Scriptures
Jacob 4


Pennod Ⅳ.

Ac yn awr, wele, fy mrodyr, megys y dywedais wrthych y byddai i mi brophwydo, wele, dyma fy mhrophwydoliaeth. Fod yn rhaid i’r pethau a lefarodd y prophwyd Zenos hwn, ynghylch tŷ Israel, yn y rhai y cyffelybodd hwynt i olewydden ddôf, ddyfod i ben. A’r dydd y gesyd efe ei law etto yr ail waith i achub ei bobl, yw y dydd, ïe, sef yr amser diweddaf, yr â gweision yr Arglwydd allan yn ei nerth ef, i wrteithio a thrin ei winllan: ac ar ol hyny, mae y diwedd yn dyfod ar frys. A pha mor wynfydedig yw y rhai a lafuriasant yn ddyfal yn ei winllan ef: a pha mor felldigedig yw y rhai a fwrir allan i’w lle eu hun! A’r byd a losgir â thân. Ac mor drugarog yw ein Duw i ni: canys y mae efe yn coflo tŷ Israel, gwreiddiau a changenau; ac y mae efe yn estyn allan ei ddwylaw atynt trwy gydol y dydd; a hwythau ydynt bobl wargaled a gwrthddywedgar; ond cynnifer ni chaledant eu calonau, a achubir yn nheyrnas Dduw. Am hyny, fy anwyl frodyr, deisyfaf arnoch mewn geiriau sobrwydd, i edifarhau, a dyfod gyda llawn fwriad calon, a glynu wrth Dduw megys ag y glyna efe wrthych chwi. A thra y mae ei fraich drugarog yn estynedig atoch yn ngoleu y dydd, na chaledwch eich calonau. Ië, heddyw, os clywch ei leferydd ef, na chaledwch eich calonau; canys paham y byddwch feirw? Canys wele, ar ol i chwi gael eich meithrin â gair daionus Duw trwy gydol y dydd, paham y dygwch ffrwyth drwg, fel y rhaid eich tori i lawr a’ch taflu i’r tân? Wele, a wrthodwch chwi y geiriau hyn? A wrthodwch chwi eiriau y prophwydi? Ac a wrthodwch chwi yr holl eiriau a lefarwyd ynghylch Crist, ar ol i gynnifer lefaru am dano ef; a gwadu gair daionus Crist a gallu Duw, a dawn yr Ysbryd Glân, a dddiffodi yr Ysbryd Santaidd? A gwneuthur gwawd o gynllun mawr y waredigaeth a drefnwyd i chwi? Ai ni wyddoch chwi os gwnewch y pethau hyn, y dygir chwi gan allu y waredigaeth a’r adgyfodiad sydd yn Nghrist, i sefyll gyda chywilydd ac euogrwydd ofnadwy gerbron brawdle Duw? Ac yn ol gallu cyfiawnder, canys ni ellir gwadu cyfiawnder, y bydd raid i chwi fyned i’r llyn hono sydd yn llosgi o dân a brwmstan, yr hon sydd â’i fflamau yn anniffoddadwy, a’i mwg yn esgyn i fyny yn oes oesoedd, yr hon lyn o dân a brwmstan yw poenedigaeth diddiwedd. O, ynte, fy anwyl frodyr, edifarhewch, ac ewch i mewn trwy y porth cyfyng, a pharhewch yn y ffordd yr hon sydd gul, hyd nes y cyrhaeddoch fywyd tragywyddol. O, byddwch ddoeth: beth a allaf ddywedyd yn ychwaneg? Yn ddiweddaf, yr wyf yn rhoi ffarwel i chwi, hyd nes y cyfarfyddaf â chwi gerbron brawdle ddymunol Duw, yr hon frawdle a dery y drygionus â dychryn a braw. Amen.