd a chweryla y naill â’r llall, na gwasanaethu y diafol, yr hwn yw meistr pechod, neu yr hwn yw yr ysbryd drwg a lefarwyd am dano gan ein tadau; yr hwn sydd yn elyn pob cyfiawnder; eithr chwi a’u dysgwch i rodio yn ffyrdd gwirionedd a sobrwydd; chwi a’u dysgwch i garu eu gilydd, a gwasanaethu y naill y llall; ac hefyd, chwi eich hunain a amgeleddwch y rhai a safant mewn anghen am eich amgeledd; chwi a gyfranwch o’ch eiddo i’r hwn sydd mewn eisieu; ac ni oddefwch i’r cardotyn osod ei erfyniad o’ch blaen yn ofer, a’i droi ymaith i drengu. Efallai y dywedi di, Mae y dyn wedi dwyn ei drueni arno ei hun, am hyny mi a attaliaf fy llaw, ac ni roddaf iddo o’m hymborth, na chyfranu iddo o’m heibio fel na ddyoddefo, canys ei gosp sydd gyfiawn. Eithr yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, O ddyn, pwy bynag a wnelo hyn, mae gan y cyfryw achos amwr i edifarhau; ac oddieithr iddo edifarhau am yr hyn a wnaeth, y mae efe yn trengu yn dragywyddol, ac nid oes ganddo gyfran yn nheyrnas Dduw. Canys wele, ai nid cardotwyr ydym oll? Ai nid ydym oll yn ymddibynu ar yr un bod, sef Duw, am yr holl bethau a feddwn; am fwyd a dillad, ac am aur ac arian, ac am yr holl gyfoeth sydd genym o bob math? Ac wele, hyd y nod yr amser hwn, buoch yn galw ar ei enw, ac yn erfyn am faddeuant o’ch pechodau. Ac a oddefodd efe i chwi erfyn yn ofer? Naddo; efe a dywalltodd allan ei ysbryd arnoch, ac a achosodd i’ch calonau lenwi o lawenydd, ac a achosodd i’ch geneuau gael eu cu, fel nad allech gael ymadrodd, gan mor fawr oedd eich llawenydd. Ac yn awr, os yw Duw, yr hwn a’ch creodd, ac ar yr hwn yr ymddibynwch am eich bywydau, ac am bob peth sydd genych, yn rhoddi i chwi pa beth bynag a ofynoch ag sydd yn iawn, mewn ffydd, gan gredu y derbyniwch, O, ynte, pa fodd y dylech gyfranu i’ch gilydd o’r pethau sydd genycn? Ac os bernwch y dyn a esyd ei erfyniad o’ch blaen am gyfran o’r pethau sydd genych rhag trengu, a’i gondemnio ef, pa faint cyfiawnach y bydd eich condemniad chwithau am attal eich eiddo, yr hwn ni pherthyn i chwi, eithr i Dduw, i’r hwn hefyd y perthyn eich bywyd; ac etto ni osodwch erfyniad i fyny, nac edifarhau am y peth a wnaethoch. Yr wyf yn dywedyd wrthych, Gwae y dyn hwnw, canys ei eiddo a ddyfethir gydag ef; ac yn awr, yr wyf yn dywedyd y pethau hyn wrth y rhai sydd yn gyfoethog, mewn perthynas i bethau y byd hwn. A thrachefn meddaf wrth y tlodion, chwi y rhai nid oes genych, ac etto sydd genych ddigon, eich bod yn aros o ddydd i ddydd; meddyliwyf chwi oll y rhai a omeddwch i’r cardotyn, o herwydd nad oes genych; mi a fynwn pe dywedech yn eich calonau, Nid wyf yn rhoddi, oblegid nad oes genyf; ond pe buasai genyf, mi a roddaswn. Ac yn awr, os ydych yn dywedyd hyn yn eich calonau, yr ydych yn aros yn ddieuog; pe amgen, yr ydych wedi eich condemnio, a’ch condemniad sydd gyfiawn; canys yr ydych yn chwennych yr hyn na dderbyniasoch.
Ac yn awr, er mwyn y pethau hyn a lefarais wrthych; hyny yw, er mwyn diogelu maddeuant o’ch pechodau o ddydd i ddydd, fel y rhodioch yn ddieuog gerbron Duw, mi a ewyllysiwn i chwi gyfranu o’ch eiddo i’r tlodion, pob dyn yn ol yr hyn sydd ganddo, megys porthi y newynog, dilladu y noeth, ymweled â’r claf, a gweini i’w cymhorth, yn ysbrydol a thymmorol, yn ol eu hanghenion, ac edrych fod yr holl bethau hyn yn cael eu gwneuthur mewn doethineb a threfn; canys nid yw yn ofynol i ddyn redeg yn gyflymach na allo. A thrachefn: y mae yn anghenrheidiol iddo fod yn ddiwyd, fel trwy hyny yr ennillo y wobr; gan hyny, rhaid i bob peth gael ei wneuthur mewn trefn. Ac mi a fynwn i chwi gofio, y dylai pwy bynag a fenthycio oddiar ei gymmydog, ddychwelyd yr hyn a fenthycio, yn ol fel y cytuno, onide y mae yn cyfiawni pechod, ac efallai yr achosa i’w gymmydog gyflawni pechod hefyd. Ac yn olaf, nis gallaf fynegi wrthych yr holl bethau trwy y rhai y gellwch gyflawni pechod; canys y mae amryw ffyrdd a moddion, ïe, gynnifer, fel nas gallaf eu cyfrif. Ond hyn a allaf ddywedyd wrthych, os nad ydych yn gwylio arnoch eich hunain, ac ar eich meddyliau, ac ar eich geiriau, a’ch gweithredoedd, a chadw gorchymynion yr Arglwydd, a pharhau yn ffyddiog yn yr hyn a glywsoch ynghylch dyfodiad ein Harglwydd, ïe, hyd ddiwedd eich einioes, y dyfethir chwi. Ac yn awr, O ddya, cofia, ac na ddyfether di.